Heddlu'n ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar ffordd osgoi Porthmadog

Fe fydd yr A487 rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth yn parhau ar gau tan ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar ffordd osgoi Porthmadog nos Sadwrn.
Mae'r gwasanaethau brys yn credu i'r gwrthdrawiad ar yr A487 ddigwydd rhwng 21:00 a 21:40.
Mewn datganiad brynhawn Sul dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn "cydymdeimlo'n arw gyda'r teuluoedd" sydd wedi eu heffeithio.
"Rydym yn gofyn i bobl barchu preifatrwydd y teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd yma," meddai'r llu, gan ychwanegu nad ydyn nhw'n bwriadu cyhoeddi rhagor o fanylion am y gwrthdrawiad ar hyn o bryd.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un oedd yn teithio ar yr A487 rhwng 21:00 a 21:40 ar 20 Rhagfyr ac oedd yn dyst i'r digwyddiad, neu sydd â lluniau dashcam all fod o ddefnydd i gysylltu â nhw.
Cafodd y ffordd ei chau wedi'r digwyddiad ac mae'r heddlu wedi cadarnhau y bydd yn aros ar gau tan ddydd Llun tra bod ymchwiliadau yn parhau.
Mae teithwyr yn cael eu cynghori i osgoi'r ardal os yn bosib ac i ddilyn arwyddion dargyfeirio traffig.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.