Tandy yn cynnwys dau heb gap yn ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad

Louie Hennessey a Gabriel Hamer-WebbFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Louie Hennessey (chwith) a Gabriel Hamer-Webb (dde) yw'r unig chwaraewyr sydd eto i ennill cap rhyngwladol i gael eu cynnwys yn y garfan

  • Cyhoeddwyd

Mae Steve Tandy wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2026 - ei gyntaf fel prif hyfforddwr Cymru.

Mae dau chwaraewr sydd eto i ennill cap ymhlith yr 20 blaenwr a 18 olwr yn y garfan - asgellwr Caerlŷr, Gabriel Hamer-Webb, a chanolwr Caerfaddon, Louie Hennessey.

Mae Tomas Francis wedi'i alw yn ôl i garfan Cymru am y tro cyntaf ers Cwpan Rygbi'r Byd yn 2023.

Mae James Botham, Sam Costelow, Ryan Elias, Josh Macleod, Mason Grady, Eddie James ac Owen Watkin hefyd yn dychwelyd i'r garfan ryngwladol.

Fe fydd ymgyrch Cymru yn y bencampwriaeth eleni yn dechrau gyda gêm oddi cartref yn erbyn Lloegr ar ddydd Sadwrn 7 Chwefror.

Mae rhai enwau mawr heb eu cynnwys yn y garfan oherwydd anafiadau - gyda Jac Morgan, Taulupe Faletau a Max Llewellyn ymhlith y rhai sy'n absennol.

Dewi Lake - sydd â 26 chap dros ei wlad - fydd capten Cymru ar gyfer y gystadleuaeth.

Trefn gemau Cymru

  • Lloegr v Cymru - Dydd Sadwrn 7 Chwefror (16:40)

  • Cymru v Ffrainc - Dydd Sul 15 Chwefror (15:10)

  • Cymru v Yr Alban - Dydd Sadwrn 21 Chwefror (16:40)

  • Iwerddon v Cymru - Dydd Gwener 6 Mawrth (20:10)

  • Cymru v Yr Eidal - Dydd Sadwrn 14 Mawrth (16:40)

Yn y cyfamser, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd cyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru Duncan Jones, Dan Lydiate a Rhys Patchell yn rhan o dîm hyfforddi Steve Tandy yn y bencampwriaeth.

Bu'r tri'n cynorthwyo Tandy yn ystod Cyfres yr Hydref a bydd y trefniant hwnnw yn parhau am y cyfnod nesaf.

Bydd Jones yn hyfforddi'r sgrymiau, bydd Lydiate yn parhau i weithio'n agos gyda'r prif hyfforddwr ar yr amddiffyn a bydd Patchell yn gofalu am hyfforddiant sgiliau a chicio.

Steve TandyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Steve Tandy, mae arweinyddiaeth Dewi Lake yn ystod absenoldeb Jac Morgan wedi bod yn "rhagorol"

Dywedodd Steve Tandy fod rhai o'r newidiadau i'r garfan ers Cyfres yr Hydref yn deillio o anafiadau, ond bod eraill yn adlewyrchu'r gystadleuaeth mewn gwahanol safleoedd ar hyn o bryd.

"Dwi'n credu bod gennym garfan gytbwys wrth i ni baratoi ar gyfer yr ymgyrch hon a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at yr wythnos nesaf pan fyddwn ni gyd yn dod at ein gilydd i ymarfer," meddai.

"Dwi'n gyffrous i gael gweld sut ry'n ni'n mynd i adeiladu ar y sylfeini wnaethon ni eu gosod yn yr Hydref a sicrhau hefyd ein bod yn parhau i dyfu a datblygu fel grŵp."

Y garfan yn llawn

Blaenwyr: Keiron Assiratti (Caerdydd), Adam Beard (Montpellier), Liam Belcher (Caerdydd), James Botham (Caerdydd), Rhys Carre (Saraseniaid), Ben Carter (Dreigiau), Olly Cracknell (Caerlŷr), Harri Deaves (Gweilch), Ryan Elias (Scarlets), Tomas Francis (Provence), Archie Griffin (Caerfaddon), Dafydd Jenkins (Caerwysg), Dewi Lake (Gweilch), Alex Mann (Caerdydd), Josh Macleod (Scarlets), Taine Plumtree (Scarlets), Nicky Smith (Caerlŷr), Gareth Thomas (Gweilch), Freddie Thomas (Caerloyw), Aaron Wainwright (Dreigiau)

Olwyr: Josh Adams (Caerdydd), Sam Costelow (Scarlets), Dan Edwards (Gweilch), Jarrod Evans (Harlequins), Mason Grady (Caerdydd), Kieran Hardy (Gweilch), Gabriel Hamer-Webb (Caerlŷr), Joe Hawkins (Scarlets), Louie Hennessey (Caerfaddon), Eddie James (Scarlets), Ellis Mee (Scarlets), Reuben Morgan-Williams (Gweilch), Blair Murray (Scarlets), Louis Rees-Zammit (Bryste), Tom Rogers (Scarlets), Ben Thomas (Caerdydd), Owen Watkin (Gweilch), Tomos Williams (Caerloyw)

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.