Twrci, cig eidion, cyri? Ydy arferion y cinio Nadolig yn newid?

A fydd mwy o bobl yn dewis disodli'r twrci rhost traddodiadol gyda phlatiad o gyri fel eu prif gwrs Nadolig yn y dyfodol?
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib iawn y byddwn ni'n gweld rhai o arferion "cyfarwydd" y cinio Nadolig traddodiadol yn cael eu disodli yn y blynyddoedd i ddod, yn ôl un hanesydd bwyd.
Er bod dros hanner y boblogaeth yn parhau i fwyta twrci fel prif gwrs ar Ddydd Nadolig, mae opsiynau amgen yn dod yn fwy poblogaidd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.
Yn ôl un bwyty Indiaidd yng Nghaerdydd sydd bellach yn agor ar gyfer cinio Nadolig, mae eu llyfr archebion yn llawn wrth i fwy o bobl ddewis cyri dros gig rhost.
Dywedodd Tim Hartley, un o'r cwsmeriaid fydd yno ar ddydd Nadolig, bod "teimlad o gymuned i gael" wrth i ffrindiau a chymdogion ddod at ei gilydd, yn hytrach na bwyta adref.
Traddodiad yr ŵydd
Yn ôl arolwg Nadolig blynyddol YouGov, twrci yw'r cig Nadolig mwyaf poblogaidd o bellffordd, gyda 57% o bobl yn ei fwyta.
Mae cyw iâr a chig eidion hefyd ar blât un ym mhob pedwar, tra bod 13% o bobl yn dewis opsiwn llysieuol neu figan.
Mae'r arferion hynny wedi newid dros y blynyddoedd, meddai'r hanesydd bwyd Carwyn Graves.
Dim ond 3%, er enghraifft, sydd bellach yn bwyta gŵydd ar Ddydd Nadolig, ond roedd hynny'n arfer bod yn llawer mwy cyffredin.

Mae'n bosib y gwelwn ni hen draddodiadau Nadoligaidd Cymreig yn cael eu hadfywio yn y dyfodol, meddai Carwyn Graves
"Am amser hir iawn fe wnaethon ni gadw gafael ar y traddodiad yna yn hirach yng Nghymru na llawer o fannau eraill," meddai.
"Ond wrth gwrs, maes o law, daeth y twrci i gymryd ei le."
Mae 7% o bobl yn dweud nad ydyn nhw'n bwyta unrhyw fath o bryd rhost fel cinio Nadolig.
Fe wnaeth arolwg diweddar gan archfarchnad Tesco awgrymu bod y ganran hyd yn oed yn uwch ymhlith y genhedlaeth iau, gyda 17% o'r rheiny rhwng 25-34 oed yn dewis bwydydd fel cyri, pasta neu bitsa.
'Parti heb orfod golchi lan!'
Mae bwyty'r Bay Leaf yn Llandaf wedi bod yn agor ar ddydd Nadolig ers 2021.
Ond ar ôl arbrofi yn y gorffennol gyda bwydlen hybrid, mae'r fwydlen bellach yn un Indiaidd arferol, a'r cwsmeriaid yn ffafrio hynny.
"Os ydy pobl yn gorfod coginio adref mae 'na lawer o waith paratoi a glanhau - mae'n gallu bod yn anodd," meddai Abu Taher Khan, perchennog y bwyty.
"Felly mae'n well ganddyn nhw ddod allan a mwynhau eu hoff brydau Indiaidd.
"Mae'r awyrgylch ar y diwrnod yn wych. 'Naethon ni ddechrau gyda chriw eitha' bach, ond eleni 'dyn ni bron yn llawn."

