Atalwyd Medal Aur Crefft a Dylunio ond rhoddwyd Cymeradwyaeth Uchel a gwobr o £2,500 i Ruth Harries.

"Mae fy ngwaith yn tynnu ar fy ymateb i'r pethau sydd o'm cwmpas, yr awyrgylch neu'r meddyliau y maent yn eu hennyn, yn ailgydio mewn amser a diwrnod," meddai.
"Mae fy ngwaith presennol yn dal darnau o ddelweddau y sylwais arnynt yn ystod y nos wrth ofalu am fy merch fach.
"Y nos, gyda'i dangnefedd, ei lonyddwch a'i bresenoldeb.
Bydd y golau'n amrywio, lliwiau'n gynnil, haenog, siapiau'n aneglur, ffurfiau'n dod i'r golwg wrth i'r llygaid addasu i'r tywyllwch o'm cwmpas.
"Rwy'n mwynhau teimlad ac ansawdd cyffyrddadwy y pwythau a byddaf yn defnyddio cyfuniad o bwythau â pheiriant a llaw mewn dull rhydd a llawn mynegiant.
"Byddaf yn gweithio'n uniongyrchol, yn gadael iddo dyfu a datblygu'n reddfol ac yn rhydd yn ystod y broses o greu."