Blwyddyn arall ond yr un hen anhrefn i rygbi Cymru

Tim rygbi CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Wrth edrych yn ôl a dadansoddi 2025 roedd 'na ryw deimlad o déjà vu o safbwynt rygbi Cymru - os rhywbeth roedd yr anghydfod gwleidyddol oedd yn bodoli 12 mis yn ôl wedi gwaethygu, a hyn yn gefnlen i broblemau cyson ar y cae chwarae.

Fe ddechreuodd y flwyddyn i dîm cenedlaethol y dynion heb yr un fuddugoliaeth mewn bron i 18 mis.

Ac wedi crasfa ym Mharis a cholled a pherfformiad tila yn Rhufain, roedd yr ysgrifen ar y mur i Warren Gatland - doedd dim achubiaeth y tro hwn wrth i Undeb Rygbi Cymru benderfynu bod amser ar ben i'r gŵr o Seland Newydd.

Hyfforddwr Caerdydd, Matt Sherratt fyddai'n cydio yn yr awenau dros dro ond er gwaetha perfformiadau gwell yn erbyn Iwerddon a'r Alban roedd ildio 68 o bwyntiau yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd yn dangos yn glir fod Cymru wedi llithro i ddyfnderoedd na welwyd o'r blaen.

Hyfforddwr Caerdydd fyddai eto wrth y llyw ar y daith i Japan yn yr haf ac wedi 18 colled yn olynol roedd o leia' rhywfaint o oleuni wrth ennill yr ail brawf yn Kobe.

Yr her yn amlwg i'r hyfforddwr newydd

Steve TandyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyn-hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy, ei benodi'n prif hyfforddwr dynion Cymru ym mis Gorffennaf

Er i sawl enw gael ei ystyried Cymro o Donmawr gafodd ei benodi'n brif hyfforddwr newydd, ac roedd penodiad Steve Tandy ynghyd â'i gyfundrefn newydd o leia'n cynnig gobaith o'r newydd ar drothwy cyfres ryngwladol yr Hydref.

Ar ôl crafu buddugoliaeth a chic eiliad olaf yn erbyn Japan, roedd 'na fflachiadau positif yn erbyn Seland Newydd er gwaetha'r sgorfwrdd.

Ond cafodd unrhyw obaith ei ddiffodd yn llwyr wrth i'r Springboks chwalu tîm heb nifer o'i sêr amlycaf o dros 70 o bwyntiau.

Heb os fydd y daith yn hir a phoenus, a gyda Lloegr a Ffrainc ar y gorwel ar ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn awgrymu y bydd mwy o loes calon yn y tymor byr o leia'.

Menywod Cymru yn tangyflawni

Tim rygbi menywod CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan fenywod Cymru fynydd i'w ddringo hefyd

Yn debyg i'r dynion roedd 'na newid ar droed i dîm y menywod.

Sean Lynn oedd â'r dasg i newid cyfeiriad ond colli pob un gêm fyddai hanes y tîm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond wedi buddugoliaeth gofiadwy am y tro cyntaf yn Awstralia, roedd 'na gyffro a gobaith ar drothwy Cwpan y Byd.

Fe drodd yr ymdeimlad hwnnw'n llwyr wedi ymgyrch hynod siomedig.

Chwarae tair, colli tair oedd record y Cymry yn cynnwys perfformiad siomedig yng Nghaerwysg yn erbyn Fiji.

Heb strwythur clir a diffyg cyfleoedd i'r chwaraewyr gyda'u clybiau yn Lloegr, mae'r dasg yn un anodd ac yn debyg i Steve Tandy mae 'na fynydd i'w ddringo i Sean Lynn.

Dadl wleidyddol yn bygwth rhwygo rygbi Cymru

Jac Morgan a Dewi LakeFfynhonnell y llun, Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jac Morgan a Dewi Lake yn barod wedi penderfynu codi pac i ymuno â Chaerloyw

Ac mae hyn oll yn gadael y problemau gwleidyddol anferthol, gydag Undeb Rygbi Cymru'n gwneud sawl tro pedol ynglŷn â'r ffordd ymlaen.

O aros â phedwar tîm proffesiynol, lawr i ddau neu setlo bellach ar dri, mae'r cyfan wedi ei gynnig yn dilyn proses ymgynghorol gyda'r cyhoedd.

Ond mae'r holl ansicrwydd eisoes yn gyrru chwaraewyr i ffwrdd a chapten Cymru Jac Morgan a Dewi Lake yn barod wedi penderfynu codi pac i ymuno â Chaerloyw.

Heb os bydd mwy yn dilyn, a rygbi proffesiynol yn y gorllewin, a'r Gweilch yn benodol, o dan fygythiad a allai fod yn ergyd andwyol i'r gamp yn yr ardal.

Pwy a ŵyr beth a ddaw yn y flwyddyn newydd felly, ond wrth i 2025 ddirwyn i ben mae yna ryw deimlad o anobaith ynglŷn â'r bêl hirgron yng Nghymru ar bob lefel a dyfodol y gamp ei hun yn gynyddol o dan y chwyddwydr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.