| Ras ydy hon 90 milltir fôr o Arklow yn yr Iwerddon i Aberystwyth. Llwyddodd y tîm lleol i orffen y ras mewn 14 awr, 47 munud a
50 eiliad - eiliadau yn unig y tu allan i'r
record a hynny mewn amgylchiadau digon anodd. Fe orffennodd y tîm dros awr o flaen y tîm oedd yn ail. Roedd 180 dimau yn cystadlu yn y ras. Mae'r cychod yn bedair troedfedd ar
hugain o hyd ac mae deuddeg aelod i bob tîm ond dim ond pedwar all rwyfo ar y tro.
Mae hi i fyny i'r timau pa mor arni y maent yn newid eu rhwyfwyr a faint o orffwys gaiff aelodau ar y cwch cefnogi. Mae hyn yn rhan bwysig o dactegau'r ras. Fe gychwynnodd y ras am bedwar o'r gloch y prynhawn ac fe gyrhaeddodd criw Aberdyfi Aberystwyth am chwarter i saith y bore ar ôl rhwyfo drwy'r nos mewn amgylchiadau digon anodd. Dyma'r tro cyntaf i Aberdyfi ennill y Celtic Challenge ac roedd y capten, Paul Chesworth, yn lIawn canmoliaeth o'r criw. "Fe dalodd y gwaith caled a wnaethom dros y gaeaf ar ei ganfed," meddai, "ac
rwyf yn llawn edmygedd o'r criw i gyd. Rhaid i ni beidio ag anghofio am y criw cefnogol, fodd bynnag - pobl fel Mike
Rogers a ddaeth efo ni i'r Iwerddon i ddod a'r trailer yn ôl er nad yw'n aelod o'r clwb. Fe chwaraeon nhw ran allweddol yn ein llwyddiant." Yn ogystal ag ennill y brif wobr, sef y Cwpan Corporation fe enillodd y tîm Gwpan Pen Dinas hefyd am fod y tîm Cymreig cyntaf i ennill a Chwpan Rummers Celtic fel y tîm dynion cyntaf. Yn ychwanegol at hyn i gyd fe lwyddodd y clwb i godi £4,000 tuag elusennau a Sense - yr elusen ar gyfer plant dall a byddar. Diolch i bawb a'u cefnogodd. Nid oedd tîm gan y merched ond fe rwyfodd pedair o ferched clwb Aberdyfi , thîm Aberystwyth a llwyddo i orffen yn ail.
 |