Cytundeb cyllideb: 'Plaid Cymru o ddifri eu bod am ennill fis Mai'

Mae Plaid Cymru wedi dod i gytundeb gyda Llafur ynghylch cyllideb £27bn Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27
- Cyhoeddwyd
Mae cytundeb diweddaraf Plaid Cymru gyda Llafur ynghylch y gyllideb yn awgrymu bod plaid Rhun ap Iorwerth am osgoi dod i rym ynghanol argyfwng ariannol, yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones.
Tra'n siarad ar rifyn diweddaraf podlediad Gwleidydda fe ddywedodd bod dod i gytundeb ar y gyllideb yn golygu fod Plaid Cymru o ddifri yn credu mai nhw fydd yn ennill etholiad y Senedd fis Mai.
Ychwanegodd y byddai peidio pasio cyllideb cyn Ionawr yn hynod o broblematig i ymgyrch y Blaid Lafur cyn yr etholiad fis Mai.
"Er y bydd y gwrthbleidiau efallai yn ceisio cyhuddo Plaid Cymru o gynnal breichiau Llafur - fe fydden nhw yn dweud hynny beth bynnag," meddai.
Cytundeb cyllideb - 'Plaid Cymru o ddifri eu bod am ennill fis Mai'
Wrth siarad am y Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones fod hon yn gyllideb oedd "ddim yn ceisio gwneud dim byd radical ac yn gadael y drws ar agor er mwyn cyrraedd cytundeb".
Aeth y drafodaeth ymlaen i edrych ar sefyllfa y Blaid Lafur yng Nghymru a'r heriau maen nhw wedi eu hwynebu yn ddiweddar, gan gynnwys llythyr gan nifer o Aelodau Llafur y Senedd ym Mae Caerdydd at y Prif Weinidog Syr Keir Starmer, yn cyhuddo ei lywodraeth o beidio parchu datganoli.
Dwedodd yr Athro Richard Wyn Jones ei fod e methu meddwl am sefyllfa "gyffelyb" i'r Blaid Lafur yng Nghymru mewn misoedd yn arwain at etholiad y Senedd.
Ychwanegodd bod yna densiynau "sylweddol nid personol" a bod yna wahaniaethau "yn agweddau gyfansoddiadol sylfaenol" y Blaid Lafur yng Nghymru a San Steffan wrth i Lafur Cymru geisio ennill a ffurfio'r llywodraeth nesaf.
Plaid Cymru yn dod i gytundeb ar gyllideb Llywodraeth Cymru gyda Llafur
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2025
ASau Llafur Cymru'n cyhuddo Llywodraeth Lafur y DU o 'warth cyfansoddiadol'
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2025
Mae'r gyllideb gwerth £27bn ac mae disgwyl y bydd cynlluniau gwariant y llywodraeth yn pasio yn y Senedd ym mis Ionawr.
Wrth ymateb, fe ddywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, bod y cytundeb "yn dangos cryfder pleidiau'r Senedd yn gweithio gyda'i gilydd ar flaenoriaethau a rennir i gyflawni dros Gymru".
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru: "Drwy sicrhau £300m o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen, mae'n osgoi'r posibilrwydd o ymyl clogwyn i wariant cyhoeddus yng Nghymru ac, ym mis Mai 2026, yn rhoi'r llywodraeth nesaf ar sail gadarnach nag y byddai fel arall."
Os byddai'r llywodraeth wedi methu cael cefnogaeth plaid arall, mi fyddai'r gyllideb wedi cael ei phasio'n awtomatig ar 75% o wariant eleni a fyddai'n arwain at doriadau mawr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol , X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.