BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dail Dysynni
Y cyng Louise Hughes yn derbyn y ddeiseb gan y cyng Arwel Pierce a'r cyng tref Alun Wyn EvansHyrwyddo diogelwch
Mawrth 2009
Mae diogelwch cyffredinol y ffordd rhwng Bryncrug a Thywyn wedi bod yn gonsyrn a phryder i lawer sy'n teithio ar ei hyd dros y blynyddoedd.

Mae'n ffordd o safon dda, yn gymharol syth, ond yn anffodus yn gymhelliant i oryrru.

Yn anhepgor felly, mae damweiniau yn digwydd a dechrau Tachwedd diwethaf collodd bachgen ifanc lleol ei fywyd wrth iddo gerdded tua Thywyn.

Yn dilyn hyn ffurfiwyd deiseb gan Mrs Jackie Edwards, Bryncrug a'i chyfeillion yn gofyn i Gyngor Gwynedd symud ymlaen mor fuan a phosibl i greu llwybr amlbwrpas - i gerddwyr a beicwyr, ac i oleuo'r ffordd pe byddai hynny'n bosibl.

Cyflwynwyd y ddeiseb i Gadeirydd Pwyllgor Ardal Meirionnydd, Cyng. Louise Hughes, gan Arweinydd Portffolio'r Amgylchedd, Cyng. Arwel Pierce a Chynghorydd tref Tywyn, Alun Wyn Evans.

Yn y cyfamser, da yw deall bod yr Adran Drafnidiaeth yn derbyn bod angen gwelliannau, ac i'r perwyl hwnnw co¬misiynwyd cwmni i gynnal astudiaeth o'r ffordd gyda'r bwriad o gynnig opsiy¬nau o ran gosod y llwybr, ac wrth gwrs i ganfod amcangyfrif y gost.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy