Un o fechgyn y fro, sef Steven Owen, mab Enid a'r diweddar Rhys Owen, Llwyngwril sydd wedi troedio yr union daith. Pam mynd i'r lle anghysbell? Dim ond eira, rhew a môr sy yno - dim tir o gwbl. Ond, sialens ydy sialens, a phan gyfarfu Steven a gweddill y grŵp o 19 yn Dartmoor nôl yn Ionawr, doedd dim amdani ond gwynebu gwaith caled o ymarfer.Un o'r ymarferiadau oedd tynnu teiar ynghlwm mewn harnais drwy'r coed ger ei gartre yn Guilford, gyda'r cŵn yn gwmni iddo! Roedd y fenter hefyd yn gyfle i'r ddau arweinydd ymarfer ar gyfer eu taith ym mis Tachwedd i ail greu ymdrech Capten Scott i Begwn y De.
Felly gyda unigolion profiadol fel hyn, roeddent yn medru cyfleu hyder i bawb arall. Ar ôl cael eu hedfan i wersyll y Rwsiaid ar y gyflinell 89 gradd o Spitsbergen, rhaid oedd dechrau'r daith o 60 milltir a oedd i gymryd tua 8 - 10 diwrnod i'w sgïo - dydi hi ddim yn bosibl cerdded yno.
Wedi cyrraedd y Pegwn, y traddodiad ydy ffrïo cig moch - doedd neb yn siŵr iawn pam! Byddai hofrennydd yn eu cludo nôl wedyn i'r gwersyll cyn dychwelyd i Spitsbergen.
Yn dilyn sgwrs gyda Steven ar ôl iddo ddychwelyd yn ddiogel, soniodd am un o'r peryglon, sef rhew yn dadmer, a'r môr yn dod i'r golwg.
Gan i'r môr symud y rhew, bu'r grŵp yn sgïo tua 100 milltir cyn cyrraedd y Pegwn - llawer mwy o bellter na'r amcangyfrif gwreiddiol. Roedd pawb yn sylweddoli pa mor bwysig oedd hi i ddilyn llwybrau cywir, a pha mor ddibynnol oeddent ar ei gilydd. Gan ei bod yn ddechrau'r gwanwyn, fe gododd y tymheredd ac felly roedd y posibilrwydd o'r eira a'r rhew yn dadmer yn hynod o beryglus. Yn ffodus tuag at ddiwedd y daith, dychwelodd y tywydd oer h.y. -25 gradd gan ddisgyn i -35 gradd yn ystod gwynt a storm. Dyna beth yw oer! Roedd angen mwy na dillad Damart ar y daith yma! Wrth gwrs, roedd hi'n bwysig peidio chwysu'n ormodol gan y gallai'r chwys rewi ac arwain at ewinrhew, felly, rhaid oedd sgïo yn raddol am ryw 6 - 10 milltir y diwrnod yn unig.
Beth oedd pawb yn ei gario? Roedd pob aelod o'r parti'n tynnu sled a oedd yn pwyso tua 70 pwys, gyda bwyd a dillad sbâr. Bwyd sych oedd ar gael a thipyn o dasg oedd toddi'r rhew er mwyn ei ferwi i gael dŵr poeth - fe gymerai hyn tua dwy awr. Diolch byth am ein trydan a dŵr tap! Rhaid cofio nad tirwedd gwastad oedd ar y daith ond eira a rhew wedi'i 'blygu' ac yn aml iawn byddai'n rhaid codi'r sled dros y plygiadau rhew yma gyda thri pherson arall yn helpu. Cafwyd tywydd digon braf y rhan fwyaf o'r amser, a rhyfedd oedd y profiad o olau yn ystod y dydd a'r nos.
Cyrhaeddwyd y Pegwn ar 25 Ebrill gyda'r tywydd yn heulog. Mae yna sôn mai Steven ydy'r Cymro Cymraeg cyntaf i gyrraedd yno, ond beth bynnag am hynny, gwelwyd y Ddraig Goch yn ddigon amlwg yng nghanol y baneri eraill.
Beth ddysgodd y profiad iddo? Pwysigrwydd o bawb yn cyd-weithio, ffydd yn yr arweinyddion, a gwneud ffrindiau oes.
Fel canlyniad i'r daith, mae Steven wedi codi dros £16,000 i elusen ymchwil i Glefyd y Prostad yn Ysbyty Surrey, yn Guilford, a diddorol yw nodi fod yr arbenigwr yno yn Gyrnro o Abertawe yn wreiddiol ac yn un o ffrindiau Steven.
Ar ran darllenwyr y DAIL, estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog iddo ar ei fenter ddewr, ac ymfalchïwn yn ei Gymreictod cadarn, a'i barodrwydd i helpu eraill llai ffodus.