"Mae digon o liw yn y byd i ganiatáu i fy ngwaith i aros yn wyn. Nod ar damaid o bapur yw darlun i mi.

"Bum yn ymhelaethu ar y syniad hwn ers blynyddoedd bellach. "Gan ddefnyddio techneg cynhyrchu papur rwy'n cynhyrchu nifer fawr o wrthrychau papur.
"Byddaf yn gwneud y gwrthrychau hyn drwy wneud cast o wrthrychau sy'n arwyddocaol yn fy mywyd i dro ar ôl tro.
"Er enghraifft, mae'r bluen yn dod o gyfnod pryd y gwelais i rywun yn marw.
"Rwy'n ystyried pob gwrthrych fel darlun ar wahân, gan fod pob un â nod negatif unigryw ei hun.
"Rwyf wedi atgynhyrchu'r gwrthrychau papur gwreiddiol mewn plastr, fel y gallaf gynhyrchu man gwag positif, rhan bwysig iawn o ddarlun.
"Rwyf wedi atgynhyrchu'r gwrthrychau papur gwreiddiol mewn plastr. "Mae'r marc negatif yn troi'n bositif yma - mae'r gwag yn troi'n solet."