Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).

"Pan ddinistriwyd ysgol gynradd sirol Tyddewi gan dân yn 1997, fe ddarparwyd adeiladau dros-dro, gyda'r ysgol yn rhannu adnoddau gydag ysgol yr Eglwys yng Nghymru gerllaw.
"Ond roedd angen cyfuno'r ddwy ysgol ar un safle, ac fe ofynnwyd i nifer o gwmnïau pensaernïol lleol i gynnig syniadau.
"Wnaethom ni argymell i'r Llywodraethwyr, a'r Cynulliad Cenedlaethol, mai adeilad newydd i'r ysgol oedd y dewis gorau yn y tymor hir.
"Serch hynny, roedd nifer o gyfyngiadau ymarferol i'w goresgyn, yn arbennig y ffaith fod rhaid i'r ysgol aros ar agor drwy gydol y cyfnod adeiladu.
"Roedd hyn - ynghyd â natur gyfyng y safle, ei dirwedd a thrafferthion mynediad i gerbydau - yn golygu bod her unigryw yn perthyn i'r comisiwn.
"Ond i wrthbwyso hynny, roedd y safle yn un syfrdanol, yng nghanol dinas leiaf y Deyrnas Unedig, yn edrych dros y gadeirlan ei hun, gydag Ynys Dewi a'r Swnt tu draw.
"Roedd yn eglur i'r dylunwyr o'r dechrau fod yma gyfle i greu adeilad eithriadol, yn deilwng o'r Mileniwm newydd, adeilad a fyddai nid yn unig yn amgylchedd dysgu cyffrous, ond a fyddai hefyd yn gyfraniad at harddwch y safle godidog. Byddai hefyd yn cyflawni pwrpas yr adeilad fel ysgol ac yn cyfuno deunyddiau adeiladu ac elfennau o'r ddwy ysgol er mwyn symboleiddio uno'r ddau sefydliad.
"I'r perwyl hwn fe weithiwyd yn agos gyda swyddogion cynllunio Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a oedd yn gefnogol iawn i'r dylunio mentrus, er y bu angen anfon sawl montage o luniau o safbwyntiau gwahanol er mwyn eu darbwyllo nhw pa mor dda y byddai'r adeilad yn eistedd yn ei amgylchedd, a chyn lleied y byddai'n tarfu ar y ddinas a'i chyffiniau."