BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dail Dysynni
Alun EvansAnrhydedd i Alun
Chwefror 2006
Meuric yn ymddeol ar ôl 12 mlynedd
Mae Alun Evans, Bron Biben (Caerffynnon gynt), Bryncrug, wedi ei ddewis yn Gadeirydd Cyngor Sioe Frenhinol Cymru.
Bydd yn olynu un arall o ffermwyr y fro sydd wedi bod yn y swydd am y deuddeng mlynedd ddiwethaf, sef Meuric Rees, Escuan, Tywyn.

"Mae hi wedi bod yn dipyn haws i mi gamu o'r neilltu gan fod cyfaill i mi a ffermwr o Sir Feirionnydd yn fy olynu," meddai Meuric.

Er ei fod wedi bod yn Gadeirydd y Cyngor ers deuddeng mlynedd mae Meuric wedi bod yn gysylltiedig â'r sioe am dipyn mwy na hyn. Bu ar y Bwrdd Llywodraethol ers y chwedegau ac mae'n cofio'r amser yn iawn pan oedd y Sioe yn symud yn flynyddol rhwng y De a'r Gogledd cyn ei sefydlu yn barhaol yn Llanelwedd. Yn wir dim ond un Sioe mae wedi ei cholli ers 1933. Ef oedd Llywydd y Sioe pan oedd Sir Feirionnydd yn ei noddi yn 1978, anrhydedd a ddaeth i'w ran eto yn 2004 pan oedd y Sioe yn gan mlwydd oed. Mae wedi beirniadu sawl tro yn y Sioe hefyd.

"Dw i'n cofio fy sioe gyntaf yn 1933," meddai, "gan mai dyma'r tro cyntaf i mi wisgo trywsus llaes!"

Meuric Rees Dyfarnwyd Gwobr Syr Bryner Jones iddo yn 1990 am ei gyfraniad i amaethyddiaeth Cymru. Anrhydedd arall a ddaeth i'w ran oedd i Brifysgol Cymru ei anrhydeddu a gradd MSc am ei gyfraniad i amaethyddiaeth Cymru. Roedd o'n cael ei gapio yr un diwrnod a brenin pêl-droed Cymru, John Charles.

"Bu'r deuddeng mlynedd ddiwethaf yn rhai difyr dros ben," eglurodd "ac mae llawer o'r diolch am hynny i'm diweddar wraig, Margaret. Partneriaeth oedd y swydd, mewn gwirionedd, partneriaeth rhyngddi hi a minnau."

Mae Alun yntau yn gysylltiedig â'r sioe ers blynyddoedd. Mae wedi ei chefnogi drwy'r Bwrdd Marchnata Gwlân a hefyd drwy Gwmni Yswiriant Ffermwyr Prydain, cwmni y bu'n gadeirydd arno am ddeng mlynedd. Fel Meuric, mae yntau wedi ei anrhydeddu droeon megis 1994 pan enillodd Wobr Massey Fergusson am ei gyfraniad i amaethyddiaeth Prydain.

"Mae hon yn anrhydedd fawr i mi," meddai Alun, "ac mi fydd yn dasg anodd, os nad amhosib, dilyn Meuric."

Gyda llaw, ef oedd yr unig enwebiad ar gyfer y swydd sy'n dweud cyfrolau am y parch sydd gan amaethwyr Cymru tuag ato.

Dymunwn y gorau iddo yn ei swydd newydd a diolchwn i Meuric am ei gyfraniad yntau yn ystod y 12 ddiwethaf.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy