Chwe Gwlad: Faletau i golli tair gêm gyntaf Cymru

Roedd Taulupe Faletau newydd ddechrau chwarae eto wedi i anaf arall ei gadw rhag cymryd rhan yng ngemau Cyfres yr Hydref
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Taulupe Faletau yn gallu bod yn rhan o garfan Cymru ar gyfer eu tair gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf.
Fe gafodd niwed i gyhyr croth ei goes (calf) wrth chwarae i dîm Rygbi Caerdydd yn erbyn y Gweilch ddydd Calan.
Roedd y chwaraewr rhif wyth, 35 oed, yn absennol o gemau'r hydref hefyd yn dilyn anaf i'w ben-glin ac ond newydd ddychwelyd i'r garfan ryngwladol.
Fe fydd prif hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, yn cadarnhau pwy sydd yn y garfan ar gyfer gemau'r Chwe Gwlad ar 20 Ionawr.
Fe fydd capten Jac Morgan a'r canolwr Max Llewellyn yn colli o leiaf hanner cyntaf y bencampwriaeth oherwydd anafiadau.
Blwyddyn arall ond yr un hen anhrefn i rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2025
Dywedodd hyfforddwr Caerdydd, Corniel van Zyl "nad yw'n glir" pa mor fuan y bydd yn gallu chwarae eto, "ond rydyn ni'n bendant yn edrych ar ganol y Chwe Gwlad, ac ein gêm yn erbyn Leinster", sy'n cael ei chynnal ar 27 Chwefror.
Fe fyddai hynny'n golygu na fydd Faletau ar gael i Gymru oddi cartref yn erbyn Lloegr ar 7 Chwefror, a'r gemau cartref yn erbyn Ffrainc ar 15 Chwefror a'r Alban ar 21 Chwefror.
"Dyna'r targed - gawn ni weld sut eith hi," ychwanegodd van Zyl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.