Enillydd y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain

Cadw'r Chwedlau'n Fyw - Ifor Davies
Rwy'n ymddiddori'n fawr mewn cynddelwau ac archdeipiau - yn enwedig yr enghreifftiau enwocaf yn hanes Cymru.Does dim modd gwahanu mytholeg, iaith a hanes oddi wrth faterion cyfoes. Gall gweithredwyr a ddioddefodd sensoriaeth neu eu dwyn i garchar neu eu camdrin am ymladd dros iawnderau gwleidyddol, cymdeithasol neu ieithyddol, ddod yn arwyr neu hyd yn oed yn chwedlau yn eu hoes eu hunain. Ond mae'r sefydliadau swyddogol sy'n ymdrin ag archaeoleg a hanes yn rymoedd gwleidyddol nerthol y nhw sy'n dewis a dethol pwy a beth sy'n bwysig.
Os oedd William Williams Pantycelyn yn eicon ar waliau pawb lai na chan mlynedd yn ôl, nid yw'r rhan fwyaf o Gymry hyd yn oed yn gwybod am bobl fel yntau bellach. Mae hanes bron cyn bwysiced ag iaith ac mae'r sefydliad imperialaidd Prydeinig yn diystyrru gweithredoedd y Cymry. O ganlyniad, mae angen dathlu arwyr ein hen hanes ynghyd â'n hanes mwy diweddar mewn ffurfiau newydd.
Cydosodiad neu assemblage yw Yr Ysgrifen ar y Mur I: Dinistr Iaith a Chymuned'. Mae'r gwaith wedi ei gyfansoddi o'r nifer lleiaf posib o objets trouvé wedi eu datgymalu. Dryll a etifeddais gan fy nhadcu yw'r arf - mae'r gwn hynafol wedi'i engrafu yn dyddio o'r 1850au. Er nad oeddynt yn fodlon i ddechrau, llwyddais i berswadio ffatri leol i lifio'r arf yn ddarnau. Llifiais i yr hen feibl teuluol ynghyd â Dau lyfr arall yn ddwy gan osod y cyfan wedyn ar gefndir o sachliain. Sicrhais bod y dryll yn ymddangos fel pe bai'n torri'r beibl. Mae'r beibl wedi'i agor ar dudalen sy'n dangos llun o wledd annuwiol' Belsassar, brenin olaf yr ymherodraeth Galdeaidd ym Mabylon. Pan ymddangosodd yr ysgrifen ar y mur' ni allai ei ddewiniaid ei hun ddarllen y rhybudd ond llwyddodd y proffwyd Daniel i ddirnad a deall arwyddocâd y geiriau: Mene, Mene, Tecel, Wparsin'. (rhifodd Duw flynyddoedd dy deyrnas, a daeth ag ef i ben. Pwyswyd di yn y glorian a'th gael yn brin. Rhannwyd dy deyrnas a'i rhoi i'r Mediaid a'r Persiaid.) Y noson honno fe laddwyd Belsassar.
Yn lletraws ar hyd y cyfanwaith rwyf wedi stensilio y ddihareb Gorau Arf, Arf Dysg' sy'n gwrthweithio'r ddelwedd o'r arf yn dryllio etifeddiaeth werthfawr - y gwn sy'n saethu i galon beibl yr aelwyd.
Mae rhai o'r farn bod ein bywyd beunyddiol a chelfyddyd yn arfer bod yn un. O safbwynt diwylliant gwerin Cymru, mynnai'r diweddar Iorwerth Peate bod arteffactau cyffredin crefftwyr gwlad yn ffurfiau ar gelfyddyd a. symbylwyd ef i sefydlu amgueddfa werin yn Sain Ffagan yn 1946. Roedd y syniad wedi'i seilio ar y rhagdybiaeth bod ysbryd a natur diwylliant cynhenid Cymru yn dod i'r amlwg yn ein dulliau o amaethu, yn ein tai a'n gwisg ac yn ein harferion cymdeithasol a'n llên gwerin.
Nawr, blynyddoedd yn ddiweddarach, mae bygythiad newydd yn wynebu ein hiaith a'n cymunedau. A dyma lun o'r byd hwnnw gyda'r hen bethau gwerthfawr hynny, sy'n werth mwy nag arian, yn cael eu hollti a'u dryllio.
