BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dail Dysynni
Enillwyr Cwpan Amatur Cymru - Aberdyfi F.C. 1936-37Diwrnod o ddathlu - Cae Pêl-droed newydd i Aberdyfi
Gorffennaf 2003
Os soniwch chi am bêl-droed ac Aberdyfi yn yr un gwynt, dim ond un peth sy'n dod i feddwl dyn yn syth: 1937 a Chwpan Amatur Cymru.
All rhywun ddim anghofio am gamp tîm y pentref yn cyrraedd y brig uchaf drwy guro Aberystwyth 2-1 yn y Ffeinal ym Machynlleth.

Bu'r pentref heb dîm am flynyddoedd wedyn nes ail-ffurfio'r Clwb Pêl-droed yn 1996 ac mae'r Clwb wedi cael peth llwyddiant ers ei ail-ffurfio. Hogia Aberdyfi oedd pencampwyr Cynghrair Ffigar (Adran 2) yn 1997 ac fe enillon nhw Gwpan Ffigar yn yr un flwyddyn. Fe enillon nhw yr un gwpan ddau dymor yn ddiweddarach a hwythau yn yr Adran Gyntaf.

Llwyddiannau prin oedd y rhain fodd bynnag ac efallai mai un rheswm am hyn oedd ansawdd y cae chwarae ym Mharc Penrhos. Mae'r cae wedi ei adeiladu ar hen domen sbwriel ac fel canlyniad anwastad iawn oedd ei wyneb roedd yn llawn o wrymiau a phantiau gan ei gwneud hi'n amhosib bron i'r chwaraewyr reoli'r bêl o gwbl. Yn ffodus, roedd Cyngor Gwynedd wedi trosglwyddo lês y cae i Gyngor Cymuned Aberdyfi yn 1992 ac, felly, pan benderfynodd y Clwb Pêl-droed ei bod yn hen bryd gwneud rhywbeth ynglyn â'r cae dyna un rhwystr o'r ffordd.

Yn anffodus, roedd digon o rwystrau eraill yn wynebu'r Clwb a'r rhwystr mwyaf oedd y gost ariannol. Deallwyd yn fuan iawn y byddai angen o leiaf £34,000 i wneud y gwaith o lefelu'r cae cost a gynyddodd i £39,000 cyn cwblhau'r gamp. Fe aed ati i wneud cais i Sportlot am gymorthdal ac ar ôl tair blynedd o fargeinio caled fe gaed grant o 50%.Cafwyd grant o £4000 hefyd gan Bwyllgor Gwelliannau Aberdyfi ond, serch hynny, bu'n rhaid i'r Clwb Pêl-droed ddod o hyd i £18,000.


Y cae newydd
Y cae newydd
Fe benderfynon ni nad oedd gynnon ni ddim i'w golli, eglurodd Cadeirydd y Clwb, Bill Bracewell, ac, felly, dyma fynd ati o ddifri i godi'r arian. Fe drefnwyd loteri wythnosol gan y Clwb, fe ffeindiwyd noddwyr, fe drefnwyd dawnsfeydd, fe gyhoeddwyd calendar wedi ei gynllunio gan blant yr ysgol ac o dipyn i beth fe gyrhaeddon ni ein nôd.

Câi pobol Aberdyfi wybod am bob datblygiad drwy gyfrwng taflen wybodaeth fisol ac o'r herwydd teimlai pawb eu bod yn rhan o'r ymgyrch. Bu'r ymwelwyr a phobl efo tai haf yn y pentref yn gefnogol iawn hefyd. Doedd ryfedd, felly, i'r Clwb lwyddo yn ei ymgyrch i godi'r arian ac erbyn Hydref 2002 roedd y gwaith wedi ei orffen. Coeliwch neu beidio, ond fe gariwyd dros ddwy fil o dunelli o bridd i'r cae. Problem arall efo'r hen gae, wrth gwrs, oedd y byddai dan ddwr yn aml ar ôl glaw trwm. Bellach, mae'r broblem honno wedi ei setlo gyda pheipen newydd wedi ei gosod i gario'r dwr ymaith.

Mae ein dyled yn fawr i bobl y pentref ac ymwelwyr fel ei gilydd am eu cefnogaeth, meddai Bill. Er enghraifft, bu'r Clwb Golff yn help mawr i ni. Mi wn mai peth perig ydy enwi un person mewn ymgyrch o'r fath ond fe hoffwn ddiolch yn arbennig i un dyn sef Bryn Lloyd, ein Trysorydd gweithgar. Fe weithiodd Bryn yn ddiwyd iawn i'n helpu ni i godi'r arian angenrheidiol ac i sicrhau y grant.

Dydy'r cae ddim wedi ei ddefnyddio eto achos, yn naturiol, roedd angen amser i setlo arno. Mae'r disgwyl bron ar ben, fodd bynnag, gan fod diwrnod o ddathlu wedi ei drefnu ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf. Fe agorir y cae newydd yn swyddogol gan Jack Dai Davies (capten tîm Aberdyfi pan enillodd Gwpan Amatur Cymru nôl yn 1937) a Paul Bracewell sy'n hyfforddwr gyda thîm cenedlaethol Lloegr.

Yn dilyn, ceir cystadleuaeth rhwng pedwar tîm ynghyd â chystadleuaeth arbennig i dimau Cynghrair y Maboed Mân yn y cylch. Bydd yna sawl gweithgaredd arall hefyd gan gynnwys castell sboncio i'r plant ac ymweliad gan yr arth o gwmni Halo. Yn wir, mae Cwmni Halo, ynghyd ag A.F. Blakemore (Spar) a Banks Brewery yn noddi'r holl weithgareddau.

Pwysleisiodd Bill Bracewell hefyd y bydd y cae ar gael i fudiadau eraill yn y pentref i gynnal gweithgareddau yn ogystal ag i'r Clwb Pêl-droed.

Felly, bobol, dewch yn llu ar y pumed i fwynhau'r hwyl a'r sbri. A phwy wyr efallai y byddwn yn dathlu ennill cwpan cenedlaethol arall gan dîm o'r cylch cyn hir.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy