Ymestyn cytundeb i noddi enw Stadiwm Principality

Stadiwm y PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymestyn y cytundeb i noddi enw Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn osgoi proses gostus o'i hail-enwi

GanHuw Thomas
Gohebydd busnes BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cytundeb i noddi enw Stadiwm Principality yng Nghaerdydd wedi'i ymestyn gan y gymdeithas adeiladu.

Ar ôl cael ei hadnabod fel Stadiwm y Mileniwm ers ei hagor yn 1999, cafodd ei hail-enwi yn Stadiwm Principality mewn cytundeb 10 mlynedd gydag Undeb Rygbi Cymru a ddechreuodd ym mis Ionawr 2016.

Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi cytuno i ymestyn ei nawdd hyd at 2030.

Mewn datganiad, dywedodd y gymdeithas adeiladu eu bod "yn falch o'n treftadaeth Gymreig, ond yn cydnabod ein rôl genedlaethol hefyd fel chweched gymdeithas adeiladu fwyaf y DU".

Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru (URC), Abi Tierney, yn dweud bydd y buddsoddiad newydd "yn darparu cefnogaeth hanfodol i'r gêm gymunedol ar draws y wlad".

Stadiwm y MileniwmFfynhonnell y llun, AFP via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y stadiwm yn cael ei hadnabod fel Stadiwm y Mileniwm rhwng 1999 a 2016

Yn ogystal â chynnal gemau'r Chwe Gwlad bob blwyddyn, mae'r stadiwm hefyd yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau chwaraeon eraill ac wedi croesawu cyngherddau gan artistiaid fel Oasis, Taylor Swift a Coldplay.

Daw'r cytundeb enwi newydd mewn cyfnod o aflonyddwch i URC, sy'n berchen ar y stadiwm.

Mae cynllun i greu strwythur newydd ar gyfer y gêm elit yng Nghymru, gafodd ei ysgogi gan berfformiad gwael ac ansicrwydd ariannol, wedi arwain at brotestiadau cyhoeddus ynghylch y posibilrwydd o leihau nifer y timau rhanbarthol o bedwar i dri.

Mae estyniad tair blynedd y gymdeithas adeiladu i'w hawliau enwi yn gytundeb tymor byr o gymharu â safonau rhyngwladol ar gyfer cytundebau enwi stadiwm.

Ond mae'n osgoi'r angen am ymgyrch ail-enwi costus a'r gwaith o chwilio am bartner masnachol newydd i URC.

Torf o flaen y Stadiwm y PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Cymdeithas Adeiladu'r Principality bod cael eu "henw uwchben un o leoliadau adloniant a chwaraeon mwyaf eiconig y byd yn ddatganiad o fwriad y Principality i'r miliwn o ymwelwyr sy'n dod i Gaerdydd bob blwyddyn".

Maen nhw'n credu hefyd y byddai'n "ychwanegu gwerth" at eu "brand ac economi Cymru".

Dywedodd Abi Tierney: "Bydd y buddsoddiad newydd yma mewn rygbi Cymru yn darparu cefnogaeth hanfodol i'r gêm gymunedol ar draws y wlad ac yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar welliannau i'n gêm broffesiynol."

Ychwanegodd bod yr undeb "yn edrych ymlaen at barhau ein partneriaeth" gyda'r gymdeithas a "chyflawni mwy o bethau gwych gyda'n gilydd".

Tra bod Stadiwm Principality wedi cynnal dwsinau o gemau'r Chwe Gwlad a gemau rygbi rhanbarthol dros y 10 mlynedd diwethaf, ers y pandemig mae Caerdydd wedi gweld cynnydd mewn cyngherddau mawr.

Mae Taylor Swift, Harry Styles a Billy Joel i gyd wedi perfformio o flaen torfeydd enfawr yn y brifddinas, gyda Take That a Metallica eisoes wedi'u cadarnhau i ymddangos yn ddiweddarach yn 2026.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol