bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Celf a Chrefft 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Eisteddfod Celf a Chrefft 2002
Detholwyr
Enillwyr
Arddangosfa
Dewis y bobl
Comisiwn Madog
Casgliad Derek Williams
Gwen John
Giardelli
Graham Sutherland

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Ysgoloriaeth Pensaernïaeth

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon er mwyn hybu pensaernïaeth a dylunio yng Nghymru. Dyfernir yr ysgoloriaeth i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei alluogi i ledaenu ei ymwybyddiaeth o bensaernïaeth greadigol. Mae'r ysgoloriaeth yn agored i'r sawl dan 25 oed.

Ysgoloriaeth: £1,500

Detholwyr: David Lea, Peter Stonebridge

Dyfernir yr Ysgoloriaeth Bensaerniaeth i Katrina Allen

Sylwadau'r Detholwyr

Bwriad yr ysgoloriaeth hon, a sefydlwyd y llynedd, yw hyrwyddo syniadau creadigol am ddylunio mewn pensaernïaeth, ac archwilio beth y gallai hynny ei olygu yn y byd adeiledig sydd o’n cwmpas. Daeth 15 cais gerbron, wedi eu cyflwyno ar wahanol raglenni cyfrifiadurol ar ddisg. Mae hyn yn naw cais yn fwy na’r llynedd, sy’n beth digon calonogol.

Taniwyd ein dychymyg a’n diddordeb gan gyflwyniadau Katrina Allen a Paul de Hoxar. Tro oedd rhai ceisiadau eraill hefyd wedi eu cynllunio yn ofalus a’u cyflwyno yn glir, ond roedd y mwyafrifl yn tueddu i awgrymu fod angen i’r ymgeiswyr fod yn fwy trwyadl a hunan feirniadol ynglyn â phwrpas eu cyflwyniadau.

Prin oedd yr ymgeiswyr a gyflwynodd eu deunydd mewn trefn oedd yn hawdd ei dilyn. Roedd eraill wedi anfon eu prosiectau ar ddisg, heb fanteisio’n llawn ar allu y cyfrifiadur a’r cyfleoedd arbennig y mae yn eu cynnig. Cynhyrchodd eraill ddelweddau cyfrifiadurol yn unig, heb gyfeirio fawr ddim, neu ddim o gwbl, at y cyd-destun lle byddai’r dyluniadau yn cael eu gosod. Dylai’r ymgeiswyr fod yn wyliadwrus rhag i’w meddwl creadigol gael ei reoli, ei arddangos a’i fynegi o fewn y cyfrwng digidol yn unig, dim ond er ei fwyn ei hun. Gall y ffordd hon o weithio arwain at fyd annynol lle mae’r adeiladau yn dechrau ymdebygu i ddelwedd ar gyfrifiadur yn hytrach na’u bod yn wrthrychau y gellir eu mwynhau gyda’r holl synhwyrau.

Mae’r prosiectau a ddewiswyd, ac sy’n cael eu harddangos yma yn tystio i ddealltwriaeth o gymhlethdod y broses greadigol mewn pensaernïaeth:
- pwysigrwydd y syniad creadigol, barddonol,
- y sbardun,
- y gofod sydd yn dal y syniad ac yn ei gyfleu,
- yr amrywiaeth posibl o ddeunyddiau a allai ddilladu’r gofod,
- y wedd ysbrydol sy’n dod i fodolaeth trwy gyfuno’r elfennau hyn yn llwyddiannus yn y broses greadigol.

Yn ogystal, mae’r ymgeiswyr hyn wedi mynnu cyfleu eu bwriad yn glir. Maent wedi gogwyddo at fod yn gyfeillgar ac yn glir yn eu dehongliad, sy’n ffordd dda o hyrwyddo pensaernïaeth greadigol.

Mae’r Fferm Neithdar gan Katrina Allen yn gynllun breuddwydiol yn llawn llifeiriant a symudiad yn ymwneud â ieir bach yr haf. Mae ei berthynas gyda’r tirlun a’r afon ddolennog yn un hudolus. Mae’r ffurfiau organig sydd wedi tyfu o’r weithred o gasglu a phrosesu’r neithdar yn edrych yn rhan o broses gylchol barhaus. Ffurfiau wedi cael eu hadeiladu ydynt, ac maent yn creu cysylltiad byw a chredadwy rhwng tirwedd a bywyd, celf a phensaernïaeth, ac yn tynnu’r cyhoedd i fod yn rhan o’r siwrnai sy’n ymagor o’u blaen. Mae’r darluniau medrus yn taro i’r dim ac yn disgrifio llawer o syniadau diddorol a fydd yn apelio at yr holl synhwyrau, ac maent yn dangos sensitifrwydd a chariad neilltuol at y cysyniad sy’n cael ei archwilio. Nid yw’n glir sut y bydd y syniadau hyn yn cael eu troi yn wrthrychau, nac ychwaith sut y bydd ysgafnder a naturioldeb y darluniau yn cael eu cynnal. Prin bod yr un llun cyfrifiadurol o’r adeilad cyflawn yn gwneud cyfiawnder â harddwch y darluniau.

Yn ei brosiect Metshopolis, mae Paul de Hoxar yn gwneud defnydd teilwng o dechnoleg graffeg y rhaglen gyfrifiadurol i gyfleu ei ddiddordeb yn amryfal weithgareddau dynoliaeth. Mae’n edrych ar y weithred o ‘siopa’ fel yr un gweithgaredd eithaf, hollgwmpasog y mae pob un ohonom yn cymryd rhan ynddo. Mae ei ddelweddau trawiadol yn dangos pobl yn symud i bob cyfeiriad yng nghanol mosaig bratiog o wahanol fathau o adeiladau, wedi eu gosod yma ac acw. Mae’r golygfeydd ffrantig yn adleisio fel yr ydym wedi llwyr ymgolli mewn ‘siopa’, am ofal iechyd, am addysg, llety, hamdden.
O ble daw’r amser i ni gael adfyfyrio, a meddwl o’r newydd am ein blaenoriaethau at y dyfodol?

Sut mae penseiri yn gallu gwireddu eu syniadau a’u profiadau a chreu pensaernïaeth - celfyddyd sy’n gwella bywyd trwy gyfoethogi’r dimensiwn ysbrydol, ac ar yr un pryd yn cyflawni gofynion ymarferol bywyd pob dydd? Y gobaith yw y bydd y prosiectau hyn yn procio’ch meddwl.

ysgoloriaeth pensaerniaeth
Katrina AllenKatrina Allen
Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.

Paul de HoxarPaul de Hoxar
Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.

y fedal aur - pensaerniaeth
Pembroke Design CyfPembroke Design Cyf
Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).

Plac Pensaerniaeth
Maredudd ab IestynMaredudd ab Iestyn
Enillydd Plac Teilyngdod.
Crefft a Dylunio
Ruth HarriesRuth Harries
Atalwyd Medal Aur Crefft a Dylunio ond rhoddwyd Cymeradwyaeth Uchel a gwobr o £2,500 i Ruth Harries.

Celfyddyd Gain
Ifor DaviesIfor Davies
Enillydd y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain

Paul BeauchampPaul Beauchamp
Enillydd gwobr o £2000 (Celfyddyd Gain)
artist ifanc
Lowri DaviesLowri Davies
Enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc 2001
Sara FletcherSara Fletcher
Enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc 2002


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy