BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dail Dysynni
Y tîm a'r ambiwlans awyrRas y trên
Hydref 2005
Mae hi'n syndod sut mae blwyddyn yn dod rownd yn tydi? Ro'n i'n teimlo'n ddigon saff y llynedd yn cytuno mai tro y merched fyddai hi eleni i redeg Ras y Trên ...
... a buan iawn y daeth hi'n amser meddwl o ddifri am ymarfer ychydig.

Yn bersonol, 'doeddwn i heb wneud unrhyw fath o redeg traws gwlad ers blynyddoedd felly mater o raid oedd ymarfer, neu fyddwn i ddim yn cyrraedd pen y daith!

Fe ddaeth y criw o bump merch at ei gilydd o dipyn i beth, ac ar ôl i bawb fod yn ymarfer yn ei gornel fach ei hun ers tua mis Ebrill, daethom yn ddigon dewr i gyfarfod yn Sandilands a rhedeg i lawr efo'r afon ac yn ôl ac roedd honno'n ddigon o brawf ar ffitrwydd yn ei hun! Erbyn hyn 'roedd rhai o'r dynion wedi penderfynu rhedeg y 10k (7 milltir) eto eleni i weld os fedren nhw wella ar amser y llynedd, 'roeddem ni wedi penderfynu eisoes mai'r ras hwyl oeddem ni am ei rhedeg - hwyl? A hithau'n 5½ milltir?

Yr achosion da oeddem am eu cefnogi eleni oedd yr Ambiwlans Awyr - gwasanaeth hanfodol mewn ardal wledig fel hon, a Chylch Meithrin Tywyn - sydd bob amser yn chwilio am arian i gadw'r Cylch i fynd.

Wrth i'r ymarfer fwrw yn ei flaen a'r cyfarfodydd wythnosol yn Sandilands barhau, dyma fwrw ati i hel noddwyr - a chael ymateb gwych. Cyn pen dim daeth bore'r ras a phawb yn cyfarfod ym Mhenllyn i wisgo'i grys smart - a diolch unwaith eto i Genesis am argraffu a noddi'r crysau.

Cafwyd sesiwn dynnu lluniau ac yna 'roedd pawb ar ei ffordd i ddechrau'r ras - diolch i'r "chauffeurs" am ein cludo yno'n ddiogel!

'Roedd y ras 10k yn dechrau ychydig ynghynt na'r ras hwyl, ond buan iawn y cyfarfu'r ddwy giang ar ôl Brynglas (rhai ynghynt na'i gilydd!). Roedd llawer iawn o bobl yn rhoi o'i hamser i stiwardio'r ras ar ei hyd - ac roedd y diodydd oer, y spwng llawn dŵr oer a'r anogaeth yn dderbyniol iawn. Bu'n rhaid gwneud ymdrech arbennig i basio Cynfal oherwydd bod ein cefnogwyr ni yno'n gweiddi "c'mon mam - rheda!"

Mrs Mai Lewis


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy