Meg Jones: Nadolig chwerw felys i'r seren rygbi ar ôl colli ei rhieni

Bydd y Nadolig yn gyfnod i fyfyrio, meddai Meg Jones, ac er y bydd dagrau, "nid bob amser rhai trist"
- Cyhoeddwyd
Bydd diwrnod Dolig y seren rygbi Meg Jones yn wahanol i'r arfer eleni, a hithau ar awyren yn teithio i India - lle bydd hi'n forwyn briodas i'w ffrind gorau.
Tra y bydd hi a'r briodferch yn treulio amser yn cofio eu plentyndod yng Nghaerdydd, mae'n cyfaddef bod "cwmwl tywyll" dros y ddinas oedd yn gartref iddi.
Cafodd ei magu yn y brifddinas, gan fynychu Ysgol Gyfun Glantaf.
Ond, dyma hefyd lle collodd ei rhieni; ill dau dros gyfnod o bedwar mis y llynedd – ei thad i ganser a'i mam ar ôl brwydro alcoholiaeth.
Er bod Meg wedi mwynhau llwyddiant enfawr gyda thîm rygbi cenedlaethol Lloegr yn ystod y flwyddyn, gan ennill Cwpan y Byd yn gynharach eleni, mae'r canolwr hefyd wedi gorfod ymdopi â'r colledion.

Mae Meg wedi gorfod delio gyda cholli ei rhieni yn ystod y flwyddyn
Yn 2024 cafodd ei thad, Simon, ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint – a llai na saith mis yn ddiweddarach bu farw.
Doedd ei mam, Paula, a oedd wedi brwydro alcoholiaeth am flynyddoedd, "methu â deall y ffaith ei fod wedi mynd", meddai.
Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ym mis Rhagfyr, buodd hi farw hefyd.
"Doedd Mam a Dad ddim gyda'i gilydd, felly dwi wastad yn meddwl bod torcalon hefyd wedi'i gwthio hi ymlaen," meddai Meg.
'Dagrau hapus hefyd'
Mae gan Meg frawd a chwaer o hyd yng Nghaerdydd, ac wrth fyfyrio ar yr adegau anoddaf, ychwanegodd: "Aethon ni o fod yn deulu o bump, i deulu o dri."
Mae'r Nadolig yn sbarduno llawer o emosiynau ac atgofion.
Mae hi'n cofio'r "tinsel roedd Mam wedi'i roi i fyny ac roedd ychydig yn tacky ond roeddwn i'n ei garu rywsut".
Mae hi hefyd yn cofio bod ei mam wrth ei bodd yn gwneud yr ŵyl "yn arbennig i ni".

Ar ôl i'w rhieni wahanu, mae'n cofio bod ei thad "yn teimlo'n ddrwg", oherwydd "bod Mam yn arfer prynu'r holl anrhegion".
Fe roddodd "bersawr bach o B&M" i'r plant, wedi'i lapio gyda "cymaint o sellotape, na allech chi fynd i mewn iddo".
"Rheiny yw'r darnau bach hynny dwi'n bendant yn eu colli ac mae'n siŵr y byddaf yn eistedd ac yn myfyrio ac yn meddwl hoffwn i gael y troeon hynny eto.
"Mi fyddai'n eistedd ac yn crio, mae'n debyg - ond dagrau hapus hefyd, nid bob amser trist."
Pwy yw'r Gymraes sy'n serennu i Loegr yng Nghwpan Rygbi'r Byd?
- Cyhoeddwyd27 Medi 2025
Mae Meg, sy'n chwarae i glwb Ealing Trailfinders, wedi bod yn rhan annatod o dîm Lloegr a enillodd Gwpan Rygbi'r Byd yn gynharach eleni.
Mae nawr yn byw yn Llundain gyda'i phartner Celia.
Mae Meg wedi bod yn agored am frwydr ei mam gydag alcoholiaeth erioed, rhywbeth a frwydrodd am 16 mlynedd.
'Unigolyn eglur, deallus a gofalgar'
Dechreuodd fel partïon ac "yfed yn achlysurol fel mae pawb arall yn ei wneud", meddai, ond trodd yn yfed gormodol ac alcoholiaeth.
"Fel plentyn ac fel merch, roedd gen i lawer o ddicter," meddai.
Roedd Meg wastad yn ceisio deall yr hyn yr oedd hi'n ei gredu ar y pryd, sef anfodlonrwydd ei mam gyda bywyd.
"Roeddwn i wastad yn meddwl, 'mae gen ti blant hardd, mae gen ti gartref hardd, mae gen ti swydd anhygoel'," meddai.
"Hi oedd yr unigolyn mwyaf eglur, deallus, gofalgar dwi erioed wedi'i gyfarfod ac roeddwn i'n meddwl, 'be' sydd ddim gen ti?'."

Mae gan Meg deulu yng Nghaerdydd o hyd, ond mae'n cyfaddef bod "cwmwl tywyll" dros y ddinas
Disgrifiodd Meg ei mam fel "person dwfn" oedd yn "ymladd i ddod o hyd i bwrpas y tu allan i'r gwaith".
Dim ond yn ddiweddar y mae hi wedi deall dibyniaeth yn fwy, meddai.
Mae hi bellach yn noddwr i The Living Room, elusen a chanolfan adfer dibyniaeth yng Nghaerdydd.
Yno, wrth siarad â sylfaenydd yr elusen, Wynford Elis Owen, gwelodd "obaith yn llygaid fy Mam".
Bu farw ei mam dridiau ar ôl yr apwyntiad cychwynnol hwnnw.

Nawr mae Meg yn pwysleisio pwysigrwydd torri'r "stigma" o amgylch dibyniaeth, a meithrin mwy o "ddealltwriaeth, gofal ac empathi".
"O safbwynt cymdeithasol, dwi'n meddwl ein bod ni'n edrych ar ddibyniaeth fel rhywbeth mae pobl yn achosi iddyn nhw ei hunain, 'sortia dy hun, dyna fo, dyma dy daflen, cer â'i sortio'", meddai.
"Yn y pen draw, mae'n salwch."
Bydd y Nadolig hwn yn nodi'r cyfnod gwyliau cyntaf "ers i'r llwch setlo" ac mae'n ystyried y briodas yn India fel "arwydd o obaith" yn ystod cyfnod anodd iawn.
"Dwi'n siŵr y byddwn yn myfyrio ac yn eistedd yn ne Goa yn meddwl am yr holl amseroedd da, a'r holl atgofion mae [y briodferch, Beth] yn eu cofio am fy Mam a Dad hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.