Llythyr ydy o a ysgrifennwyd gan ei daid, John Rowlands, pan oedd yn cadw Gwesty'r Eryrod yn Llanuwchllyn.
Mae'r llythyr wedi ei ddyddio 22 Rhagfyr, 1925 - ac yn rhyfedd iawn, dyna pryd y ganed Roy. Dyma'r llythyr:
Gwesty'r Eryrod, Llanuwchllyn. 22/12/25
F'annwyl wraig; - Gair oddi wrth dy hen gariad i ddymuno i ti Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda pan y daw, gan obeithio dy fod yn parhau i fwynhau iechyd a chysur
yn y wlad anghysbell yna
Sydd tu hwnt i fwlch yr eira.
Mae y merched yma yn cwcio i rywun nes ydynt yn chwys dyferol, ac yn berwi traed moch i minnau. Iachach bwyd a gwell ar les na chacennau melus.
Traed moch a brechdan drieg,
A wneiff imi fwyta chwaneg;
Yna mi wnaf gysgu'n dawel,
Tan y bore heb dy gesel.
Yr wyf yn cael llythyrau caru bob wythnos oddi wrth Ddeon Tŷ Ddewi.
Ond er hynny mae'n dymuniad
At fy ngwraig fy annwyl gariad.
Mae hi'n dywyll iawn y dyddiau byrion hyn, ac heb oleu lleuad i'n llawenhau.
Y byd lleiaf yw ein lleuad,
A'r agosaf yn y cread;
Merch a morwyn dda y ddaear,
I'w gwas'naethu daeth yn gynnar.
Mae'r mor yn estyn iddi,
Ei gusannau'n gyson erddi;
Deil eu cariad yn ddioedi,
Er na soniant am briodi.
Tra yn cerdded ar fy nheithiau,
Trwy gaddugaw tew gymylau;
Uwch y gorwel daeth y lleuad,
I fy arwain at fy nghariad.
Nos dda Catherine bach
J Rowlands.
Fe aned John Rowlands (John Dal i bobl Llanuwchllyn oherwydd ei fod dros ddwy lath o daldra) yn 1851 a bu farw yn 1929 pan oedd Roy yn saith oed. Priododd â Catherine Evans yn 1879 a ganed iddyn ddeg o blant, chwe mab a phedair merch.
Ymfudodd dau o'r meibion, Twm a Wil, i Batagonia yn 1912 a lladdwyd y mab hynaf, John, yn y Rhyfel Mawr yn 1917. Cafodd dau arall o'r meibion eu clwyfo yn yr un rhyfel.
Ond pam ysgrifennu llythyr at ei wraig yn 1925? Mae'n ymddangos ei bod hi erbyn hyn yn cadw tafarn Y Cymro (neu'r Goat fel y'i gelwid weithiau) yn Maerdy rhwng Corwen a Cherrig y Drudion.
Roedd y merched, fodd bynnag, yn helpu eu tad i edrych ar ôl y dafarn yn Llanuwchllyn a dyna yw'r cyfeiriad at y traed moch, mae'n debyg; dyna hoff fwyd y dafarn!
Aeth tri o'r meibion i gadw tafarndai yn yr ardal hefyd er na fyddai'r un ohonynt yn cyffwrdd a diferyn o'r ddiod feddwol. Yn ogystal, roedd John, y tad, yn cadw siop gyferbyn a'r Eagles.
Mae dau gwestiwn yn gogleisio'r meddwl ynglŷn a'r llythyr.
1. Pam bod John a Catherine Rowlands yn byw ar wahân erbyn 1925? Mae'n amlwg o'i gyfarch ar ddechrau'r llythyr eu bod yn dal yn briod ac mai term o anwyldeb sy'n peri iddo alw Catherine yn "dy hen gariad".
2. Beth sydd y tu ôl i'r frawddeg: "Yr wyf yn cael llythyrau caru bob wythnos oddi wrth Ddeon Tŷ Ddewi?" Fe ŵyr Roy fod ei daid yn eglwyswr pybyr ond all o ddim esbonio'r cyfeiriad hwn.
Os digwydd y gall rhywun sy'n darllen yr erthygl hon daflu goleuni ar y pethau hyn yna byddai Roy yn falch iawn o glywed oddi wrthych.