Bachgen 15 oed yn gwadu ceisio llofruddio mewn ysgol yn Sir Benfro

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 15 oed wedi gwadu ceisio llofruddio, ar ôl i athrawes gael ei thrywanu mewn ysgol yn Sir Benfro.
Cafodd Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ei rhoi o dan fesurau clo am tua 15:20 ar 5 Chwefror.
Cafodd yr athrawes, Vicky Williams, ei rhyddhau o'r ysbyty y noson honno.
Fe ymddangosodd y bachgen, na allwn ni gyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.
Mae hefyd yn gwadu anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon, ond fe wnaeth bledio'n euog i gyhuddiad o fod â chyllell ar dir ysgol.
Mewn gwrandawiad blaenorol, dywedodd yr erlyniad wrth y llys fod y bachgen wedi ymosod ar Vicky Williams gyda chyllell gegin.
Cafodd ei gadw mewn llety ieuenctid ac mae disgwyl i'r achos llawn yn ei erbyn ddechrau ar 6 Gorffennaf.