Cardiau Nadolig - traddodiad pwysig neu wastraff arian?

Cardiau NadoligFfynhonnell y llun, Cant a mil
  • Cyhoeddwyd

Oes llai o gardiau Nadolig yn cael eu hanfon y dyddiau hyn?

Mae'n gwestiwn sy'n codi yn aml yr adeg hon o'r flwyddyn wrth i arferion cymdeithas newid.

Yn ogystal â'r newidiadau yn y modd y mae pobl yn cysylltu â'i gilydd, mae'r effaith amgylcheddol yn ffactor i rai tra bod eraill yn gweld pwysigrwydd mewn cadw'r hen arferion yn fyw.

Aeth Cymru Fyw i holi rhai cyfranwyr sydd ar ein rhestr cardiau Nadolig ni er mwyn cael syniad o'r farn am yr hen arfer y dyddiau hyn.

Margaret RobertsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Margaret Roberts wedi stopio anfon cardiau Nadolig ers blynyddoedd gan fod stampiau "lot rhy ddrud"

Un sydd wedi stopio gyrru cardiau Nadolig yn gyfan gwbl er blynyddoedd ydy Margaret Roberts, sy'n dod "o Frynrefail i Bentraeth", ond wedi'i geni ym Môn.

Cost y stampiau sy'n bennaf gyfrifol am hynny, meddai Margaret.

"Er mod i eisiau cefnogi elusen, y postio 'di'r broblem, mae o lot rhy ddrud.

"Mi odda' ni'n arfer rhoi ambell i gerdyn i fodryb neu ddwy oedd ddim ar Facebook a ballu ac mae'r wyrion a wyresau yn licio g'neud nhw, ond ma'r stampia'n costio gormod."

'Syniad neis' ond 'hen ffasiwn'

Eglurodd Margaret ei bod hi'n well ganddi i'w harian fynd tuag at elusen leol.

"Dwi'n rhoi rhodd i Bwyd Da Môn 'leni a dwi 'di rhoi i Ambiwlans Awyr Cymru 'fyd. Ma' 'na ryw bum, chwe blynedd ers i mi stopio anfon cardiau."

Ychwanegodd ei bod yn hoffi'r "syniad neis" o roi cardiau allan i ffrindiau a theulu, ond bod dymuno Nadolig Llawen ar y cyfryngau cymdeithasol yn haws hefyd.

"Falla fod o'n syniad sy' 'di mynd 'chydig yn hen ffasiwn - ti'n gallu ffonio, g'neud Facetime neu be' bynnag erbyn heddiw.

"Dyma betha' doeddan nhw methu g'neud s'talwm. 'Falla bod llai o bobl ifanc yn eu hanfon nhw o bosib? Ma' well gen i roi'r arian at achos da ynde," meddai.

Jo KnellFfynhonnell y llun, Cant a mil
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi wedi paratoi iddyn nhw fynd yn llai poblogaidd dros y blynyddoedd ond dydy hynny just heb ddigwydd i ni," medd Jo Knell

Mae Jo Knell yn byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd ac mae hi'n berchennog ar y busnes annibynnol, Cant a mil - sy'n gwerthu llyfrau Cymraeg yn bennaf.

Ond, maen nhw'n gwerthu cardiau Nadolig yn y siop hefyd a dywedodd Jo fod gwerthiant "wedi bod yn arbennig o dda eleni".

"O beth 'de ni'n weld, ma' llawer o bobl yn anfon nhw. 'De ni'n gwerthu cardiau Cymraeg a di-iaith yn unig, felly ma' pobl yn dod yma'n unswydd."

Wedi sefydlu ers 2014, esboniodd Jo fod cardiau Nadolig wastad wedi gwerthu'n dda yn y siop a hynny ers y cychwyn cyntaf.

"Dwi wedi paratoi iddyn nhw fynd yn llai poblogaidd dros y blynyddoedd ond dydy hynny just heb ddigwydd i ni.

"Ma' rhedeg allan ohonyn nhw yn fwy o broblem!"

'Pobl o bob oed yn prynu yma'

"Dwi'n meddwl bod pobl yn canolbwyntio ar y rhai sy'n arbennig iddyn nhw y dyddiau yma, efallai, felly 'de ni'n anelu ein cardiau at y bobl hynny," ychwanegodd Jo.

"Siŵr o fod bo' pobl ifanc wyrach yn prynu llai, ond hyd yn oed o ran nhw - dwi'n gweld nhw'n prynu i deulu, ffrindiau neu gariadon efallai.

"Dwi'n falch o ddweud fod pobl o bob oed yn prynu yma."

Dywedodd Jo fod anfon cerdyn yn rhywbeth mwy personol na anfon neges yn ei barn hi.

"Ma' pobl hefo amser i 'sgwennu be' maen nhw eisiau, dwi'n gweld pobl yn cymryd eu hamser a chymryd gofal i bigo'r cardiau ma' nhw eisiau.

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn dda iawn i ni eleni, 'de ni wedi bod yn lwcus iawn."

Catrin HalletFfynhonnell y llun, Gofal Canser Tenovus
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Catrin Hallet fod gwerthu cardiau Nadolig yn "rhan really pwysig" o'r hyn mae elusen Tenovus yn ei wneud

Catrin Hallet ydy Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Tenovus - yr elusen gofal canser Cymreig - ac maen nhw'n gwerthu cardiau Nadolig pob blwyddyn.

Esboniodd fod eu ffigyrau dros y blynyddoedd diwethaf yn gadarnhaol yn gyffredinol, gyda gwerthiant cardiau i'w weld ar gynnydd.

"Blwyddyn yma ni wedi gwerthu dros 22,000 yn barod, so ni'n gobeithio gwerthu mas erbyn diwedd y mis!

"Ni bach ymlaen o flwyddyn diwetha', 20,000 oedd ffigwr y llynedd, felly ni ar y trywydd i werthu mwy 'leni ac mae mwy o stoc 'da ni tro 'ma fyd."

Cardiau NadoligFfynhonnell y llun, Cant a mil

Doedd Catrin ddim yn siŵr pam fod y gwerthiant cymaint yn well eleni na'r llynedd, ond pwysleisiodd fod gwerthu'r cardiau ar y we yn sicr wedi helpu.

"Mae'r siop ar-lein dal yn eitha' newydd ac mae gwerthiant ar-lein dros 100% yn fwy na'r llynedd, felly mae wedi tyfu lot ac mae gwerthiant y siopau wedi tyfu hefyd.

"Mae'r ffaith bod y cardiau mewn amrywiaeth o ieithoedd wedi helpu 'fyd fi'n credu," meddai.

'Ffordd dda o gefnogi elusen'

Cynhyrchu incwm i'r elusen ydy prif nod gwerthu'r cardiau ac mae'r incwm hwnnw'n parhau i fod yn bwysig iawn, yn ôl Catrin.

Ond nid dyma'r unig reswm bod y cardiau yn help, gan fod "codi ymwybyddiaeth a brand exposure" hefyd yn elfennau i'w hystyried.

"Mae'n ffordd dda o gefnogi elusen, mae'n codi proffil yr elusen, rhan really pwysig o be' ni'n neud 'ma."

Ychwanegodd Catrin fod y cardiau yn "100% recyclable y flwyddyn yma - dim gliter a phethau fel 'na."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig