Hergest: Rhai gwelliannau ond heriau'n parhau mewn uned iechyd meddwl

Arwydd Uned Hergest
  • Cyhoeddwyd

Mae rhywfaint o gynnydd wedi ei wneud o fewn uned iechyd meddwl yn y gogledd ond mae heriau yn parhau mewn rhai meysydd, yn ôl arolwg newydd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Mae Uned Hergest yn darparu gofal seiciatrig dwys yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, sy'n cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Nododd yr archwilwyr fod gwelliannau o ran gweithdrefnau diogelu a mesurau atal a rheoli heintiau, tra bod canmoliaeth i'r staff am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad.

Er hynny mae'r adroddiad yn tynnu sylw at feysydd sydd dal angen eu gwella gan gynnwys diffyg rhaglenni gweithgareddau therapiwtig, heriau o ran cadw cofnodion papur ac amgylchedd cyffredinol yr uned.

Cynhaliwyd arolygiad blaenorol yr AGIC yn 2023 - a oedd yn rhestru 26 maes yr oedd angen mynd i'r afael â nhw gyda chynllun pwrpasol dros amser.

Cafodd yr adroddiad newydd ei lunio yn dilyn ymweliad dirybudd ag Uned Hergest ym mis Medi 2025.

Nododd yr adroddiad fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud ers arolygiad blaenorol.

"Gwelodd yr arolygwyr waith tîm ac ymroddiad cadarn, gyda'r staff yn gweithio'n galed i ddiwallu anghenion y cleifion hyd yn oed mewn amgylchiadau heriol," meddai'r archwilwyr.

"Roedd y staff yn darparu gofal tosturiol a pharchus, a dywedodd y cleifion a'u teuluoedd eu bod yn hawdd mynd atynt, yn sylwgar, ac yn gefnogol.

"Nodwyd bod presenoldeb staff dwyieithog a'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg yn gryfder penodol, a oedd yn helpu i sicrhau bod y cleifion yn teimlo'n gyfforddus a'u bod yn cael eu deall."

Mae'r ddogfen hefyd yn dweud bod gweithdrefnau diogelu cadarn ar waith, mesurau atal a rheoli heintiau effeithiol yn ogystal ag ymrwymiad clir i ddiogelwch cleifion.

Amgylchedd cyffredinol yr uned yn 'peri pryder'

Fe wnaeth yr archwilwyr dynnu sylw at sawl maes sydd angen gwella hefyd.

Un agwedd oedd yn "peri pryder" oedd y ffaith bod diffyg rhaglenni gweithgareddau therapiwtig strwythuredig ar bob un o'r wardiau, ac "nad oedd unrhyw gynnydd wedi'i wneud ers yr arolygiad blaenorol yn 2023".

Er bod ystafell gweithgareddau a champfa ar gael, nid oedd y rhain yn cael eu defnyddio ddigon oherwydd cyfyngiadau staffio, ac roedd angen atgyweirio rhai darnau o gyfarpar.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at heriau mewn perthynas â chofnodion papur, ac yn awgrymu y dylai'r bwrdd iechyd ystyried rhoi system cofnodion electronig ar waith.

Roedd amgylchedd cyffredinol yr uned hefyd yn "peri pryder", ac "er ei fod yn lân ar y cyfan, roedd angen rhoi sylw i rai ardaloedd er mwyn cynnal amgylchedd diogel a therapiwtig".

Uned Hergest
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd AGIC eu bod am barhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau cynnydd wrth fynd i'r afael â'r materion sy'n codi yn yr arolwg

Roedd canfyddiadau ychwanegol yn cynnwys materion yn ymwneud â storio meddyginiaeth, cadw cofnodion, ac anghysondebau o ran hyfforddiant staff, arfarniadau, a rheoli swyddi gwag.

Roedd adborth gan staff hefyd yn cyfeirio at bryderon am lesiant, argaeledd adnoddau, a'r angen am fwy o bresenoldeb a chymorth gan yr uwch-reolwyr.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr AGIC: "Nododd yr arolygiad o Uned Hergest agweddau cadarnhaol ar y gofal, gan gynnwys gwaith tîm da, proffesiynoldeb, a chymorth i'r cleifion.

"Fodd bynnag, mae meysydd i'w gwella wedi'u nodi, fel gweithgareddau therapiwtig strwythuredig, gwybodaeth gliriach i gleifion, prosesau cadw cofnodion, a heriau penodol o ran yr amgylchedd a staffio.

"Bydd AGIC yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau yr eir i'r afael â'r materion hyn a chefnogi gwelliannau parhaus i ofal a diogelwch y cleifion."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.