Dau ddyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Porthmadog

Ffordd osgoi
  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Porthmadog, Gwynedd nos Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi eu galw i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd am 21:30 ar 20 Rhagfyr.

Bu farw gyrrwr lori casglu cerbydau, Mathew Hardy, 34 o Bwllheli, a gyrrwr VW Golf, Daniel Atkinson, 40 o Flaenau Ffestiniog, ar safle'r digwyddiad.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth am y digwyddiad ar yr A487, ffordd osgoi Porthmadog.

Roedd y ffordd ar gau am bron i ddeuddydd wedi'r digwyddiad, cyn iddi ailagor brynhawn Llun.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Katie Davies o Heddlu Gogledd Cymru bod eu meddyliau gyda theulu'r ddau, sy'n cael cefnogaeth arbenigol.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod wedi cyfeirio'r achos at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Dywedodd yr IOPC y byddan nhw'n cynnal asesiad "er mwyn penderfynu pa weithredoedd pellach y gallai fod eu hangen gennym ni".

Nid yw'r rheswm dros gyfeirio'r mater at yr IOPC wedi'i ddatgelu.

Mewn teyrnged i Mr Hardy ar Facebook, dywedodd Gwalia Garage eu bod yn "drist iawn" o glywed am ei farwolaeth.

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimladau diffuant gyda phawb yn Hardys Garage, a gyda theulu a ffrindiau Mathew, yn ystod yr amser hynod anodd hwn," meddai.

"Gwyddoch eich bod yn ein meddyliau — o un teulu i'r llall."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig