Mae paratoi ar gyfer ymweliad y rhain a'r ysgol yn golygu oriau o waith ychwanegol heb sôn am y pwysau a roddir ar athrawon tra bo'r arolygwyr yn yr ysgol. Un gair sy'n gyrru iasau oer i lawr asgwrn cefn athrawon ydy: AROLYGWYR. Mae paratoi ar gyfer ymweliad y rhain a'r ysgol yn golygu oriau o waith ychwanegol heb sôn am y pwysau a roddir ar athrawon tra bo'r arolygwyr yn yr ysgol.
Mae dwy ysgol yn y fro wedi cael arolwg yn ystod y misoedd diwethaf, sef Ysgol Abergynolwyn ar ddechrau mis Mawrth ac Ysgol Penybryn, Tywyn ar ddiwedd mis Mehefin. Mae'r ddwy ysgol wedi derbyn canmoliaeth uchel gan yr arolygwyr.
Un peth sy'n dal llygad rhywun o ddarllen y ddau adroddiad yw pa mor debyg ydynt. Mae'r ddau yn llawn sylwadau canmoliaethus am y ddwy ysgol. Yn wir, dyna brif nodwedd y ddau arolwg: canmoliaeth - canmol y penaethiaid a'r staff, canmol y llywodraethwyr a'r rhieni, ac yn fwy na dim, canmol y disgyblion.
Dyma a ddywedir am Nia Evans, pennaeth ysgol yr Aber yn yr adroddiad.
"Mae'r pennaeth yn cynnig arweiniad clir a chyson i'r ysgol. Mae'n cydweithio'n effeithiol gyda staff, llywodraethwyr, rhieni ac ysgolion eraill i ddarparu ystod dda o brofiadau addysgol a chymdeithasol i'r disgyblion."
Yr un yw'r neges am Gillian Evans, pennaeth Ysgol Penybryn. "Mae'r pennaeth yn arwain drwy esiampl a bu'n gyfrifol am nifer o gynlluniau i hyrwyddo gwelliant yn yr ysgol. Mae'n amlwg o'rcyfarfodydd cyn-arolygu a'r holiaduron fod gan y rhieni a'r llywodraethwyr feddwl uchel ohoni."
Ychwanegir fod y staff yn gweithio'n dda gyda'i gilydd a bod yna ymdeimlad cryf o ysbryd tîm.
Yr un yw'r ganmoliaeth i'r llywodraethwyr yn y naill ysgol fel y llall a chydnabyddir eu bod yn ymgymryd a'u cyfrifoldebau'n gydwybodol. Mae'r ddwy ysgol yn hynod o ffodus hefyd fod ganddynt rieni cefnogol iawn.
Dywedir bod nifer o rieni Ysgol Penybryn yn weithgar iawn yn yr ysgol a'u bod yn cyfrannu at amryw o faterion cwricwlaidd ac ymweliadau ysgol. Disgrifir Cymdeithas Rhieni Athrawon yr ysgol fel "corff brwdfrydig". Yr un fath yn yr Aber.
"Mae'r rhieni'n gwerthfawrogi'n fawr iawn waith yr ysgol a'r ymdrechion a wna dros eu plant."
Ychwanegir fod Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Abergynolwyn yn "gorff brwdfrydig sy'n cefnogi ystod dda o weithgareddau'r ysgol."
Dau bennaeth da, staff da, dau gorff llywodraethol da a rhieni cefnogol yn y ddwy ysgol. Ond beth am y disgyblion? Unwaith eto, mae yna ganmol mawr yn y ddau arolwg. Canmolir presenoldeb y disgyblion ynghyd a'u hymddygiad a'r modd y cydweithiant yn y dosbarthiadau.
Dywedir am blant yr Aber eu bod "yn ymroi i'w gwaith gyda brwdfrydedd a diddordeb".
Felly hefyd ddisgyblion Penybryn a dywedir eu bod yn gwrtais a pharchus tuag at ei gilydd a thuag at y staff.
Mae un nodwedd arall sy'n gyffredin yn y ddwy ysgol ac a allai fod yn achos pryder i ni yn y fro. O'r deunaw disgybl sydd yn mynychu Ysgol yr Aber mae llai na chwarter ohonynt yn dod o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith. O'r 242 disgybl sy'n mynychu Ysgol Penybryn dim ond 6% ohonynt sy'n dod o gartrefi lle mai'r Gymraeg yw'r brif iaith. Serch hynny, mae'r arolygwyr yn tynnu sylw yn arbennig at yr ymdrechion a wneir gan staff y ddwy ysgol i sicrhau fod y disgyblion yn hyfedr yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn iddynt drosglwyddo i'r Ysgol Uwchradd.
Canmolir ymdrechion Ysgol Penybryn i gyflwyno disgyblion o gartrefi di-Gymraeg i'r iaith Gymraeg mewn modd sensitif ac effeithiol a nodir fod iaith a diwylliant Cymru yn cael lle amlwg ym mywyd a gwaith ysgol yr Aber.
Tynnir sylw yn y ddau arolwg at yr hyn y dylai'r ddwy ysgol anelu ato i wella'r ansawdd ymhellach ond, yn wir, rhaid llongyfarch Ysgol Abergynolwyn ac Ysgol Penybryn am yr hyn y maent wedi ei gyflawni eisoes.
Mae gennym ni ym Mro Dysynni achos i ymfalchio yn y ddwy ysgol ac mae'n bleser gan y DAIL eu llongyfarch am ddau arolwg.