Enillydd Plac Teilyngdod.

Ar ôl profiad eang mewn sawl maes pensaerniol - o waith arbenigol yn y maes tai i bractis cymysg a masnachol - ym 1994 penderfynais fentro ar fy liwt fy hun. Mae'r gwaith canlynol ar y gweill neu wedi eu cwblhau yn ddiweddar: - Adeilad adnoddau technegol i gwmni Barcud Derwen sy'n cynnwys ystafelloedd offer technegol, stiwdio dybio ac ystafelloedd golygu ac ôl-gynhyrchu
- Addasu ac adfer adeiladau o fewn waliau tref Caernarfon e.e swyddfa i gwmni cyfieithu Cymen
- Ymestyn swyddfeydd ac adnoddau golygu i gwmni teledu Dime Goch yng Nghaernarfon
- Estyniadau i dai yng Nghricieth, Penisarwaun, Caerdydd, Y Felinheli, Caernarfon a Phwllheli
- Cynllun Canolfan Roc, Bethesda- addasu capel yn stiwdio recordio, ystafelloedd ymarfer cerddoriaeth a gofod perfformio.
- Ty 'gwyrdd' sy'n defnyddio ynni'r haul a deunydd naturiol ger Llanddaniel, Ynys Môn
Cae'r Gors, Rhosgadfan- adfer cartref Dr Kate Roberts a chodi adeilad cynnal seminarau
- Ty newydd yng Nghaernarfon
- Parc, maes chwarae a llefydd hamdden yn Y Felinheli
- Ymestyn ac ail-gynllunio Canolfan Sain yn Llandwrog
- Cynllunio ar gyfer mentrau cydweithredol lleol yng Nghlynnog a Llithfaen
- Canolfan Treftadaeth newydd i ardal Bethesda yng Nghwynedd
- Amgueddfa Bysgota Cymru- adeilad newydd i'w leoli ar y cei ym Mhorthmadog
- Gwella ac ymestyn garej Clynnog Fawr a chreu siop a chaffi newydd i'r Cwmni Cydweithredol lleol
- Canolfan groeso Nant Gwrtheyrn
- Adfer adeiladau rhestredig yr Hen Faracs yn Nantlle a'u haddasu'n weithdai
Athroniaeth y practis yw un o barch tuag at yr amgylchfyd naturiol ac adeiladol. Credaf y dylai adeiladau newydd asio a chyfrannu tuag at eu hamgylchfyd boed mewn tref, ar ystad ddiwydiannol neu yn y wlad. Dylid defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf ac fe ddylai pob adeilad newydd adlewyrchu'r oes. Fe ddylai hyn redeg law yn llaw â manylu effeithiol, trefnu cytundebau adeiladu di-drafferth a sicrhau gwerth am arian i'r cleient. Credaf mewn dylunio cynaladwy a defnyddio deunydd a chyflogaeth lleol, ac mae ymateb i safle a'i chyd-destyn a ffurfio athroniaeth dylunio unigol ar gyfer pob prosiect yn hanfodol i'w lwyddiant.
TY NEWYDD, Y CLOGWYN, CAERNARFON LL55 1HY, Gwynedd
Pensaer: Maredudd ab Iestyn RIBA
Peiriannydd: EP Thornton Associates, Tacoma, Queens Drive, Bae Colwyn
Cleient: Maredudd ab Iestyn, Angharad Jones a Sara Maredudd
Is-gontractwyr:
Gwaith daear: O Jones, Penbrynhuddig, Abererch, Pwllheli
Ffram bren: Jones Homes, Llandyrnog, Dinbych
Gwaith coed: Huw Roberts, Bethel, Caernarfon
Gwaith dur: Dewi Jones, Eifion Engineering, Caeau Pellaf, Chwilog.
Disgrifiad: Ty deulawr ffram bren yw Ty Newydd a adeiladwyd rhwng 1998 a 2000 ar safle mewnlenwi mewn ardal preswyl o'r dref. Mae'r fframwaith, sydd o safon ynysu uchel, wedi ei orchuddio gyda byrddau coed, gwaith bloc wedi ei rendro, gwaith bric wedi ei beintio a dur wedi ei galfaneiddio. Gorffenniad o lechi lleol sydd ar y to. Mae'r ty ar ffurf un gogwydd (monopitch) gyda estyniad ategol ar yr edrychiad gogleddol. I greu diddordeb yn y toeau mae twr y grisiau wedi ei leoli rhwng y ddau do arall ar lefel uwch ac chyda gogwydd croes.
O fewn y ty, mae'r ystafelloedd gwely, ymolchfa a swyddfa ar y llawr isaf gyda'r prif ystafelloedd byw a'r gegin wedi eu lleoli uwchben. Mae'r llawr cyntaf wedi ei ymestyn gyda dau falconi, un yng nghefn a'r llall ym mlaen yr adeilad. Mae hefyd croglofft fechan yng ngofod y to uwchben y gegin tra bo gweddill yr ystafelloedd llawr cyntaf yn agored i gefn y to.
Yn fewnol hefyd mae dau 'dwr', un ar gyfer y grisiau a'r llall ar gyfer y llyfrgell. Mae'r tyrau yma wedi eu goleuo'n naturiol gyda ffenestri to uwchben sydd yn dod a golau dydd i ganol y ty ac yn awyru'r ty yn naturiol. Mae'r cysylltiad i'r ardd yn bwysig ac mae dwy o'r ysfafelloedd ar y llawr isaf yn agor allan yn syth i'r ardd. Mae rhan o'r ardd wedi ei chynllunio fel ystafell allanol gyda sgriniau a chysgod haul a lle tân ar gyfer gwresogi a choginio.
Cynlluniwyd y ty i gymeryd mantais o'r golygfeydd, golau (a gwres) yr haul a'r coed aeddfed oedd ar y safle. Mae'r balconi cefn yn agor allan i'r coed yng nghefn y safle ac yn dal haul y bore tra bo'r balconi ym mlaen yr adeilad yn gwynebu'r machlud. Lleolwyd ffenestri i fframio golygfeydd penodol ac i osogoi edrych dros dai cyfagos.