Enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc 2002

"Cefais fy hyfforddi yng Nghasnewydd i wneud gwaith ffilm naratif confensiynol ond mae'r rhan fwyaf o'm gwaith wedi bod yn waith arbrofol i'w arddangos mewn orielau neu mewn safleoedd sy'n briodol i'r darn. "Oherwydd y cefndir deuol yma rydw i'n tueddu i gael fy nenu at archwilio'r ffin rhwng sinema a fideo, ac yn enwedig natur a rôl naratif a stori y tu fewn i'r ddwy ddisgyblaeth. "Mae cynnwys gweledol a naratif fy ngwaith ffilm a fideo yn aml yn troi o gwmpas y syniad o hiraeth am y gorffennol neu blentyndod, a'r teimladau dilynol o rwystredigaeth a all fygu'r cymeriadau - a'r gwylwyr hefyd.
"Mae cwestiynau ynghylch voyeurism, a'r rhan mae'r gwylwyr yn ei chwarae yn yr hafaliad, hefyd o ddiddordeb mawr i mi wrth weithio.
"Byddwn yn dweud fy mod i'n cael fy nylanwadu gan bob math o bethau, ond rwy'n ymddiddori mewn unrhyw beth sy'n awgrymu rhyw rym swreal, arswydus a rhyfedd yn cuddio o dan ein bywydau cyffredin pob dydd, pa ffurf bynnag mae hynny'n ei gymryd.
"Rwy'n cael fy ysbrydoli felly gan waith y cyfarwyddwr David Lynch, ac mae'r ffilm The Night of the Hunter gan Charles Laughton hefyd yn ddylanwad mawr ar fy ngwaith. "Yn y byd celf rwy'n teimlo fod gwaith yr artist Christian Boltanski yn arbennig o brydferth ac y mae wedi cael effaith fawr - mae'n hudol, dwys a bregus."