| Yn ystod y mis mae George wedi profi rhagor o lwyddiant. Yng nghystadleuaeth chwaraewyr hŷn Cymru a gynhaliwyd ar gwrs Aberdyfi ar ddechrau'r mis daeth George yn ail. Yna, gyda chymorth ei bartner ar y diwrnod, Mike Rogers, llwyddodd i ennill Pencampwriaeth Agored Chwaraewyr Hyn yng Nghonwy. Llongyfarchiadau i'r ddau.
 |