Wrth edrych yn ôl dros y ddau rifyn cyntaf, rhifynnau lonawr a Chwefror 1979 y peth a'm trawodd yn bennaf oedd: pa mor broffesiynol ei ddiwyg ydy'r DAIL erbyn hyn. Mae'r diolch am hyn yn bennaf i dechnoleg fodern (gwych - pan mae popeth yn gweithio!) ac i haelioni Ymddiriedolaeth Peter Saunders. Heb y gefnogaeth hon go brin y byddai ymddangosiad ein papur bro mor lIewyrchus.
Y diweddar R. Emyr Jones oedd y golygydd yn 1979 ac fe barhaodd yn y swydd am flynyddoedd, yn ogystal a bod yn ysgrifennydd ac yn ohebydd dros dre Tywyn.
Erbyn hyn mae yna
bum tîm o olygyddion gyda phob tîm
yn gyfrifol am ddau rifyn y flwyddyn.
Dyma gam cadarnhaol; yn wir, onibai i ni symud i'r cyfeiriad hwn go brin y byddem yn dathlu penblwydd ein papur bro yn 30 mlwydd oed heddiw.
Yn anffodus, deg rhifyn y flwyddyn a gyhoeddir o hyn allan; ond dyna ni deg rhifyn y flwyddyn oedd yna yn ystod y blynyddoedd cyntaf.
Fu pob newid ddim mor fanteisiol i ni, mae'n wir. Y golled fwyaf, mae'n debyg, oedd colli'r cyfarfod ar y bedwaredd nos Fawrth yn y mis i roi'r DAIL i'w wely. Rhyw ugain o selogion yn troi i fewn i festri Bethel, Ysgol
Penybryn neu'r Ysgol Uwchradd i roi trefn ar y torreth newyddion bro, erthyglau, posau, croeseiriau ac ati i roi difyrrwch i bobl yr ardal - a'r cwbl yn Gymraeg.
Bobl bach, y chwerthin a'r tynnu coes fu wrth i ni Iynnu popeth yn daclus ar daflenni pwrpasol i gael y papur yn barod i'w gludo i'r Lolfa.
Ydy, mae'r cyfrifiadur yn beiriant hwylustod - dydy o ddim yn medru chwerthin na thynnu coes!
Wrth edrych yn ôl tros y rhifynnau cynnar fe ddeuthum ar draws un erthygl ddiddorol (rhifyn Chwefror 1979).
Yn yr erthygl Meddan Nhw mae rhai o bobl yr ardal yn mynegi barn ar rifyn cyntaf y DAIL oedd wedi ymddangos fis ynghynt.
Dyma bigion ohonynt: "Mae o'n curo rhai o bapurau Sir Fôn i'r baw ac mae lIawer mwy o amrywiaeth ynddo." Griff Jones, athro Hanes Ysgol Tywyn.
"Bargen ar ddechrau blwyddyn," meddai Mr Galbraith, Tywyn. "Newyddion o
Arthog i Aberdyfi am ddeg ceiniog." (Sylwch: doedd dim sôn am Bennal yn y rhifynnau cynnar). Aeth ymlaen i awgrymu y dylid cael tudalen o gystadlaethau i rai mewn oed.
"Piti na fyddai o'n ddwyieithog," oedd sylw'r Cynghorydd R.E. Davies, Tywyn cwyn rydym yn dal i'w chlywed o bryd i'w gilydd.
Ar y llaw arall, fe fynegodd un gwr o Fryncrug ei farn o'r papur yn ddigon eglur.
"Blydi gwd pepyr, that Welsh pepyr."
Cwynai un person fod gormod o wallau ynddo a gofynnodd yn sarcastig ddigon: "Be' dach chin drio wneud - cystadlu efo'r Daily Post?"
"Mae eisiau cadw'r papur yn ysgafn fel y gall pawb ei ddeall o," meddai un person tra roedd person arall yn credu fod y papur yn rhy ysgafn heb ddigon o sylwedd ynddo.
Y sylw oedd yn fel i fysedd y Bwrdd Golygyddol, fodd bynnag, oedd hwn: "Doedd dim posib cael copi o'r papur ar ôl dau ddiwrnod - roedd pobl un wedi ei werthu!"
Fyddwn ni'n gallu dweud hyn ymhen deng mlynedd ar hugain arall, os gwn i?
Wrth gloi, mae Pwyllgor y DAIL yn diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r papur bro ar hyd y blynyddoedd.
Hebddoch chi, fyddai yna'r un papur. Llawer o ddiolch - a daliwch ati.