 | ARLUNYDD SIR BENFRO: GRAHAM SUTHERLAND (1903-1980) Tim Egan
Ag yntau wedi ei eni yn Llundain a’i addysgu yng Ngholeg Epsom, Surrey a Choleg Goldsmith ym Mhrifysgol Llundain, mae’n debyg y bydd llawer yn ei weld yn beth rhyfedd dewis Graham Sutherland yn arlunydd o Sir Benfro. Ni fu erioed yn byw yn y sir nac yn berchen ty yno, gan ddewis yn hytrach aros gyda ffrindiau (o leiaf yn ystod ei ail gyfnod yn Sir Benfro) neu yng Ngwesty’r Lord Nelson yn Aberdaugleddau. Beth, felly, a’i denodd i begwn mwyaf gorllewinol Cymru a beth gadwodd ei ddiddordeb yno, yn awr ac yn y man, am dipyn tros ddeugain mlynedd?
Mae’r ateb yn yr argraff a wnaeth tirlun Sir Benfro arno yn fuan wedi i Gwymp Wall Street yn 1929 ddinistrio’r busnes llewyrchus oedd ganddo yn gwerthu ‘printiau cain’ i gasglwyr yn America ac yng Ngwledydd Prydain ac a fu’n gynhaliaeth iddo tan hynny. Er i Sutherland dderbyn hyfforddiant lawn mewn celfyddyd gyffredinol yng ngholeg Goldsmith, gadawodd y coleg wedi arbenigo mewn ysgythru, yn drwm dan ddylanwad yr artist Frederick Landseer Griggs, a oedd yn adnabyddus am y lluniau ar gyfer cyfres Macmillan o astudiaethau topograffig y rhanbarthau, yr ‘Highways & Byways’. Yn ystod y 1920au, cafwyd cyfres ragorol o ysgythriadau neo-ramantus gan Sutherland yn atseinio Blake a Palmer ganrif ynghynt, yn llawn o’r traddodiad gwledig o bentrefi o fythynnod cerrig, o hwsmonaeth wledig ac elfennau tebyg, ond bod pob un yn ogystal wedi ei drwytho â nodweddion arbennig gwaith Sutherland ei hun, oedd yn aml yn gwthio’r ffurf geometrig i’r eithaf. Gyda chwymp y farchnad arian aeth y farchnad ar gyfer y gweithiau hyn yn hesb hefyd, a throdd Sutherland yn gyflym i fod yn ddyluniwr masnachol, yn gweithio ar lestri pridd, gwydr, tecstilau a phapur wal, posteri trafnidiaeth a stampiau, yn ogystal â dysgu yng Ngholeg Celf Chelsea.
Hyd yn hyn, fodd bynnag, nid oedd wedi profi ei allu i’r eithaf. Yna yng ngwanwyn 1934, dilynodd awgrym Robert Wellington, o Oriel Zwemmer yn Charing Cross Road yn Llundain, a theithio Sir Benfro am y tro cyntaf. Roedd cyfuniad unigryw y sir o amgylchedd y môr a’r tir yn ddeniadol tu hwnt i Sutherland a rhoddodd ddewis newydd o liwiau i’r palet oedd ganddo. Yma hefyd roedd tirlun cyfoethog o ran hanes - o gyfnod cyn-hanes, trwy gyfnod Cristnogol y Canol Oesoedd i olion y gorffennol diwydiannol diweddar. Yn yr ardal o gwmpas Tyddewi yr arhosodd Sutherland y tro cyntaf, a’r flwyddyn ganlynol cafwyd y braslun bach dwbl, hynod gywrain, ‘Solfach a’r Cwm uwchben Porthclais’, yn ogystal â ‘Blodau’r Camri’, ‘Bryniau Solfach’, ‘Alarch yn Solfach’ a ‘Chrafanc Archgimwch’. Yna yn 1936 daeth ‘Cerrig mewn Cae’(un o’i weithiau gorau yn ei farn ef ei hun). Dyma weld am y tro cyntaf ffurf o gelfyddyd y byddai’n troi ati eto tua therfyn ei oes yn y darluniau olew meistrolgar diweddar a baentiwyd ar gyfer ei Sefydliad yng Nghastell Pictwn. Dilynwyd hyn yn 1938 gan lithograff cynnar, ‘Clegyr-Fwya’ (‘Clegyr Boia’) , sy’n nodi’r trawsnewid o’i dechneg graffig gynnar i gyfrwng newydd y bu’n ei archwilio hyd at 1979. Mae ‘Aber â Chreigiau’(1937-8) hefyd yn dangos darn o’r blaendraeth yn Sandy Haven, man y byddai’n dychwelyd iddo mewn cyfnod diweddarach, a gyda’r un lliwiau hefyd.
Ond roedd rhyfel yn bygwth, hyd yn oed yn Sir Benfro. Roedd awyrennau’r Luftwaffe wedi hedfan dros ddinas Abertawe yn1938 er mwyn creu mapiau o’r dociau ac o ganol y ddinas mewn cyfres o luniau eglur iawn a dynnwyd o’r awyr. Roedd Sutherland ei hun wedi bod yn pryderu am ei ddyfodol pe deuai rhyfel ac yn ei archifau mae gohebiaeth deimladwy y flwyddyn honno rhyngddo â Kenneth Clark (Cyfarwyddwr yr Oriel Genedlaethol yn Llundain), ynglyn â’r posibilrwydd o yrfa iddo fel artist cudd-liw. Byddai’r Ty Gwyn, eu cartref yn Trottiscliffe, yng Nghaint, mewn perygl pe digwyddai i’r gelyn oresgyn y tir neu gynnal ymgyrchoedd bomio uwchben Llundain.
Yn 1940, penodwyd Sutherland yn Artist Rhyfel Swyddogol, ac ar y dechrau paentiodd, mewn dyfrlliw llachar a gouache, rai o’r cofnodion mwyaf trawiadol o’r cyrchoedd awyr yn ninas Llundain ac yn y pen dwyreiniol. Oherwydd natur sensitif y testun, yr oedd yn aml yn gweithio o luniau a dynnwyd yn gyntaf gan y Swyddfa Gwybodaeth Ganolog, lle’r oedd ei gyfaill, Kenneth Clark, yn bennaeth. Yr oedd yn dal i ymweld â Sir Benfro pan ddeuai cyfle rhwng y comisiynau swyddogol, ac yn Hydref 1941, ymwelodd â Chaerdydd wedi i’r gwaethaf o’r bomio ar Lundain ddod i ben. Ac yn 1943 aeth i’r Pwll Du ger Y Fenni, i baentio cofnod o’r ffrynt diwydiannol gartref. Serch hynny, efallai mai ei luniau dyfrlliw a gouache, o’r dinistr yng nghanol Abertawe yw’r gwaith mwyaf cofiadwy, eu lliwiau llachar yn dod o’i brofiad yn Sir Benfro, a’r cywirdeb pensaernïol manwl yn dod o gael ei hyfforddi fel drafftsmon peirianyddol.
Yn y 1940au yr ymwelodd Sutherland am y tro cyntaf â blaenau Afon Cleddau a chyfarfod yr adeg honno hefyd â pherchennog Castell Pictwn, Johnny, (Syr John Phillipps) a oedd yn byw ar y pryd mewn un adain yn unig o’r castell. Roedd yr ardal hon i ddod yn lle annwyl iawn i’r artist o’r 1970au ymlaen. Dyma’r cyfnod y daeth draenen Penfro i’w eirfa weledol, pan oedd comisiwn a dderbyniwyd ym 1944 gan Eglwys Sant Mathew, Northampton, ar gyfer Y Croeshoeliad (1946) yn gofyn am ddelwedd briodol ar gyfer coron ddrain y Crist. Daeth y llwyddiant yma â chyfres o gomisiynau crefyddol gan Anglicaniaid a Phabyddion yn ei sgil. Cyrhaeddodd hynny ei benllanw yn y tapestri dorsal i Eglwys Gadeiriol Coventry: ‘Crist mewn Gogoniant yn y Tetramorff ’.
Ond yn 1944 a 1945 aeth ei waith fel Artist Rhyfel â Sutherland i Ffrainc, lle cofnododd y difrod a wnaethpwyd gan y cynghreiriaid i weithiau rhyfel yr Almaen ar dir Ffrainc. Ewrop oedd tarddiad y datblygiad mawr nesaf iddo fel artist, oherwydd ar ôl 1947, yn ystod absenoldeb o ymron i ugain mlynedd o Sir Benfro, datblygodd ei balet o liwiau gwyrdd a glas o arfordir Gorllewin Cymru yn lliwiau sychach melynddu ac ocr y tirlun ar lannau y Môr Canoldir. Bellach, yn dilyn comisiwn yn 1949 i baentio William Somerset Maugham, yr oedd ei waith yn cynnwys portreadau, a ddaeth â chleientiaid newydd, enwog a chyfoethog i’w stiwdio.
O ddiwedd y 1940au, ystyrid Sutherland fwyfwy yn un o artistiaid pwysicaf gwledydd Prydain, yn destun arddangosfeydd ledled Ewrop. Gwnaeth ei borteadau a’i dirluniau arbrofol ef yn enwog ac erbyn 1955 roedd yn gallu prynu villa ar ochr bryn y tu allan i Menton yn ne Ffrainc, cartref o waith y cynllunydd Eileen Gray. Mewn llyfr yn 1960, disgrifiwyd Sutherland gan y beirniad Douglas Cooper fel "artist mwyaf nodedig a mwyaf gwreiddiol Lloegr yng nghanol yr 20fed ganrif… Heddiw, ni all yr un arlunydd o Sais gymharu â Sutherland o ran cynildeb ei weledigaeth, nerth ei ddelweddau a sicrwydd ei gyffyrddiad."
Nid tan 1965 y cydnabuwyd yn union faint o ddyled oedd ar yr arlunydd i Sir Benfro, hyd nes i gynhyrchydd ffilm ifanc o Eidalwr, Pier Paolo Ruggerini, gyfarfod ag ef a’i wraig, Kathy, yn ystod arddangosfa adolygiadol o’i waith yn Oriel Ddinesig Celfyddyd Fodern Twrin. Gwnaeth ansawdd y gwaith gryn argraff ar Ruggerini a holodd beth fu’r ysbrydoliaeth i ddawn mor amrywiol. Yn ddiweddarach, trefnodd y cynhyrchydd daith ffilmio yn ôl i Gymru i chwilio am ‘wreiddiau’ Sutherland, y mannau hoff yn y darluniau cynnar o Sir Benfro lle oedd yr arlunydd wedi cael cystal hwyl ar ddal anian y fan a’r lle.
O 1967 ymlaen, dychwelodd Sutherland i Sir Benfro yn aml. Darluniodd aberoedd Afon Cleddau unwaith yn rhagor, mewn llyfr brasluniau ac mewn paent. Yn ystod y deuddeng mlynedd wedi hynny, ailymwelodd â mannau ei ieuenctid neo-ramantus ond eto fe ychwanegodd atynt o’i brofiad mwy diweddar o weithio ar dirlun, ar bortreadu ac ar waith comisiwn crefyddol. Roedd hefyd yn ystyried gosod casgliad o’i waith yn rhywle lle gallai’r arlunydd a’r lleygwr ill dau, ei fwynhau. Yn wreiddiol, yn ei gartref ym Menton - La Villa Blanche - yr oedd hyn i fod. Fodd bynnag, wrth iddo ddod yn fwy a mwy o ffrindiau gyda theulu Philippiaid Castell Pictwn, cynigiwyd yr hen dai golchi yng nghwrt Fictoraidd y Castell fel lle i’w harddangos.Yr oedd yn fis Mehefin 1976 cyn i Oriel Graham Sutherland agor, ond rhoddodd hynny gyfle i’r artist gasglu enghreifftiau o’i waith yn waddol i’r oriel yn ogystal â chyfle iddo baentio nifer o gynfasau mawr a meistrolgar ar gyfer ei muriau., Ysbrydolwyd ambell un gan le penodol ond mae eraill megis ‘Llanisan-yn-Rhos’ (St Ishmaels) (1974-5) yn gymysgedd o wahanol themâu, ac yn cynnwys elfennau o nifer o ffynonellau, weithiau filltiroedd oddi wrth ei gilydd. Mae ambell i destun megis ‘Yr Heol ym Mhorthclais â’r haul yn Machlud’ (1975) yn edrych ar fan cynharach a ddarluniwyd gyntaf yn unlliw ym 1935, ond gan roi i’r testun olch o liwiau llachar dan lif o belydrau’r haul ar ei fachlud. Fframiwyd pob un o’r darluniau olew mewn mowldiau llydain fflat â haen aur o waith Alfred Hecht y gwneuthurwr fframiau a chyfaill i Sutherland. Cynlluniwyd y dodrefn ar gyfer yr oriel gan yr artist ei hun gan ddynwared celfi’r drysau a’r mowldiau yn La Villa Blanche ym Menton. Ar y dechrau , ymwelodd niferoedd lawer â’r Oriel ond wrth i’r incwm ostwng, daeth Sefydliad Graham a Kathleen Sutherland i ben ym mis Hydref 1989. Trosglwyddwyd y casgliadau, yr archif a’r llyfrgell i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a fu’n rhedeg yr Oriel tan fis Hydref 1995, pan gaeodd Oriel Graham Sutherland oherwydd i nifer yr ymwelwyr fynd yn llai ac yn llai.
Er 1996 unwyd y casgliad gyda’r casgliad o weithiau Sutherland a oedd eisoes ym meddiant Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ac mae’r gweithiau, bron i wyth gant ohonynt, wedi eu rhestru yn drylwyr, a’u cadw a’u hail osod yn unol â’r safonau cadwraeth gorau. Fe’u defnyddir yn aml gan fyfyrwyr ac fe’u harddangoswyd yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y- Pysgod (1996), Castell Bodelwyddan (1997) ac Oriel Turner House, Penarth (1998 a 2000-2001). Newydd da yn ddiweddar yw fod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn anelu at gael cartref newydd i ‘Ganolfan Sutherland’ yn ymyl ei Ganolfan Groeso bresennol yn Nhyddewi. Byddai hynnny’n golygu dod â’r casgliad yn ôl i’w ‘gynefin’ ac y byddai’r arddangosfa fechan hon yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro, Tyddewi yn fan priodol i ddangos rhai o’i drysorau i’r ymwelwyr. |
 |