Mae Yr Ysgrifen ar y Mur II: Bomio Gwledydd Llwm' wedi'i gyfansoddi o falurion, sment a thempera wy ar sachliain. Edrychaf yn gyson am y fath ysbrydoliaeth a gefais wrth ddarllen rhifyn Ebrill 1999 o'r cylchgrawn Barn. Dechreuodd erthygl o'r enw Peintio'r Capel' fel a ganlyn:
Unwaith eto mae rhyfel yn y newyddion, ond hanner canrif yn ôl, fel yr oedd cymylau'r Ail Ryfel Byd yn crynhoi, aeth tri chyfaill o Eifionydd ati i fynegi eu gwrthwynebiad i orfodaeth filwrol mewn ffordd a oedd braidd yn fentrus, o ystyried awyrgylch jingoistaidd a militaraidd y cyfnod. Câi gwrthwynebwyr cydwybodol eu gwawdio a'u galw'n bob enw, boed heddychwyr neu genedlaetholwr.
Disgrifiai'r dramodydd Wil Sam fel yr aeth ei frawd, yr arlunydd Elis Gwyn, ati i beintio mewn llythrennau breision taclus Ymwrthyd Cymru â Rhyfeloedd Lloegr' ar wal hen gapel Moreia, Llanystumdwy ym mis Gorffennaf 1939. Er iddi, yn hwyrach, gael ei gorchuddio gan sment tenau, gydag amser fe ddaeth neges i'r golwg unwaith eto.
Mae graffiti yn gelfyddyd fawr sy'n gallu tanseilio'r drefn. Yn fy nelwedd i, mae'r llythrennau yn fwy arw ac anniben er mwyn pwysleisio mai llun o ysgrifen ar fur yw hi ac nid geiriau sy'n rhan o'r cyfansoddiad. Yr amcan felly yw dangos llun o graffiti brwd yn hytrach na llythrennau ar wyneb y cynfas.
Yn ogystal, trwy un ffenestr mae papur wedi'i ludo yn dangos organ y capel ar ei ochr a thrwy ffenestr arall mae delwedd o gwmwl tystion' yr achos a chordyn yn dod o amryw ohonynt. Ar ben y llinynau, mae amlen yn cynnwys darnau sialc dyma wahoddiad i chi ymateb i'r pwnc dan sylw drwy gyfrannu eich graffiti neu sgribl chi i'r gwaith.
O'r golwg, dan ddalen o gynfas, datgelir y gwir resymau dros fomio Afghanistan yr olew sydd i'w ganfod yn Asia ganol.
Delw Danbaid yw'r diweddaraf o luniau sy'n dangos tri arwr Penyberth. Mae'r gwaith wedi'i gyfansoddi o baent olew, tempera a malurion ar gynfas ag iddo ymylon geirwon heb ffrâm. Mewn cyferbyniad â'r anghelfydd, daw manylion cywir y wynebau i'r golwg mae'r ddelwedd yn deillio o ryw eiliad penodol pan dynnwyd y ffotograff enwocaf o'r tri.
Yn 1936, ar ôl wynebu gwrthwynebiad ym mhob rhan o Loegr wrth chwlio am safle ar gyfer ysgol fomio penderfynodd yr Awyrlu ymsefydlu'r ganolfan yng Nghymru. O ganlyniad, gwagiwyd a chliriwyd ardal Penyberth ym Mhen Llyn a difrodwyd cymunedau brodorol ac etifeddiaeth hanesyddol.
Yn wyneb yr anfadwaith, llosgwyd cytiau'r RAF a mynnodd Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine y cyfrifoldeb am y weithred. Fe garcharwyd y tri.Mae dulliau cyfreithlon a chyfansoddiadol o wrthwynebu'r drefn yn dal i fethu.
Yr Ysgrifen ar y Mur
(i waith Ifor Davies)
Hwn yw mur y malurio,
lle bu llaw ufudd
yn llifio
drwy'r Gair
a'r stori gudd.
Hwn yw diwedd ein hysgrifen,
diwedd ein deall a'n dweud.
Rheibiwyd ein diarhebion
ac fe'u diarfogwyd.
Rhy fud i fygwth,
ar gyfyl ebargofiant,
awn ninnau i helpu'n hunain,
mewn sachliain
a llediaith,
i'r lludw.
Mewn byd dall ni allwn ni -
na nhw
weld yr haels sydd yn y dryll.
Yn y llwch a'r dryswch,
mae'r mur yn aros,
aros am un i'w drwsio.
Ac mae'r llaw ufudd
fu'n llifio'n filain o ofalus
yn pwyntio bys
at bawb.
Mererid Hopwood 2002