Deddf frys i osgoi argyfwng asesu cleifion iechyd meddwl

Fe ddeliodd y tribiwnlys â thros 2,000 o achosion yn 2024-25
- Cyhoeddwyd
Mae elusen iechyd meddwl wedi dweud ei bod yn "bryderus iawn" ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod yna broblem gyda'r broses o gynnal tribiwnlysoedd ar gyfer cleifion sy'n cael eu cadw dan y ddeddf iechyd meddwl.
Bydd deddf frys yn cael ei chyflwyno yn y Senedd yr wythnos nesaf i geisio sicrhau nad yw'r drefn yn cael ei hatal dros dro.
Mae elusen iechyd meddwl flaenllaw wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "bryderus iawn".
Mae Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn adolygu achosion pobl sy'n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Ddydd Llun fe gyhoeddodd llywydd y tribiwnlys na allai aelodau meddygol gymryd rhan mewn gwrandawiadau oni bai bod ganddyn nhw drwydded gyfredol.
Mae hyn wedi codi pryderon am oedi a'r effaith ar gleifion gan ei fod yn haneru nifer yr aelodau meddygol sydd ar gael i wasanaethu ar banel.
2,000 o achosion yn 2024-25
Ar hyn o bryd, mae tri aelod yn gwasanaethu ar banel ac mae'n rhaid i un ohonyn nhw fod yn aelod meddygol.
Yr aelodau meddygol sy'n gyfrifol am asesu cleifion cyn gwrandawiad er mwyn ystyried cyflwr eu hiechyd meddwl.
Fe ddeliodd y tribiwnlys â thros 2,000 o achosion yn 2024-25.
Byddai'r gyfraith newydd yn caniatáu i arbenigwyr meddygol eistedd ar banel heb drwydded feddygol cyhyd â'u bod nhw wedi cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol. Dyna'r drefn yn Lloegr.
'Gall oedi effeithio ar les iechyd meddwl cleifion'
Yn ôl Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd elusen iechyd meddwl Mind Cymru mae medru cynnal tribiwnlysoedd iechyd meddwl yn brydlon yn bwysig.
"Mae oedi'n gallu gwneud niwed i les pobl sy'n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn ogystal â thanseilio eu hawliau," meddai.
"Mae'n bryder mawr bod angen deddfwriaeth frys i sicrhau fod yna gynrychiolwyr meddygol ar gael ar gyfer gwrandawiadau.
"Mae'r sefyllfa'n codi cwestiynau ynglyn â sut datblygodd y sefyllfa i'r graddau nad oes sicrwydd y bydd modd cynnal gwrandawiadau."
Ychwanegodd ei bod hi'n "rhaid i Lywodraeth Cymru a'r Tribiwnlys ein sicrhau fod profiad aelodau meddygol yn gyfredol a bod yna ddigon o bobl ar gael i gynnal gwrandawiadau tra bod y ddeddfwriaeth newydd yn mynd drwy'r Senedd".

Yn ôl Julie James AS, does dim digon o aelodau meddygol ar gael i eistedd ar nifer yr achosion sydd wedi eu rhestru
Fe gyhoeddodd Cwnsler Cyffredinol Cymru, Julie James fod y broblem yn deillio o "fater technegol2 yn niffiniad Deddf Iechyd Meddwl 1983 o Ymarferydd Meddygol.
Yn ôl y diffiniad hwnnw mae'n rhaid i'r aelod meddygol o banel fod â thrwydded i ymarfer yn ogystal â bod wedi ei gofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Ar ôl nodi'r mater hwn, mae Llywydd y Tribiwnlys wedi penderfynu atal aelodau heb drwydded gyfredol i ymarfer rhag eistedd ar achosion.
Mae hyn yn rhoi'r Tribiwnlys mewn cryn beryg o fethu â bodloni ei amserlenni statudol ar gyfer gwrandawiadau, medd datganiad Ms James.
Dim ond ers tri mis mae'r llywydd dan sylw, sef Jane McConnell, wedi bod yn y swydd.
Roedd gan Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl 43 aelod meddygol yn 2024-25, ond yn dilyn penderfyniad Jane McConnell dim ond 19 sy'n gymwys i eistedd ar achosion.
Gobaith i ymchwil arloesol drawsnewid triniaeth afiechyd meddwl difrifol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2025
Iechyd meddwl: Gallai pethau wedi bod yn well gyda help cynnar
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2024
Cynllun 10 mlynedd i wella darpariaeth gofal iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2025
Mae datganiad y Llywodraeth yn nodi fod Julie James wedi gofyn i'r 19 aelod sy'n parhau i fod yn gymwys, i fod ar gael gymaint â phosib ond ychwanegodd mai "cyngor clir y farnwriaeth yw nad oes digon o aelodau meddygol ar gael i eistedd ar nifer yr achosion sydd wedi'u rhestru ar gyfer yr wythnosau nesaf".
Mae aelodau heb drwyddedau cyfredol, sy'n aml wedi ymddeol, wedi eistedd ar nifer anghymesur o uchel o achosion y Tribiwnlys.
Mae pob aelod meddygol o'r Tribiwnlys wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Barn Gweinidogion Cymru, fel mater o bolisi, yw na ddylai trwydded gyfredol i ymarfer fod yn ofyniad i eistedd fel aelod meddygol o'r Tribiwnlys, medd Julie James.
Dyw hi ddim yn eglur beth oedd y "mater technegol" nac ychwaith pwy dynnodd sylw ato. Dyw'r Llywodraeth ddim wedi cynnig eglurhad pellach.
Dywedodd un ffynhonnell cyfreithiol wrth BBC Cymru fod y tribiwnlysoedd yn dibynnu ar feddygon sydd wedi ymddeol felly does ganddyn nhw ddim trwydded. "Hebddyn nhw fe allai'r system ddymchwel," meddai'r arbenigwr.
Mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi ysgrifennu at y Llywydd i ofyn a fyddai modd i'r Senedd roi blaenoriaeth i'r mater a'i drafod pan fydd aelodau yn dychwelyd yno ar 13 Ionawr.
Mae'r Cwnsler Cyffredinol, Julie James, yn gobeithio cyflwyno bil brys er mwyn pasio'r ddeddf cyn gynted â phosibl yn y gobaith fod modd i hynny ddigwydd ar 14 o Ionawr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.