Mae Abu Taher Khan yn dweud bod nifer o'i gwsmeriaid ar Ddydd Nadolig yn dod yn syth o'r gwasanaeth eglwys yng Nghadeirlan Llandaf i'w cinio Indiaidd - gan gyfuno arferion traddodiadol ac amgen
Mae un o'i gwsmeriaid ffyddlon, Tim Hartley, yn dweud bod nifer yn edrych ymlaen at yr achlysur cymunedol, yn enwedig y rheiny sydd heb deulu mawr yn dod draw ar gyfer y Nadolig.
"Dwi'n eitha' mwynhau cinio twrci, peidiwch fy nghamddeall i," meddai.
"Ond rydw i a fy ngwraig yn caru bwyd Indiaidd, felly mae'n no-brainer i fwynhau ein hoff fwyd ni ar ddiwrnod pwysica'r flwyddyn.
"Mae rhai o'n cymdogion ni hefyd yn dod yma, felly mewn ffordd chi'n cael parti cinio Nadolig am ddim, ac wrth gwrs, does dim golchi lan 'da chi i wneud wedyn!"

Tim Hartley yn mwynhau bwyd Indiaidd ar ddydd Nadolig y llynedd - mae'n dweud mai cyri gafr fydd ar y fwydlen iddo eto eleni
Mae'r cogydd Nerys Howells yn cytuno bod llai yn bwyta cinio traddodiadol nag oedd yn arfer gwneud, yn rhannol i geisio lleihau ar y "pwysau" maen nhw'n ei deimlo dros yr ŵyl.
"Fi'n 'nabod un teulu fydd yn rhoi casserole i mewn ar noswyl Nadolig, fel bod e'n barod erbyn y diwrnod wedyn a bod nhw'n gallu ymlacio," meddai.
"Ond hefyd mae gyda ni bob math o ddylanwadau rhyngwladol dyddiau yma, ac mae 'na trend cynyddol yn enwedig ymhlith pobl ifanc i fynd am wledd o gyri neu fwyd Indiaidd.
"Mae bwydydd fel 'na hefyd yn eitha' amrywiol o ran opsiynau gwahanol os oes gyda chi anghenion dietegol, fel figan neu lysieuol, felly mae'n ddewis cynhwysol i grwpiau mawr.
"Mae'n ffordd reit gymdeithasol o fwyta hefyd gan bod chi'n rhannu nifer o brydau."

Mae'r cogydd Nerys Howells yn cytuno bod llai yn bwyta cinio traddodiadol nag oedd yn arfer gwneud
Yn ôl Carwyn Graves, gall ffactorau eraill chwarae rhan hefyd wrth newid arferion pobl, gan gynnwys costau byw a phrisiau adar fel tyrcwn.
"Mae hynny, wedi ei gyplysu gyda'r ffaith bod ni i gyd yn ein cymdeithas wedi arfer gyda bwydydd amrywiol, wedi arwain at bwynt lle mae pobl yn dweud 'mae hyn yn gostus, falle dyw e ddim fy ffefryn i ta beth'," meddai.
"Pam na ddylen i, ar ddiwrnod o ddathlu, jyst bwyta rhywbeth fi'n gyfarwydd ag e, dwi'n mwynhau?
"A dal cadw rhai o'r traddodiadau eraill, boed hynny'n fins peis, cracyrs neu addurniadau."

Tua 7% o bobl ym Mhrydain fydd ddim yn bwyta unrhyw fath o ginio Nadolig traddodiadol eleni - gyda chyri ymhlith y dewisiadau amgen mwyaf poblogaidd
Er hynny, mae'n credu y bydd y twrci'n parhau'n ffefryn ar y bwrdd Nadolig am beth amser eto.
"Dwi'n meddwl fydden ni'n ffyliaid i ragweld newid sylweddol yn y degawdau sydd i ddod," meddai.
"Ond ar yr un pryd mae'n amlwg bod 'na rai pethau, megis sbrowts, lle mae eu poblogrwydd nhw'n mynd lawr yn gyflym iawn ar hyn o bryd – daethon nhw i mewn yn gyflym iawn hefyd yn Oes Fictoria.
"Felly dwi'n siŵr y byddwn ni'n gweld rhai pethau sydd ar hyn o bryd yn teimlo'n gyfarwydd, yn mynd yn anghyfarwydd, tra bod pethau eraill yn siŵr o aros fwy neu lai yr un peth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2025
