 | Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon er mwyn hybu celf a chrefft yng Nghymru. Dyfernir yr ysgoloriaeth i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf a dylunio cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr. Mae'r ysgoloriaeth yn agored i'r sawl dan 25 oed.
Yn ogystal, cynigir gofod i enillydd yr ysgoloriaeth yn Arddangosfa Celf a Chrefft Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Maldwyn a’r Gororau 2003.
Ysgoloriaeth: £1,500 (Siambrau 30 Plas y Parc, Caerdydd)
Detholwyr:James Campbell, Tim Davies, D Michael Francis, Audrey Walker, Nathalie Weadick
Dyfarnwyd yr ysgoloriaeth i Sara Fletcher
Sylwadau’r detholwyr
Roedd yn anodd dewis un i ennill yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc. Roedd llawer cais teilwng. Tynnwyd rhestr fer o chwech ohonynt i ddchrau, ac wedyn torri i lawr i dri. Sara Fletcher , Rebecca Gould a Russell Maggs oedd y tri artist ifanc yma.
Yr hyn sy’n eich taro am y tri yw eu synnwyr gwreiddioldeb cryf, er eu bod yr un mor ymwybodol o’r drafodaeth gyfoes ynglyn â chelfyddyd weledol. Yn eu ffyrdd arbennig eu hunain, roedd pob artist yn defnyddio iaith weledol i archwilio syniadau am hunaniaeth, yn wyneb boddfa y cyfryngau holl bresennol ac yn wyneb troi bywyd pob dydd yn ddiwylliant o nwyddau traul. Yn erbyn y cefndir hwnnw maent yn archwilio cyflwr yr hunan ym mlynyddoedd cynnar yr unfed ganrif ar hugain.
Fel y gellid disgwyl, dyma’r math o faterion sy’n rhoi ffurf a sylwedd i’r gwaith. Tra bod Russell Maggs yn ceisio canfod trefn a rhyw fath o buredigaeth trwy ganolbwyntio ar yr hyn sy’n weddill o’r hyn a gollwyd neu a roddwyd heibio, mae Rebecca Gould yn derbyn bod amwysedd ac ystyron lluosog yn rhan o fywyd, ac yn creu storïau cymhleth sy’n gorfodi’r gynulleidfa i ganfod ei strwythurau ei hun ac i ddod o hyd i’r farddoniaeth sy’n cael ei hawgrymu gan yr artist.
Mewn rhai ffyrdd, mae gweledigaeth Sara Fletcher yn rhywle rhwng y ddau uchod. Tra’n cydnabod ystyron lluosog ein math ni o gymdeithas lle mae’r drefn yn cael ei rheoli gan y cyfryngau, mae’r artist trwy naratif toredig yn cynnig i’w chynulleidfa hanesion sydd weithiau’n huawdl ac weithiau’n fratiog, weithiau yn gythryblus, ac weithiau yn adleisio Lynch hefyd. Mae’r artist yma, sy’n derbyn yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc, yn adfer i gelfyddyd ei rôl fel cymodwr ymholgar, yn hytrach na dim ond yn gyfrwng goddefol.
Nid yw’n syndod bod cymaint o’r ymdrechion yn cynnwys gwaith mewn cyfrwng newydd; darnau wedi eu seilio ar ffilm neu fideo yn aml. Gan nad yw sleidiau’n gallu cyfleu’r genres yma cystal ag y gall gwaith dau ddimensiwn neu gerflun traddodiadol, mae hyn o reidrwydd yn gwneud y broses o ddewis yn fwy anodd ac yn fwy tebygol o fod yn ddiffygiol. Yn y dyfodol, argymhellir bod darpariaeth yn cael ei gwneud i ddethlwyr gael gweld y math yma o waith ‘yn y cnawd’, boed yng nghategori’r Ysgoloriaeth Artist Ifanc neu yn y brif Arddangosfa Celf a Chrefft.
Beth bynnag, er gwaetha’r mân rwystredigaethau hyn, mae’r Ysgoloriaeth Artist Ifanc wedi amlygu ansawdd a fydd o’r diwedd, os caiff ei gefnogi a’i gydnabod yng Nghymru ei hun, yn dyrchafu celf yng Nghymru i le canolog yn y fforwm beirniadol sydd yn awr yn datblygu yn ein gwlad.
Tim Davies |
 |