| Cyflwr yr adeilad sy'n gartref i'r cloc sy'n gyfrifol am hyn; mae'r to yn gollwng ac mae'r glaw yn amharu ar beirianwaith y cloc. Bellach, mae'r gwaith wedi dechrau o drwsio'r adeilad gan gynnwys rhoi gwydr newydd ar wyneb y cloc. Codwyd Neuadd y Farchnad (y Market Hall) yn 1898 er mwyn i'r ffermwyr lleol allu gwerthu eu cynnyrch dan do. Edwinodd y defnydd a wnaed ohoni yn ystod yr ugeinfed ganrif a bu'n sefyll yn wag am flynyddoedd.
Yna, adferwyd yr adeilad gan agor amrywiaeth o siopau o'i fewn. Michael Bishton o Roslefain sy'n berchen ar yr adeilad heddiw a fo sy'n gyfrifol am drwsio'r to ac ati ond mae'n gobeithio y bydd Cyngor Tywyn yn cyfrannu at y gost o drwsio'r cloc ei hun. Dail Dysynni
 |