Cefnwr Cymru Liam Williams yn ymddeol o rygbi rhyngwladol

Roedd Williams yn rhan hanfodol o'r garfan enillodd y gamp lawn yn 2019 - fo oedd seren y gêm yn y fuddugoliaeth o 21-13 yn erbyn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae Liam Williams, un o fawrion y tîm cenedlaethol dros y ddegawd ddiwethaf, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.
Mae'r cefnwr 34 oed - fydd yn parhau i chwarae i'w glwb Newcastle Red Bulls - wedi ennill 93 o gapiau dros ei wlad gan sgorio 21 o geisiau.
Fe enillodd Williams Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ddau achlysur - gan gynnwys camp lawn yn 2019 - ac fe chwaraeodd mewn pum gêm brawf i'r Llewod yn ystod teithiau 2017 a 2021.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Gwener, dywedodd Williams fod cael cynrychioli ei wlad wedi bod yn "fraint" ond ei bod hi bellach yn bryd iddo ddweud "hwyl fawr".
Rhys Patchell yn ymddeol i fod yn hyfforddwr gyda'r Dreigiau
- Cyhoeddwyd9 Medi 2025
Dan Biggar yn cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2025
Prop Cymru Leon Brown yn ymddeol yn 28 oed oherwydd anaf
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2025
Ar ôl dechrau ei yrfa fel chwaraewr amatur tra'n gweithio fel sgaffaldiwr yng ngwaith dur Port Talbot, fe chwaraeodd Williams ei gêm broffesiynol gyntaf i'r Scarlets ym mis Medi 2011.
Enillodd ei gap rhyngwladol cyntaf flwyddyn yn ddiweddarach yn erbyn y Barbariaid - a chafodd ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y daith i Awstralia yn haf 2012.
Aeth ei yrfa gyda'r tîm cenedlaethol o nerth i nerth gan ymddangos ym mhob gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2014 - roedd yn un o hoelion wyth y garfan wedi hynny.
Roedd Williams yn rhan hanfodol o'r tîm enillodd y gamp lawn yn 2019 - fo oedd seren y gêm yn y fuddugoliaeth o 21-13 yn erbyn Lloegr - ac aeth yn ei flaen i ennill y bencampwriaeth yn 2021 hefyd.
Fe gynrychiolodd ei wlad mewn tair Cwpan y Byd - yn 2015, 2019 a 2023.
O ran ei yrfa ddomestig, fe chwaraeodd Williams i'r Scarlets am saith mlynedd yn ogystal â threulio cyfnodau gyda'r Saracens, Caerdydd a Kubota Spears cyn ymuno â Newcastle Red Bulls y llynedd.

Cafodd Williams ei gynnwys yng ngharfan y Llewod ar gyfer y teithiau i Seland Newydd yn 2017 a De Affrica yn 2021
Yn ei neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Williams: "Rydw i wedi penderfynu ei bod hi'n bryd i mi ddweud hwyl fawr. Y tair pluen. Fy nghartref. Diolch.
"...Ges i'r fraint o gynrychioli fy ngwlad 93 o weithiau, rhywbeth na allwn i fod wedi ei ddychmygu pan ro'n i'n tyfu fyny. Y buddugoliaethau. Y tlysau. Ond hefyd y colledion. Mae pob un wedi dysgu rhywbeth i mi.
"Mae hi wedi bod yn siwrne wedi ei seilio ar waith caled, aberth a chefnogaeth gymaint o bobl ar hyd y ffordd.
"Y cefnogwyr ymroddedig, y cyd-chwaraewyr anhygoel, y staff a fy ffrindiau. Fyddai'n gweld isie'r awyrgylch yn yr ystafell newid, y brwydrau yn erbyn gwrthwynebwyr a ddaeth yn ffrindiau, y tynnu coes - yr adegau da a'r drwg."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2025
