 | Pryniad ar gyfer Casgliad Derek Williams, Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd
Dros y pum mlynedd diwethaf, yn dilyn ymweliadau â stiwdios artistiaid a welwyd yn Eisteddfodau'r blynyddoedd hynny, mewn cydweithrediad ag Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol a'r Eisteddfod Genedlaethol, fe brynwyd gweithiau gan Ymddiriedolwyr Derek Williams.
Ychwanegwyd y rhain at gasgliad cynyddol o gelfyddyd gyfoes Gymreig o eiddo'r Ysgoloriaeth sydd i'w canfod yng nghyd-destun y Casgliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.
Eleni, dan y cynllun parhaol hwn, prynodd yr Ymddiriedolaeth ‘Pawen’ gan Philip Nicol, enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2001.
|
 |