Y gobaith ydy y bydd sbon danlli yn barod erbyn eisteddfod 2005. Yn y cyfamser, fe gynhelir gweithgareddau'r carnifal ym mis Gorffennaf mewn pabell fawr.Bydd y neuadd newydd, sydd wedi ei chynllunio gan Selwyn Jones o Lanrug, ger Caernarfon yn costio £463,000 ac mae'r pentrefwyr wedi sicrhau y rhan helaeth o'r arian yn barod. Bydd y neuadd yn fwy na neuadd bentref, fodd bynnag; efallai y byddai'n decach ei galw yn ganolfan gymunedol.
Bydd ynddi gaffi, dwy gegin, cyfrifiaduron gyda chysylltiad amrediad eang y rhyngrwyd ac ystafell seinglos (soundproof) ar gyfer y band a gweithgareddau tebyg. Yn fwy na dim, bydd yna swyddfa bost - newyddion calonogol iawn i'r pentref.
Y system biomas newydd fydd yn cynhesu'r neuadd - system fydd yn costio £2.5m. Mae'r arian yma wedi ei sicrhau yn barod diolch i gefnogaeth y Cynulliad, arian Amcan 1 Partneriaeth Economaidd Gwynedd a £700,000 gan Transco. Cwmni Egni Cymru Cyf. fydd yn gyfrifol am y cwt boeler a'r offer ynddo; y cwmni hwn hefyd fydd yn cyfarfod ag unrhyw ddiffygion yn y cyllid.
Y broblem fwyaf oedd yn wynebu'r fenter oedd lleoliad y ffwrnais. Y bwriad gwreiddiol oedd ei chodi dros y ffordd â'r fynedfa i stad Tan y Fedw, nepell o'r ysgol. Roedd amryw o'r trigolion yn anhapus â hyn yn enwedig y rheiny sy'n byw yn stryd Tanybryn.
Bellach mae safle arall wedi ei darganfod ar gyfer y ffwrnais, safle sydd yn llawer mwy derbyniol i'r pentrefwyr. Roedd sibrydion ar led y byddai'r coed a losgir yn y ffwrnais yn cael ei gludo i Swydd Efrog i gael ei brosesu ond fe wadwyd hyn gan Royston Jones. "Bydd y coed yn cael ei brosesu yn llawer nes adre' na hynny," meddai. "Pontarfynach, er enghraifft. A pha un bynnag, ni fydd angen prosesu pob darn o goedyn."
Deallwn bod y mwyafrif o'r pentrefwyr bellach yn aelodau o Gwmni Egni Abergynolwyn Cyf sydd yn golygu eu bod yn gallu prynu eu trydan yn rhatach na chan gwmni fel Manweb, dyweder. Yn ogystal, os byddant yn cytuno i roi y sustem biomas newydd yn eu tai, fe allant wneud hynny yn rhad ac ddim. Fydd hyn ddim yn bosibl unwaith y bydd y system wedi ei gosod felly rhaid i bobl yr Aber benderfynu reit ar y cychwyn a ydynt am fod yn rhan o'r broses a'i peidio.
Er bod amryw o bobl y pentref wedi dangos diddordeb yn y sustem newydd, teg yw dweud fod rhai amheuon yn aros. Sawl gwaith yr wythnos fydd y lorïau trymion yma yn cludo eu llwyth coed i'r pentref tybed? Faint o lygredd fydd yn dod allan o'r ffwrnais? (Llawer llai nag o gyrn o tai, medd y cefnogwyr).
"Dw i'n deall Pam fod gan rhai pobl eu amheuon," meddai Royston "ond teimlaf yn gwbl hyderus y gallwn leddfu'r ofnau hyn yn ystod y misoedd nesaf." Mae un peth yn sicr, fodd bynnag: mae'r Aber am gael ei chanolfan gymunedol newydd a'r sustem biomas fydd yn ei gwresogi.