Mwynhaodd barti mawr oedd wedi ei baratoi gan ei ddwy ferch, Glenys Allen a Megan Reynolds a daeth amryw o bell ac agos i dalu gwrogaeth i'r gŵr hynaws hwn.Ganed Bill yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, ac wedi iddo adael yr ysgol gorfodwyd ef gan ei rieni i fynd i weithio ar fferm. Ond roedd Bill a'i fryd ar fynd i'r môr a dyna a wnaeth ymhen blwyddyn gan ymuno â'r Llynges Fasnachol yn Aberteifi. Bu yn y llynges tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn hwylio ym Môr y Gogledd yn bennaf. Cafodd ddihangfa wyrthiol ar un adeg pan chwythwyd y llong i fyny ond yn rhyfeddol fe lwyddwyd i achub pawb oddi arni.
Yn 1943 fe anfonwyd Bill ar long oedd wedi ei hangori yn Aberdyfi ac yno y cyfarfu â'i ail wraig, Edith May Davies, a'i phriodi yn 1945. (Bu hi farw yn 1981). Roedd gan Bill dri o blant o'r briodas gyntaf a ganed dwy ferch iddo ef ag Edith, sef Glenys a Meg ac mae'r ddwy yn byw yn lleol. Ar ôl priodi fe benderfynodd Bill adael y llynges ac aeth i weithio i'r garej yn Aberdyfi ac yna mewn ffatri oedd yn gwneud rhewgelloedd. Cafodd gyfnod yn Nhonfannau wedyn yn gwneud deinamos cyn dychwelyd i'r garej pan gaeodd Tonfannau.
Fu o ddim yn segur wedyn, chwaith, hyd yn oed ar ôl ymddeol.
"Roedd gan y teulu ddigon i'w wneud," meddai "ac roeddwn wrth fy modd yn troi fy llaw at hyn a'r llall i helpu." Mae o wedi bod yn byw efo Glenys a Bob ers blynyddoedd bellach.
Doedd hyn ddim yn ddigon gan Bill, fodd bynnag, ac aeth ati i ddysgu Ffrangeg. Bu'n aelod diwyd mewn dosbarth nos Ffrangeg am flynyddoedd ac yn 1997 cafodd ei anrhydeddu gan y Brifysgol Agored am ei ymdrechion.
Mae Bill i'w weld yn ddyddiol bron (pan fo'r tywydd yn caniatáu) yn mynd i lawr y Stryd Fawr yn Nhywyn ar ei sgwter i wneud ei siopa. Yn fwy na dim, fodd bynnag, mae ei feddwl yn gwbl glir a mae ei gof yn anhygoel.
Beth mae o'n ei feddwl o fywyd yn yr unfed ganrif ar hugain?
"Mae rhai pethau yn llawer gwell," meddai, "ac eraill yn llawer gwaeth. Er enghraifft, mae hi'n dipyn haws symud o gwmpas mewn car nag oedd hi efo cert a cheffyl. Ac wrth gwrs, does dim eisiau ymorol am goed tan gan fod y gwres canolog mor handi!"
Ymorol am y tân oedd un o dasgau Bill pan oedd yn byw yn Nhrefdraeth efo'i nain (bu farw ei fam pan oedd yn chwech oed). Fo oedd yn gyfrifol am y 'cwlwm', sef cymysgedd o lwch glo a chlai i'w losgi yn y giât dros nos ar ôl gwneud twll yn ei ganol efo'r procer. Mewn ambell i dŷ, fe wyddys i dân o'r fath bara am hanner can mlynedd!
Dydy cymdeithas heddiw ddim hanner mor glos ag oedd hi ganrif yn ôl ym marn Bill.
"Doedd neb yn meddwl cloi'r drws yn Nhrefdraeth," meddai, "a byddem yn treulio'r gyda'r nos yn gwmni difyr o gwmpas y tân yn canu ac yn adrodd straeon wrth y naill a'r llall. Doedd gynno ni ddim radio heb sôn am deledu pan oeddwn i'n blentyn er bod gan fy nhaid ffonograff Edison."
Ar ddydd ei ben-blwydd fe dderbyniodd Bill lu mawr o gardiau gan gynnwys un gan y Frenhines yn naturiol, un gan Rhodri Morgan, un arall gan Peter Hain ac un gan y Gweinidog tros Gyflogaeth a Phensiwn. A chwarae teg i staff y Swyddfa Bost yn Nhywyn - fe gafodd Bill anrheg ganddyn nhw pan aeth yno i godi ei bensiwn ar fore ei ben-blwydd. Yna, ddeuddydd yn ddiweddarach fe drefnodd Glenys a Megan, merched Bill, barti mawr iddo yn Leahurst pan ddaeth nifer fawr o'r teulu a ffrindiau ynghyd i ddathlu y pen-blwydd arbennig.
Oedd, roedd yna ddathlu mawr yn Leahurst y mis diwethaf a pha ryfedd hynny. Llongyfarchiadau mawr, Bill!