Dros draean am wario llai ar y Nadolig eleni, yn ôl gwaith ymchwil

Cafodd digwyddiad ei gynnal yn y Drenewydd er mwyn "rhoi cyfle i bobl gael dillad neu anrhegion yn rhad neu am ddim"
- Cyhoeddwyd
Mae'r Nadolig yn gallu bod yn gyfnod drud ar y gorau, ond mewn amser pan mae costau byw eisoes yn uchel mae'n gallu rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau.
Roedd ymchwil diweddar gan Sefydliad Bevan yn awgrymu fod dros draean o oedolion yng Nghymru yn disgwyl gwario llai ar y Nadolig eleni o gymharu â blynyddoedd cynt, ac mae'r ganran yn uwch ar gyfer pobl sy'n derbyn credyd cynhwysol.
Mae rhai mudiadau ar draws Cymru yn ceisio helpu pobl sy'n ceisio lleihau costau dros yr Ŵyl.
Bu un o'r sefydliadau hynny yn cynnal digwyddiad ym Mhowys yn ddiweddar, ble roedd modd cyfnewid nwyddau, codi a gwneud anrhegion am ddim.

Roedd Hannah Tyler yn rhan o'r criw a drefnodd y digwyddiad yn Y Drenewydd
Lleoliad y digwyddiad oedd Hafan yr Afon, canolfan gymunedol wrth ymyl afon Hafren yn Y Drenewydd sy'n cynnal gweithgareddau i gefnogi'r gymuned leol.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan fudiad 'Agor y Drenewydd' – menter gymunedol sy'n cynnal prosiectau yn y dref.
Roedden nhw wedi derbyn rhoddion o lyfrau, dillad a theganau ail law ac yn ystod y digwyddiad roedd croeso i bobl naill ai gyfnewid nwyddau neu fynd a rhai o'r rhoddion.
Yn ôl Hannah Tyler, un o'r trefnwyr, syniad y digwyddiad oedd "rhoi cyfle i bobl gael dillad neu anrhegion yn rhad neu am ddim".

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yng nghanolfan Hafan yr Afon
"Ry'n ni'n targedu teuluoedd, pobl efo plant sydd hefo costau byw uchel," esboniodd Hannah.
"Ma'n really neis gallu rhoi cyfle i bobl gael pethau am ddim, efallai byddai rhai ddim yn gallu fforddio prynu pethau.
"Mae llawer wedi dweud eu bod am fynd â phethau ac mae'r elfen amgylcheddol o ailddefnyddio pethau yn bonus hefyd."
Roedd y digwyddiad yn rhan o brosiect sydd yn cael ei ariannu gan y loteri genedlaethol i helpu pobl wneud arbedion ar gostau ynni a lleihau gwastraff.

"Ni'n ceisio helpu pawb," medd Stuart Owen
Ar y diwrnod, roedd prif weithredwr Agor y Drenewydd, Stuart Owen, ar gael i roi cyngor i bobl ynglŷn â sut i arbed arian ar eu biliau ynni.
Dywedodd fod pawb yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd.
"Ry'n ni'n ceisio targedu perchnogion tai ar hefyd, oherwydd ry'n ni'n edrych ar bawb sydd angen cymorth," meddai.
"Os ydyn nhw'n byw mewn llety cymdeithasol, tŷ cyngor, eiddo preifat, ni'n ceisio helpu pawb."

Aeth Mollie Corfield a'i mab, Jac, i'r digwyddiad
Roedd y sesiwn, oedd yn cynnwys gweithdai am ddim i wneud torchau Nadolig ac addurniadau, yn brysur.
Aeth Mollie Corfield yno gyda'i mab chwe mis oed Jac: "Mae'n neis gallu dod â'r plant fan hyn".
"Does dim pwysau i dalu a gallu jyst aros am gyfnod a chael cacen a 'catch up'. Mae'r plant yn mwynhau hefyd.
"Dwi ffwrdd (o'r gwaith) ar hyn o bryd ar gyfnod mamolaeth ond fel arfer yn dysgu pedwar diwrnod, ac mae fy mhartner i'n ffermio.
"Mae costau gofal plant yn aruthrol – dwi ddim yn cymryd lot allan o'r tâl ar ôl costau'r plant, bwyd a biliau a dwi'n hoffi meddwl bod gen i job da hefyd."

Dywedodd Dr Steffan Evans fod arolwg barn newydd yn awgrymu y bydd pobl yn gwario llai y Nadolig yma yn sgil pryderon ariannol
Mae ymchwil diweddar gan Sefydliad Bevan yn awgrymu bod 38% o oedolion yn disgwyl gwario llai ar y Nadolig eleni, ac i bobl sy'n derbyn credyd cynhwysol mae'r ganran yn uwch ar 63%.
Dywedodd Dr Steffan Evans, prif weithredwr Sefydliad Bevan: "Mae pobl am sicrhau fod eu plant a'u teuluoedd yn cael yr amser gorau posib ond pan mae'r esgid yn gwasgu beth bynnag, mae' hwnna'n gallu rhoi'r pwysau ychwanegol ar bobl.
"Mae'n gallu arwain at bobl yn mynd i ddyled neu'n methu allan ar rai pethau ni gyd yn cymryd yn ganiataol amser hyn o'r flwyddyn.
"Ni falle'n euog o feddwl bod yr argyfwng costau byw tu ôl i ni, ond mae hyn yn dangos bod trwch mawr o bobl yn dal i deimlo'r pwysau yna."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.