Teyrnged teulu i 'fab, cariad a brawd poblogaidd'

Bu farw Mathew Hardy, 34, o Bwllheli wedi gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Porthmadog nos Sadwrn.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mathew Hardy, 34, o Bwllheli wedi gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Porthmadog nos Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu y dyn 34 oed a gafodd ei ladd wedi gwrthdrawiad ger Porthmadog nos Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Mathew Hardy o Bwllheli yn y fan a'r lle.

Wrth roi teyrnged iddo fe ddywedodd ei deulu: "Fel teulu mae ein bywydau ni wedi cael eu chwalu gan y drychineb o golli Mathew mor frawychus o sydyn.

"Does dim geiriau all ddisgrifio'r boen a'r galar 'da ni'n ei deimlo.

"Roedd yn fab, cariad, brawd a ffrind mor boblogaidd i nifer, a bydd yn gadael bwlch ofnadwy o dywyll ar ei ôl.

"Roedd Mathew yn hynod o annwyl a hoffus, ac yng nghanol cyfnod mor gyffrous yn ei fywyd - yn symud i dŷ newydd a merch fach ar y ffordd.

"Hoffem ddiolch i bawb am eu caredigrwydd a geiriau o gysur ar amser mor heriol a thrist.

"Gofynnwn yn garedig am amser a phreifatrwydd i ddygymod hefo'r galar."

Roedd Mathew Hardy yn un o ddau ddyn a fu farw wedi'r gwrthdrawiad ar yr A487 ar ffordd osgoi Porthmadog.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd am 21:30.

Roedd Mr Hardy yn gyrru lori casglu cerbydau a Daniel Atkinson, 40 o Flaenau Ffestiniog yn gyrru VW Golf.

Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am dystion a gwybodaeth er mwyn eu helpu gyda'r ymchwiliad.

Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth neu sydd â lluniau camera cerbyd yn dangos yr hyn a ddigwyddodd cyn y gwrthdrawiad rhwng car VW Golf a cherbyd casglu Isuzu.

Pynciau cysylltiedig