Chwe Gwlad: Rees-Zammit i ddechrau fel cefnwr yn erbyn Lloegr

Louis Rees-ZammitFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louis Rees-Zammit wedi ennill 35 cap i Gymru, ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn 19 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae prif hyfforddwr Cymru wedi enwi Louis Rees-Zammit fel cefnwr yn ei dîm i wynebu Lloegr yn eu gêm agoriadol yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Bydd y gêm yn dechrau am 16:40 yn Twickenham, gyda'r Ffrancwr, Pierre Brousset, i chwythu'r chwiban.

Mae Steve Tandy yn paratoi ar gyfer ei bencampwriaeth gyntaf wrth y llyw a dydy Cymru ddim wedi ennill unrhyw gêm Chwe Gwlad ers bron i dair blynedd.

I'r gwrthwyneb, mae Lloegr yn dod i'r ornest gyda record dda yn ddiweddar, wedi iddynt ennill pob un o'u 11 gemau rhyngwladol diwethaf.

Dewi Lake a Steve TandyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dewi Lake - sydd â 26 chap dros ei wlad - ydy'r capten y gwnaeth Steve Tandy ei ddewis i Gymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Mae'r ddau o'r Scarlets, Josh Macleod ac Eddie James, yn dychwelyd ar ôl colli ymgyrch yr hydref yn sgil anafiadau.

Bydd y blaenasgellwr Macleod, 29, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y bencampwriaeth, gan lenwi'r twll sydd wedi'i adael gan Jac Morgan, sydd wedi'i anafu.

Mi fydd Macleod yn cychwyn wrth ymyl Alex Mann ac Aaron Wainwright yn y rheng ôl.

Bydd y canolwr, James, yn dechrau gyda Ben Thomas, tra bod yr asgellwr, Ellis Mee, wedi'i enwi ymysg y tri yn y cefn gyda Rees-Zammit a Josh Adams.

Dewi Lake, y bachwr, fydd yn arwain Cymru eto yn absenoldeb Morgan ac yn chwarae ochr yn ochr â'r propiau Nicky Smith ac Archie Griffin.

Enwodd Lloegr, o dan ofal Steve Borthwick, y tîm ddydd Llun a bydd chwaraewyr Cymru yn croesawu'r newyddion y bydd Maro Itoje, y blaenwr, yn cychwyn ar y fainc yn hytrach na'r cae.

Dewi Lake - Cymru, Sione Tuipulotu - yr Alban, Jamie George - Lloegr, Antoine Dupont - Ffrainc, Caelan Doris - Iwerddon, Michele Lamaro - yr EidalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol yn 1883 dim ond Cymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr oedd yn rhan o'r bencampwriaeth, ond ymunodd Ffrainc yn 1910 a'r Eidal yn 2000

Tîm Cymru:

Rees-Zammit; Mee, James, B Thomas, Josh Adams; Edwards, T Williams; Smith, Lake (capten), Griffin, D Jenkins, Beard, Mann, Macleod, Wainwright.

Eilyddion: Belcher, Carre, T Francis, Carter, Plumtree, Deaves, Hardy, Grady.

Cymru yn erbyn Lloegr 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

68-14 i Loegr oedd y sgôr yng Nghaerdydd rhwng y ddau dîm fis Mawrth y llynedd

Tîm Lloegr:

Freddie Steward; Immanuel Feyi-Waboso, Tommy Freeman, Fraser Dingwall, Henry Arundell; George Ford, Alex Mitchell; Ellis Genge, Jamie George (capten), Joe Heyes, Alex Coles, Ollie Chessum, Guy Pepper, Sam Underhill, Ben Earl.

Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Bevan Rodd, Trevor Davison, Maro Itoje, Tom Curry, Henry Pollock, Ben Spencer, Marcus Smith.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.