bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Celf a Chrefft 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Eisteddfod Celf a Chrefft 2002
Detholwyr
Enillwyr
Arddangosfa
Dewis y bobl
Comisiwn Madog
Casgliad Derek Williams
Gwen John
Giardelli
Graham Sutherland

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

News image

News image

Arddangoswr: Holder Mathias Alcock


Yn 1990, ymgymerodd y Penseiri â pharatoi prif gynlluniau a chyfarwyddiadau cynllunio trefol ar gyfer "Capital Waterside" ym Mae Caerdydd. Safai adeilad y Waterguard, a adwaenid bryd hynny fel y Custom House, yn wynebu'r Harbwr Mewnol a gweithredai fel Swyddfa Tollau ac Ecséis ar gyfer Awdurdod Porthladd Dociau Caerdydd.

Yn 1993, symudwyd y Waterguard, a oedd erbyn hyn yn adeilad rhestredig Gradd II, i'w safle presennol ar gyrion Parc Britannia, i hwyluso'r ffordd i ddatblygu Adeilad Swyddfa Pencadlys Yswiriant Credyd NCM (hefyd gan y Penseiri), a, heb yr adeilad cyfagos diangen, ymddangosai ar ei newydd wedd yn adeilad bychan cyffredin heb gefn iddo. Chwe blynedd yn ddiweddarach, yn 1999, cawsom gomisiwn i baratoi cynlluniau ar gyfer Tafarn newydd fel estyniad o'r hen Custom House a fyddai'n rhoi ffasâd cefn taclus iddo bellach, ond a fyddai'n gadael iddo wynebu Parc Britannia yn ffurfiol. Roedd y cyfarwyddyd yn gofyn am gynllun a ddylai gyfannu'r Waterguard, ond â'i wreiddiau yn elfennau traddodiadol cynlluniau a theipoleg adeiladu Tafarn.

O ran cysyniad, mae'r estyniad newydd yn datblygu gosodiad a throshaeniad y graen, y geometreg a'r gridiau amrywiol sy'n gynhenid i gyd-destun y safle. Y rhain yw: geometreg orthogonol y Waterguard; graen trefol adeiladau'r Capital Waterside Plot One a pharhad tro graddol y llwybr troed cyfagos ger glan y dwr ym Masn Y Rhâth drwy Barc Britannia tuag at yr Eglwys Norwyaidd.

Mae'r adeilad yn arbennig o eglur, ac, yn ei leoliad, mae'n arddangos llawer o nodweddion cain, deinamig, cerfluniol soffistigedig gydag ymdeimlad o bresenoldeb di-amser a gonestrwydd pensaernïol.



ysgoloriaeth pensaerniaeth
Katrina AllenKatrina Allen
Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.

Paul de HoxarPaul de Hoxar
Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.

y fedal aur - pensaerniaeth
Pembroke Design CyfPembroke Design Cyf
Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).

Plac Pensaerniaeth
Maredudd ab IestynMaredudd ab Iestyn
Enillydd Plac Teilyngdod.
Crefft a Dylunio
Ruth HarriesRuth Harries
Atalwyd Medal Aur Crefft a Dylunio ond rhoddwyd Cymeradwyaeth Uchel a gwobr o £2,500 i Ruth Harries.

Celfyddyd Gain
Ifor DaviesIfor Davies
Enillydd y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain

Paul BeauchampPaul Beauchamp
Enillydd gwobr o £2000 (Celfyddyd Gain)
artist ifanc
Lowri DaviesLowri Davies
Enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc 2001
Sara FletcherSara Fletcher
Enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc 2002


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy