BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dail Dysynni
Dennis FurneauxGolff: Blwyddyn y Capten
Chwefror 2007
Ar ddydd Calan 2006 fe ddechreuodd Dennis Furneaux, Tywyn ar ei flwyddyn o fod yn gapten Clwb Golff Aberdyfi.
Dyma, yn ei eiriau ef ei hun sut yr aeth pethau am y flwyddyn:

"Ionawr y cyntaf, 2006 - un o'r diwrnodiau mwyaf balch yn fy mywyd pan gefais fy ngwneud yn gapten ar Glwb Golff Aberdyfi. Cyrraedd y Clwb ychydig cyn hanner dydd i baratoi ar gyfer y ddefod flynyddol gyda chapten y merched, Sheila Edwards. Fe ellwch fentra y byddai gan Jo, chwaraewr proffesiynol y Clwb, ryw dric neu ddau i fyny ei lawes ar yr achlysur, a wnaeth o mo'n siomi ni!

Fe ddiflannodd y nerfau wrth i'r peli ffrwydro pan oedd Sheila a finna yn eu trawo.

Erbyn i ni ymgasglu y tu mewn i'r Clwb wedyn, fodd bynnag, raedd y nerfau yn ôl achos roedd hi'n amser i mi rai fy araith gyntaf o flaen yr aelodau. Ta waeth, roedd popeth i weld yn mynd yn iawn ac roeddwn yn teimlo'n rhyfeddol o falch efo'r teulu i gyd o'm cwmpas.

Roedd yna un foment anfarwol pan dorrodd fy ŵyr dyflwydd oed ar fy nhraws a gweiddi: "Efo pwy wyt ti'n siarad, Taid?"

Gyda pawb yn rowlio chwerthin fe ymlaciais innau'n llwyr.

Mae Ionawr a Chwefror yn fisoedd pur dawel yn y Clwb ar unig wahaniaeth wnaeth bod yn gapten i mi yn ystod y ddeufis hyn oedd cael ychydig mwy o barch gan bobl! Yna, gan fy mod yn foi reit wlatgarol fe benderfynais gael cystadleuaeth arbennig ar ddydd Gŵyl Dewi gyda chinio i ddilyn gyda'r nos.

Fe ellwch ddychmygu fy siom pan ddeffrois ar fore Sadwrn, Mawrth y cyntaf i weld trwch o eira tros bobman. Chafwyd dim golff y diwrnod hwnnw ond fe fwynhaodd pawb y cinio a gwrando ar Gôr meibion Dysynni wedyn. Roedd y Saeson wedi gwirioni gwrando ar y côr.

Ar ôl hyn, allai pethau ddim ond gwella ac fe gafwyd nifer o weithgareddau llwyddiannus iawn. Fe drefnwyd cystadleuaeth Cwpan Ryder Cymru i chwaraewyr proffesiynol ifanc yn ogystal â Phencampwriaeth i Chwaraewyr Hŷn Cymru.

Braint i mi oedd cael croesawu'r cystadleuwyr i Aberdyfi ac yna i gyflwyno'r gwobrau i'r enillwyr ar y diwedd, yn union fel y maent yn gwneud yn y Bencampwriaeth Agored ar y teledu.

Mae wythnos y Pasg yn wythnos brysur iawn yn y Clwb gyda'r cystadlaethau dyddiol a chyflwyno'r gwobrau ar y nos Sadwrn olaf.

Mae'r un peth yn wir am wythnos y cystadlaethau ym mis Awst. Ydy, mae'n amser prysur i'r Capten ond mae'n braf cael cyfarfod a'r aelodau hynny sy'n byw i ffwrdd ond yn gwneud yr ymdrech yn flynyddol i gystadlu yn Aberdyfi.

Un o gyfrifoldebau'r Capten ydy dewis lle i fynd ar y trip blynyddol ym mis Mai ac eleni fe ddewisais i fynd i St. Pierre, Cas-gwent. Cawsom dywydd bendigedig yn ystod ein arhosiad yno a dw i'n credu i bawb fwynhau eu hunain.

Fe gefais dywydd bendigedig i Ddiwrnod y Capten ym mis Gorffennaf hefyd. Yn wir, roedd hi'n ddiwrnod crasboeth gyda'r babell gwrw yn boblogaidd iawn efo pawb!

Yn naturiol, fe gawsom sawl gêm gyfeillgar yn erbyn clybiau lleol megis Machynlleth, y Drenewydd, Borth, Harlech ac Edgebaston a Moseley o ardal Birmingham, gartref ac oddi cartref.

Fe gawsom groeso brenhinol ym mhob clwb a bwyd bendigedig; dim rhyfedd nad oedd yr un o'm trowsusau yn fy ffitio erbyn diwedd y flwyddyn!

Cyn i mi droi rownd bron, fe ddaeth y flwyddyn i ben; fe aeth yr amser fel y gwynt. Fe allaf ganolbwyntio ar fy golff o hyn allan - ac ar golli tipyn o bwysau, yn naturiol. Fel y dywedais, braint oedd cael bod yn gapten ar y Clwb yn 2006 a wnawn i ddim ei newid o am unrhyw beth yn y byd."


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy