bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Celf a Chrefft 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Eisteddfod Celf a Chrefft 2002
Detholwyr
Enillwyr
Arddangosfa
Dewis y bobl
Comisiwn Madog
Casgliad Derek Williams
Gwen John
Giardelli
Graham Sutherland

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

HYFRYDWCH DISGYBLEDIG ARTHUR GIARDELLI

James Nicholas

Yn y Cilgwyn, Castellnewydd Emlyn ar ddiwedd y pum-degau y gwelais ac y clywais Arthur Giardelli yn darlithio am y tro cyntaf. Yr oedd ef newydd gychwyn ar ei waith yn diwtor yn Adran Efrydiau Allanol, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yr oedd yn traethu ar gyfoeth y traddodiad Baroc yng nghanolbarth Ewrop ac am gyfoeth orielau Fienna. Trawodd fi ar unwaith fel gwr tra diwylliedig a oedd wedi meddiannu ysbryd y Dadeni Dysg. Roedd ei feistrolaeth o amryw feysydd dysg ac ieithoedd y cyfandir yn ei roi mewn safle unigryw i egluro a dehongli’r traddodiad Ewropeaidd. Wedi hynny y deuthum i’w adnabod a chefais y fraint o’i groesawu i Ysgol y Preseli lle bu’n sgwrsio gyda’r disgyblion am gelfyddyd arlunwyr.

Daeth Arthur Giardelli i Gymru i fyw pan symudodd y teulu o Lundain i Amroth, Sir Gaerfyrddin yn 1928. Ond yn 1940 y bu’r digwyddiad tyngedfennol yn ei hanes. Yn 1934 penodwyd ef yn athro Ffrangeg a Saesneg Ysgol Ramadeg Folkestone ac yn 1940 symudodd yr ysgol dros gyfnod y rhyfel i Ferthyr Tudful. Dyna pryd y cofrestrodd Arthur ei hun yn wrthwynebydd cydwybodol, ac o ganlyniad collodd ei swydd yn yr ysgol. Dyma’r adeg pan welodd lawer o garedigrwydd a chymorth gan y Crynwyr (fel y bu, flynyddoedd yn ddiweddarach, yn hanes un o’i gyd-diwtoriaid yn Aberystwyth, Waldo). Yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd bu’n gwasanaethu’n rhan amser yn y Gwasanaeth Tân, bu hefyd yn athro cerddoriaeth yn Ysgol Ramadeg Cyfarthfa a bu’n darlithio ar Hanes Celfyddyd Ewrop o dan nawdd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr. Ar ôl bod yng Ngwlad yr Haf rhwng 1945-46 dychwelodd i Gymru i fyw yn Nhalacharn yn 1947, ac yna i Bentywyn, Sir Gaerfyrddin yn 1948. Ugain mlynedd yn ddiweddarach yn 1969 symudodd i Sir Benfro i ‘The Golden Plover’, Warren, lle arhosodd tan heddiw. Treuliodd felly dros ddeg mlynedd ar hugain o’i oes greadigol yn Sir Benfro.

Ar hyd ei oes faith ymroes Arthur Giardelli i addysgu ei gynulleifa. Nid mater o rannu gwybodaeth yw darlithio iddo ef, eithr ennyn brwdfrydedd a thanio’r myfyrwyr i weld – gweld o’r newydd – wrth astudio gweithiau celfyddyd. Ac o ganlyniad i hyn y mae ganddo’r awydd i gyfoethogi ansawdd bywyd drwy geisio roi i bobl yr hyn sy’n cyfoethogi bywyd ar sail celfyddyd. Daw hyn i’r amlwg yn ‘The Delight of Painting’ sef Darlith Goffa W.D. Thomas a draddodwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Nhachwedd 1975 ac a gyhoeddwyd gan y Coleg. Yno y mae’n dyfynnu Nicholas Poussin "The purpose of painting is to give delight", ac yna y mae’n ymchwilio yng nghorff y ddarlith i wir ystyr y dyfyniad. Cofiaf ymweld ag arddangosfa o waith Eric Gill yn Oriel Whitworth, Prifysgol Manceinion yn 1980 a’r pennawd a roddwyd iddi oedd ‘Strict-Delight’ – wedi ei gymryd o ddyfyniad gan Eric Gill mewn llythyr at William Rothenstein "as music binds into a strict-delight". Ein dysgu i ddarganfod yr hyfrydwch disgybliedig hwn a wna Arthur Giardelli yn ei ddarlithoedd, ei ysgrifau ar gelfyddyd, ac yn ei waith creadigol ei hun.

Ceir enghraifft rhagorol o hyn yn yr hyn sydd ganddo i’w ddweud am gelfyddyd ei gyfaill – y bardd a’r arlunydd David Jones. Daeth i gysylltiad â David Jones drwy’r arlunydd Ray Howard-Jones. Yr oedd eisoes yn edmygydd mawr o’i waith ac o ddod i’w adnabod, bu’n hynod o hael wrth geisio dehongli natur ei gelfyddyd. Ceir dwy enghraifft rhagorol o hyn mewn dwy ysgrif sydd ganddo yn rhifyn arbennig ‘Agenda’, cyflwynedig i David Jones, ‘Trystan ac Esyllt’ a ‘Three Related Works by David Jones’ Wrth gwrs roedd Giardelli mewn sefyllfa fanteisiol wrth lunio’r ysgrifau hyn – yr oedd wedi graddio yn Rhydychen mewn Ffrangeg, Eidaleg ac Astudiaethau Llenyddol. O ganlyniad yr oedd wedi darllen chwedl Trystan ac Esyllt mewn fersiwn gynnar gan Béroul, ac yr oedd ganddo hefyd wrth law y sylwadau manwl a wnaed gan David Jones wrth iddo ddisgrifio’r llun ynghyd â dangos gwead cymhleth y berthynas rhwng Trystan ac Esyllt. Yn hyn i gyd deuwn wyneb yn wyneb â’r ‘Hyfrydwch’, y ‘Delight’, a sylwer hefyd yr Hyfrydwch Disgybledig neu fanwl-gywir. Onid dyma mewn gwirionedd seiliau camp Cerdd Dafod Gymraeg? Ac yn sicr yr oedd David Jones wedi astudio Cerdd Dafod, celfyddyd y ‘seiri cerdd’ fel y galwai ef y penceirddiaid. (Dywedodd unwaith wrth Aneurin Talfan Davies ‘mai testun gorau’r artist yw’r drydedd adnod yn yr ail Salm ar hugain wedi’r ganfed "Jerusalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chyd-gysylltu ynddi ei hun".)

Yn ei waith fel darlithydd a dehonglwr y traddodiad Ewropeaidd mewn paentio, dysgu’r cyd-gysylltu a wna Arthur Giardelli ac yn ei waith creadigol ei hun amlygu’r cyd-gysylltu mewn nifer o sefyllfaoedd a chyfryngoedd a wna yntau, a thrwy ei gamp greadigol ei hun peri bod Hyfrydwch, a hwnnw’n hyfrydwch disgybledig neu fanwl-gywir.

Gellir dweud fod Arthur Giardelli wedi torri ei gwys ei hun ym maes celfyddyd ac wedi gweithio’n egnïol a di-arbed drwy’r blynyddoedd i ddarlunio rhyfeddod bod a byw. Ni wnaf i ond nodi’n syml yr hyn a adawodd ôl annileadwy arnaf o’r gwaith cynnar yr oeddwn yn gyfarwydd ag ef.

Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun un o’r pethau mawr a’i trawodd o ddod i fyw i Sir Benfro oedd y môr – y môr mawr sy’n amgylchynu gymaint o diriogaeth y fro. Dyma arlunydd a gerddodd draethau eang a godidog y sir ac a geisiodd ddirnad dirgelwch y môr ynghyd â’r patrymau rhyfeddol a edy ei lanw a’i drai ar y tywod. Ac ar hyd y llinell ddirgel honno rhwng llanw a thrai y casglodd froc môr a droes yn emau yn ei batrymau artistig. Yn ffodus, y mae ef wedi disgrifio’r modd yr aiff ati i lunio’r gwaith:

"I had always been conscious while painting in Pembrokeshire, Dowlais and Carmarthenshire that I was seeking to express myself in an ancient language developed by generations of artists. I knew that the abstract art I was trying to use was organically connected with all that had gone before. But the visual elements which I wished to compound had to do with tides running over wide stretches of sand slate, mist, whitewash, stone walls, drift wood, flights of starlings or oystercatchers. I could find no better way of getting the tone of slate into my work and its characteristic kind of break than by making my pictures of this material. So the slate became a headland, or the grey sea or sky. I turned spars and oars I picked up on the beach, I sliced up with my saw, into flights of birds swooping away from me at dusk. From shell dust, corks from fishermen’s nets, drift wood and bits of brass cut up from taps that leaked I made my images of the arrows of foam which trail behind incoming breakers. I was given all kinds of things people didn’t want any more – a piano, cart wheels, broken furniture, brooms, snapped spade handles; and I worked with them. I learnt the magic of the medium: to make the sun out of yellow mud. I have learnt how closely our ordinary speech is related to experiences which shown to the eye can revitalize the idea: touching, meeting, parting, apporaching. I know it is impossible to say in words what a picture can convey ina glance or under sensitive, penetrating examination.

Dyfynais y paragraff yn llawn (fel y ceir ef yn Artists in Wales, Gol., Meic Stephens, Gwag Gomer, 1971) oherwydd y dengys yn well na dim arall ddulliau gwaith ac amcanion artistig sydd y tu ôl i gymaint o waith Arthur Giardelli. Yn wir y mae’r paragraff uchod i’w gymharu â llythyr a sgrifennwyd gan Graham Sutherland yn disgrifio tiriogaeth a glannau môr Sir Benfro a fu gymaint ysbrydoliaeth i’w awen greadigol yntau a’r modd y gwelwyd y gwrthrychau a’i ysbrydolodd, a’r modd y ceisiwyd mynegi a phortreadu yr annirnadwy.

Dyma ddau artist mawr yn cael ysbrydoliaeth yn yr un sir, yn gweld ac yn mynegi eu hunain mewn dulliau tra gwahanol i’w gilydd ond y ddau ohonynt yn llwyddo i beri gweld o’r newydd a hynny mewn ffordd ryfeddol.

Eleni a’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Dyddewi y mae’n dra addas bod yr Brifwyl yn cydnabod camp Arthur Girardelli ac yn diolch iddo am ei waith. Bu ef yn arddangos ei waith yn flynyddol am ddwy flynedd ar bymtheg yng Nghapel y Santes Fair sydd ynghlwm wrth yr Eglwys Gadeiriol. Yno y cyfarfu â channoedd o ymwelwyr, pobl ac artistiaid a ddeuair i’r ddinas ac a ymhyfrydai mewn gweld gweithiau artistig. Cai foddhad arbennig wrth drafod y lluniau a chael eu hymateb i’w waith. Yno y byddai’r arlunydd yn arddangos a’r athro yn dysgu a’r cwbl mor agos at ffynonellau ei ysbrydoliaeth.

Mewn lluniau a gwrthrychau unigryw llwyddodd, a hynny’n aml ar seiliau cerddorol neu fathemategol i fapio allan fyd dieithr ar brydiau, ond byd lle trawsnewidiwyd y cynefin agos-atom yn anghynefin ystyrlawn. Deil ei gelfyddyd i’n syfrdanu.

Gweler hefyd:
Arthur Giardelli: Paintings, Constructions, Relief Sculptures, Derek Shiel, Seren 2001

A R T I S T I A I D

A - H | I - O | P - Y

ysgoloriaeth pensaerniaeth
Katrina AllenKatrina Allen
Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.

Paul de HoxarPaul de Hoxar
Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.

y fedal aur - pensaerniaeth
Pembroke Design CyfPembroke Design Cyf
Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).

Plac Pensaerniaeth
Maredudd ab IestynMaredudd ab Iestyn
Enillydd Plac Teilyngdod.
Crefft a Dylunio
Ruth HarriesRuth Harries
Atalwyd Medal Aur Crefft a Dylunio ond rhoddwyd Cymeradwyaeth Uchel a gwobr o £2,500 i Ruth Harries.

Celfyddyd Gain
Ifor DaviesIfor Davies
Enillydd y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain

Paul BeauchampPaul Beauchamp
Enillydd gwobr o £2000 (Celfyddyd Gain)
artist ifanc
Lowri DaviesLowri Davies
Enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc 2001
Sara FletcherSara Fletcher
Enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc 2002

Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy