Diwrnod yr arwerthiant oedd 15 Mai yn Nolgellau, a bu llawer iawn o waith paratoi gan y teulu a ffrindiau i gael popeth yn barod at yr arwerthiant.
Daeth llawer iawn o ffrindiau o bell ac agos i helpu. Bu Goronwy Williams, Pennant yn gweithio am ddyddiau i roi cymorth i William Jones. Daeth Dr. Glyn o Aberystwyth, Sam Evans, Pennal a chriw mawr o'r Sowth i bolsio, glanhau brasus, peintio ayyb.
"Cawsom ddiwrnod bendigedig", meddai Mr Jones, "gyda'r hen gyfeillion wedi cofio amdanai ac wedi dod i rhoi pob math o gymorth imi. Cawsom ddiwrnod prysur ond hwyliog dros ben. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt o waelod calon am eu cyfeillgarwch a'u cymorth parod. "
I goroni'r cwbl daeth y criw teledu i ffilmio i'r rhaglen Ffermio, ac erbyn hyn rydym wedi cael cyfle i fwynhau'r rhaglen ar S4C. Erbyn diwedd y crynhoi a hel roedd 130 o lotiau o bob math o gelfi yn ymwneud â cheffylau.
"Gwerthwyd popeth, a chawsom ddiwrnod llwyddiannus iawn" meddai William Jones "gydag un cert yn mynd yn ôl i'w berchennog cyntaf sef teulu'r trefnwr angladdau, Prichard o Dremadog. "
Ei ddiddordeb mwyaf a'i gariad cyntaf adref ar y fferm oedd y ceffylau, ac ni allai aros i ymadael â'r ysgol yn Abergynolwyn i ddod adref i amaethu.
Ar ôl i'r sioeau amaethyddol ail ddechrau ar ôl yr ail ryfel byd penderfynodd William Jones arddangos ceffylau gwedd Caerberllan. Daeth ei lwyddiant cyntaf mewn sioe fyddin yn Nhywyn gyda cheffyl yr oedd o a'i frawd Richard wedi prynu yn Dre Newydd, a'i trycio fo adref ar y trên. Aeth ymlaen wedyn i brynu ebol, chwe mis oed o Hen Siop Llanegryn.
Roedd tad William Jones, sef y diweddar Robert Jones mewn byd mawr gyda'u
gwartheg duon Cymreig yng Nghaerberllan. Mynnodd i William Jones ganolbwyntio
ar fridio'r gwartheg duon. Sioe o wartheg duon oedd hi wedyn ac fel y gŵyr pawb cawsant lwyddiant yn y maes hynny hefyd. Ond er gwaethaf y llwyddiant gyda'r
gwartheg duon Cymreig yn aml iawn hiraethai am y ceffyl gwedd, ac awydd cael
un eto.
Un diwrnod poeth yn 1969 roedd ef a lori yn troi tir efo tractor, ac roedd yn meddwl yn ôl am yr amser roedd o'n dilyn y wedd, penderfynodd ei fod am gael caseg wedd unwaith eto.
Aeth gyda Mr John Jones o Sir Fôn o amgylch y bridiwrs gorau gan obeithio prynu. Roedd pawb yn gofyn prisiau mawr, ond yn y diwedd llwyddodd i brynu poles flwydd yn Congelton, Sir Gâr, sef HILLMOR GEM. Doedd hi ddim yn edrych ar ei gorau, felly treuliai William Jones bob munud sbâr dros y gaeaf yn ei bwydo a'i pharatoi'n barod i sioeau.
Daeth diwrnod y Sioe gyntaf, a honno yng Nghaernarfon. Cafodd Gem ei thynnu i
fewn yn 5ed allan o 13, ond ar ôl iddi gael rhedeg a dangos ei hun cafodd ei thynnu'n ôl fewn i'r 3ydd safle. "Roeddwn yn hapus dros ben" meddai William Jones.
Ymlaen wedyn i sioe Gaerfyrddin, dod yn 2il. Yr unig beth oedd yn erbyn Hillmor
Gem fel y dywedodd y diweddar Mr Evans, Henblas oedd ei maint. Erbyn iddi ddod yn boles dair roedd wedi datblygu llawer ac roedd yn ennill yn rheolaidd a chafodd y pencampwriaeth yn Sioe Sir, Caerfyrddin ac ennill cwpan enfawr a £50.
Ar ddiwedd ei yrfa sioe roedd wedi ennill ymhell dros gant o bencampwriaethau.
Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn arddangos a bridio ceffylau gwedd. Erbyn
roedd Gem ddigon hen i fagu aeth â hi at stalwyn o'r enw GRANGEWOOO WILLlAM oedd yn berchen i Mr Gwilym Owen, Tre-Moelgoch, Ynys Môn, cyfaill mawr i
William Jones, a chael cyw fenyw a'i galw yn Caerberllan Heather.
Aeth Gem a Heather fel caseg a chyw i bob sioe drwy'r haf. Roeddynt yn ennill bron ym mhobman, a chael aml i bencampwriaeth. Roedd Heather y cyw yn ennill yn nosbarth y cywion bob tro.
Datblygodd Caerberllan Heather i fod yn gaseg dda iawn a chafodd 117 o bencampwriaethau yn ei gyrfa sioeo. Hefyd magodd dwy boles neilltuol, sef Caerberllan Lady Diana a Chaerberllan Gold Gift.
Ganwyd Lady Diana yn y flwyddyn y priododd y Tywysog Siarl a Diana. Roedd Mrs Maud Jones am ei galw yr un enw a Diana gan ei bod mor brydferth. Hillmor Enterprise oedd tad Diana, yn nhyb Mr Jones hwn oedd y stalwyn gorau yn y byd a theimlai mai Heather a'i chyw, Diana oedd y pâr gorau a fu ganddo erioed.
Yn anffodus cafodd Diana anffawd - cafodd gic gan stalwyn, ac roedd lwmp ar ei choes am byth, ond cafodd ei defnyddio i fagu. Roedd Mr Gwilym Owen, Tre Moelgoch, Ynys Môn yn hoff iawn o Diana a cheisiodd ei phrynu oddi wrth Mr Jones lawer tro. "Ond nid oeddwn am ei gwerthu" meddai.
Ail gyw Heather oedd Gold Gift allan o Green Home Premier King, Stalwyn o Lancashire. Mae'n amser pryderus iawn pan mae cywion ceffylau gwedd yn cael eu geni. Mae angen llawer o ofal er mwyn cael genedigaeth lwyddiannus. Cofiai Mr William Jones Gold Gift yn cael ei geni yn iawn. Geraint Hughes, Hafod yr Wyn ac yntau ar ei traed drwy'r nos yn disgwyl y cyw - tynnwyd y cyw yn llwyddiannus yn y bore yn y Groesffoedd ger Caerberllan. Datblygodd Gold Gift i fod y gaseg mwyaf llwyddiannus gan ennill 143 o bencampwriaethau ceffylau gwedd, a 36 o bencampwriaethau ar y cae yn erbyn holl wartheg a cheffylau gorau'r sioe.
Collwyd Gold Gift yn 12 oed. Diwrnod trist iawn. Roedd hiraeth mawr amdani gan ei bod yn geffyl mor neilltuol o garedig, a phawb yn meddwl y byd ohoni. Roedd lori yn drist iawn ac yn gweld chwithdod mawr ar ei hôl gan mae ef oedd yn ei bwydo bob bore.
Mae'r ceffylau sydd yn Nghlos Bach a Chaerberllan heddiw yn ddisgynyddion o'r gaseg gyntaf Hillmore Gema, a'r llynedd enillodd Caerberllan Gift bencampwriaeth ceffylau gwedd gyda Edward, ei nai, yn ei harwain ym mhrif sioe geffylau ym Mhrydain Fawr yn 'The Horse of the Year Show' yn Wembley.
Mae Mr William Jones a'i geffylau gwedd wedi ennill prif sioeau Cymru a LIoegr ac maent yn dal i ennill. Enillodd Caerberllan Lady in White ym mis Mawrth eleni yn Peterborough, sef prif sioe y ceffylau gwedd. Mae hyn yn cadarnhau ei allu fel bridiwr. Mae'n amlwg iawn mai diddordeb a hobi Mr Jones yw ei geffylau.
Mae yna lawer mwy o glod ac anrhydedd ennill efo ceffyl sydd wedi ei fagu ac mae hyn yn rhoi llawer iawn mwy o bleser iddo ac mae o'n glod mawr i'w allu fel bridiwr ceffylau gwedd.
Doedd pellter yn golygu dim i Mr William Jones i gael y stalwyn gorau i siwtio ei gaseg pan oedd eisiau march.
Mae Mr William Tudor Jones yn boblogaidd iawn gyda'i gyd fridwyr a sioewyr a dangoswyd hyn yn glir driwyr ei anrhydeddu yn llywydd anrhydeddus am ei oes gan Gymdeithas ceffylau Gwedd De Cymru.
A'n dymuniad ni fel ardal yw ei longyfarch yn wresog iawn ar ei anrhydedd haeddiannol.