O feddwl bod ei rhieni'n cynllwynio i'w lladd i fod yn nyrs iechyd meddwl - graddedig

Mae Ayla Jones nawr eisiau defnyddio ei phrofiad i helpu eraill
- Cyhoeddwyd
Pan oedd Ayla Jones yn 15 oed roedd hi'n credu bod rhywun yn drilio trwy'r waliau yn y nos er mwyn dod a'i llofruddio.
Dyma'r fersiwn o realiti yr oedd Ayla, o Sandfields, Port Talbot, yn byw ynddi ar ôl i broblemau iechyd meddwl cynnar ddatblygu'n seicosis llawn.
Nawr 10 mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl blynyddoedd o golli ysgol a bod yn yr ysbyty, mae wedi graddio fel nyrs iechyd meddwl.
Ar un adeg roedd hi'n credu bod meddygon a'i rhieni yn rhan o'r cynllwyn i'w lladd ond nawr ei bod hi'n well mae "gen i'r angerdd i, gobeithio, wneud gwahaniaeth".

Ayla gyda'i theulu
Roedd Ayla yn unig blentyn hapus, wrth ei bodd yn yr ysgol gynradd ac roedd ganddi berthynas agos â'i rhieni meddai.
"Roedd gen i ffrindiau a phethau fel hyn. Roeddwn i bob amser yn gwneud yn dda yn academaidd," meddai.
Ond yn ei blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd, cafodd ei brawd Alfie ei eni'n farw, ac fe ddechreuodd Ayla gredu ar gam mai ei bai hi oedd hyn.
"Dydw i erioed wedi gallu ymdopi â newid felly dw i'n meddwl bod y syniad o fod yn unig blentyn ac yna cael brawd neu chwaer, o'n i'n ei chael hi'n eithaf anodd.
"Dw i'n meddwl mai dyna wnaeth i mi feddwl, gan nad oeddwn i eisiau brawd neu chwaer ar y dechrau, efallai dyna pam [y bu farw Alfie]."
Cafodd ei hail frawd, Archie, sydd bellach yn 13 oed, ei eni ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac mae Ayla yn ei garu "gymaint" meddai.
Ond arhosodd trawma genedigaeth Alfie gyda hi a phan symudodd i Ysgol Gyfun Sandfield fe ddechreuodd ei hiechyd meddwl ddioddef.
"Dyna pryd y dechreuais wneud fy hun yn sâl," meddai.
"Dydw i erioed wedi bod yn hyderus ac wedi casáu'r ffordd dw i'n edrych.
"Pan ddigwyddodd yr holl drawma a'r newid [yn yr ysgol], mae fel bo' fi 'di troi at reoli fy mwyd - beth oedd yn mynd i mewn i 'nghorff a beth oedd yn mynd allan - fel ffordd o ymdopi."

"Cefais fy episod drwg cyntaf pan o'n i'n 15 oed," meddai
Ar ôl i'w rhieni ddysgu ei bod yn gwneud ei hun yn sâl, cafodd ei chyfeirio gan ei meddyg teulu at y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.
Arweiniodd hynny at Ayla'n cael diagnosis o fwlimia, gorbryder ac iselder.
Cafodd gwnsela i ddechrau ond doedd hynny ddim yn helpu felly yn y pen draw fe gafodd bresgripsiwn am dabledi gwrth-iselder dos isel.
Esboniodd bod y cyfnod yma wedi cael effaith ar ei haddysg.
Roedd Ayla yn y setiau gorau pan ddechreuodd yn yr ysgol uwchradd meddai ond unwaith iddi gael problemau iechyd meddwl "aeth hynny i gyd allan o'r ffenestr".
"Roedd hi'n anodd i mam fy nghael i fynd i'r ysgol. O'n i'n ynysig iawn."
Yna daeth y seicosis ychwanegodd.
"Oedd gen i baranoia, ac o'n i'n gweld lledrithiau (delusions).
"Cefais fy episod drwg cyntaf pan o'n i'n 15 oed," meddai.
Roedd hi'n meddwl bod rhywun roedd hi'n ei hadnabod yn mynd i'w lladd.
"O'n i'n meddwl eu bod nhw'n gweithio gyda'r diafol," esboniodd.
Deddf frys i osgoi argyfwng asesu cleifion iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
Hergest: Rhai gwelliannau ond heriau'n parhau mewn uned iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
Uned iechyd meddwl i famau newydd a'u babanod o Gymru wedi agor yng Nghaer
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2025
Mi fyddai Ayla'n clywed drilio yn y nos, ac yn credu bod y person yn adeiladu llwybr cyfrinachol i mewn i'r tŷ. Ond roedd y cyfan yn ei phen hi.
Doedd Ayla ddim yn credu'r meddygon na'i rhieni pan roedden nhw'n dweud wrthi ei bod hi'n sâl, ac roedd hi'n meddwl eu bod nhw'n rhan o'r cynllwyn i'w lladd.
Dywedodd: "Roeddwn i'n meddwl bod yn rhaid i mi achub y byd.
"O'n i eisiau mynd i'r eglwys i siarad â Duw er mwyn achub y byd rhag y diafol."
Gan ofni bod Ayla yn peri risg iddi hi ei hun, cafodd ei chadw mewn ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Yn y pen draw, cafodd ddiagnosis o anhwylder sgitso-isel, dolen allanol.
Cafodd gyffuriau gwrth-seicotig cryfach ac fe dreuliodd y blynyddoedd nesaf yn mynd i mewn ac allan o'r ysbyty.
'Wnes i adael ysgol heb TGAU'
Ar ei phen-blwydd yn 17 oed, a dreuliodd yn yr ysbyty, dywedodd y meddyg wrth ei rhieni ei fod am drio cyffur llawer cryfach, closipine, fel opsiwn olaf ond fe all gael sgîl-effeithiau difrifol.
Fe wnaeth y cyffur helpu ei hiechyd meddwl ond ymatebodd ei chorff yn wael iawn.
"Do'n i ddim yn gallu gwneud ddim byd," meddai a chafodd ei roi yn ôl ar gyffuriau gwannach.
Roedd hi wedi bod yn rhy sâl i fynd i'r ysgol neu unrhyw fath o addysg ers blynyddoedd ac roedd hi'n gwybod ei bod hi'n colli allan ar fywyd normal merch yn ei harddegau.
"Pan o'n i'n gweld pobl fy oedran i, o'n i'n mynd i'r ysgol gyda nhw, bydden nhw'n mynd allan gyda'u ffrindiau.
Ond esboniodd nad oedd hi gwneud pethau symlach hyd yn oed "fel mynd ar y bws ar ben fy hun.
"'Nes i adael ysgol heb TGAU oedd yn siomedig iawn achos o'n i wastad wedi bod yn academaidd ac yn y setiau uwch."
Ond esboniodd bod ymweliadau wythnosol gan nyrs gymunedol oedd yn rhan o'i thriniaeth gan y tîm Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis, wedi profi'n allweddol.
"Cafodd y gefnogaeth yna effaith fawr er mwyn fy helpu i fynd yn ôl i'r gymuned."

Erbyn roedd Ayla'n 19 oed dyweodd ei bod hi'n "hapus iawn" ar ôl troi cornel
Yn 18 oed, cafodd ei throsglwyddo i wasanaethau oedolion.
"Doeddwn i ddim yn hapus gyda fy mywyd. O'n i'n bodoli a dim mwy - doeddwn i ddim yn byw," meddai.
Penderfynodd y meddyg dreialu tabledi oedd yn rheoli hwyliau cyfnewidiol ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd dechreuodd Ayla gael teimladau eto.
Dechreuodd leihau ei defnydd o gyffuriau gwrthseicotig yn raddol.
Gan ei bod yn teimlo'n fwy sefydlog roedd ganddi fwy o hyder a phenderfynodd wneud cais i Goleg Afan.
"Yn y coleg, dyna pryd newidiodd fy mywyd. Wnes i ffrindiau bryd hynny. Cefais ffrind gorau.
"O'n i'n mynd ar fysiau a phethau ar fy mhen fy hun ac yn gwneud pethau o'n i wedi gweld pobl eraill fy oedran yn eu gwneud."
Ychwanegodd: "O'n i'n gwybod fy mod i eisiau mynd i mewn i nyrsio a helpu pobl ag iechyd meddwl.
"Roedd gen i'r angerdd i, gobeithio, wneud gwahaniaeth."
Cwblhaodd BTEC mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac yna diploma Mynediad at Addysg Uwch.

"O'n i'n gwybod fy mod i eisiau mynd i mewn i nyrsio a helpu pobl ag iechyd meddwl a helpu pobl i fynd trwy be wnes i" meddai Ayla
Cafodd Ayla ei derbyn i Brifysgol Abertawe ac ym mis Medi 2021 symudodd i fyw mewn neuaddau preswyl ond fe benderfynodd bod hynny'n "ormod yn rhy gynnar".
"Doeddwn i ddim yn gallu ymdopi ac fe wnes i ohirio am flwyddyn yn y diwedd.
"Ond roedd gen i'r ymwybyddiaeth i wybod" ychwanegodd.
Nawr mae'n bwriadu defnyddio ei phrofiadau i helpu plant ysgol.
"Mae cymaint o bobl ifanc yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl," meddai.
"Byddwn i wrth fy modd yn gweld cefnogaeth briodol mewn ysgolion, mewn ffordd gynhwysol.
"Dydw i ddim yn credu bod ysgol yn addas ar gyfer pobl sydd ddim yn ffitio'r categori mainstream, a mae hynny'n anghywir."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.