 | SYLWADAU'R DETHOLWYR Mae wedi bod yn anrhydedd i ni wasanaethu'r Eisteddfod fel aelodau o'r panel dethol, ac mae'r broses wedi bod, yn ei thro, yn ddiddorol, yn heriol, yn addysgiadol ac yn ddifyr.Mae'n amlwg fod y crefftau a chelfyddyd weledol yn ffynnu yma yng Nghymru (ac ymhlith artistiaid Cymreig y tu allan iddi) ym mhob ffordd ac ar bob lefel. Mae'r arddangosfa hon wedi ei gwreiddio yn y syniad na ellir cael gðwyl greadigol heb unigolion creadigol; pobl sydd yn meddwl yn ddyfeisgar, sy'n agored ac yn hyblyg, ac sy'n barod i fentro yn ddeallusol.
Yr oedd ystod y cyfryngau a'r dulliau o fynegiant a gyflwynwyd i'n sylw yn anferth, ac roedd yn gyffrous i weld cymaint o artistiaid yn defnyddio dulliau annhraddodiadol. Wrth gwrs, roedd amrywiaeth a niferoedd y gwaith a gyflwynwyd ynddo'i hunan yn gwneud ein tasg yn un anodd, a gwnaed hyn yn anos byth wrth i ni geisio asesu'r gwaith a gyflwynwyd ar sleidiau yn gywir, a cheisio cymharu - er yn anuniongyrchol - waith a gyflwynwyd ar sleidiau (paentiadau, cerflunwaith, gemwaith, tecstiliau, cerameg, celfi a chrefftau eraill) gyda gwaith a gyflwynwyd yn y cnawd, fel petai, (ffotograffiaeth, fideo). Mae'n werth crybwyll bod nifer o weithiau a gyflwynwyd wedi cael eu gwrthod oherwydd ansawdd gwael y sleidiau. Roedd rhai yn aneglur oherwydd diffyg ffocws, roedd eraill yn cyflwyno holl gynnwys yr ystafell fyw neu'r iard gefn ynghyd â'r gwaith ei hun. Ar y llaw arall, roedd y rhwystredigaethau hyn yn cael eu lliniaru wrth i ni weld rhai cyn-enillwyr ac arddangoswyr yn dal i gyflwyno gwaith sydd yn cynnal safon, datblygiad, a thrywydd cydlynol yr arddangosfa. Mewn gwrthgyferbyniad, beth sydd yn wir siomedig yw bod rhai sydd eisoes wedi cyflawni eu hamcan - sef ennill - yn ymatal rhag cyflwyno gwaith wedi hynny.
O ran cefndir, agwedd a chwaeth personol, roedd y panel bron mor amrywiol â'r gwaith a gyflwynwyd; ond wrth inni gwrdd o gyfarfod i gyfarfod, ac wrth i'n dadlau esgor ar drafodaethau, ymddangosai fod ein cyd-gyfathrebu yn graddol wella, ac yn y diwedd - er yn dal at yr hawl i anghytuno - ein bod wedi datblygu'n dîm cydlynus. Cytunwyd mai'r peth gorau, petai modd gwneud hynny'n, fyddai arddangos mwy nag un gwaith o gynnyrch yr artistiaid neu'r crefftwyr hynny a ddewiswyd - gan roi i'r cyhoedd felly olwg mwy cynhwysfawr ar oreuon celfyddyd a chrefft Cymru.
Siomwyd ni gan rai agweddau o'r cyflwyniadau crefft. Roedd yna nifer o eithriadau canmoladwy, ond o ran ehangder (ac, i ryw raddau, safon) nid oeddent yn llawn gyfateb i'r hyn a dybiem ni yn fywiogrwydd byd y crefftau yng Nghymru. A yw'r gwneuthurwyr yn ei chael hi'n anodd i ymddiried chwe darn safonol o waith i broses hir ac ansicr y dethol? Nid oes ateb rhwydd i'r broblem hon, ond fe ellid efallai annog mwy o gyflwyniadau drwy hysbysebu yn y cyfryngau crefft. A ellid gofyn i wneuthurwyr gyflwyno sleidiau o weithiau sy'n ‘debyg' i'r rhai fyddai ar gael i'w harddangos?
Serch yr anawsterau sy'n codi o'r broses o ddethol, dros amser fe ddaeth yn glir pwy fyddai'n cael eu gwobrwyo neu eu cymeradwyo. Mae gwniadwaith cofiadwy Ruth Harries yn dangos gweledigaeth ddofn, bersonol, wedi ei gwireddu drwy gyfrwng edafedd, ynghyd ag angerdd sy'n gafael. Llawenydd i ni oedd dod ar draws y gwaith hwn, a gobeithiwn y bydd i'r Gymeradwyaeth ysgogi datblygiad pellach. Mae ffotograffau Paul Beauchamp yn dangos medrusrwydd hynod; mae i'w ddelweddau, sydd wedi eu cyfansoddi'n gampus, ymdeimlad miniog a chyflwyniad caboledig.
Gwaith Ifor Davies, "Yr Ysgrifen ar y Mur: Dinistr Iaith a Chymuned", oedd y ddelwedd annileadwy a arhosodd gyda ni gydol y broses o ddethol. Dyma artist hynod o ddeallus a meddylgar, aeddfed a chyflawn, ond eto yn hollol ffres, ac yn dal i wthio ffiniau a chonfensiynau yn egnïol ac yn ddyfeisgar. Mae'n creu gwaith sy'n eithriadol o brydferth, gwaith sy'n apelio i'r galon, y meddwl a'r dychymyg.
James Campbell, Tim Davies, D Michael Francis, Audrey Walker, Nathalie Weadick |
 |