Hoff jôcs Nadolig plant Cymru
- Cyhoeddwyd
Un o draddodiadau'r Nadolig erbyn hyn yw cyd-ochneidio o amgylch y bwrdd cinio yn ymateb i jôcs gwael y cracyrs. Er mwyn ceisio cael rhai 'chydig yn well na'r hyn sydd gan yr addurniadau bwrdd i'w gynnig aeth Cymru Fyw ar ofyn rhai o blant Cymru.
Penderfynwch chi os ydyn nhw'n well na'r rhai'r cracyr cyffredin...
Hoff jôcs Nadolig Plant Cymru
Lena, Aberystwyth
Beth sy'n ddu a gwyn ac efo trwyn coch?
Mŵdolff!
Ani, Rhuthun
Beth ddywedodd yr anrheg Nadolig wrth yr anrheg Nadolig arall?
Paid â'n ysgwyd i, dw i'n sensitif
Gronw, Pwllheli
Pwy sy'n canu ym Mhegwn y Gogledd?
Y Côr-achod!
Sara, Caerdydd a Guto, Caerdydd
Beth wyt ti'n cael os wyt ti'n bwyta addurn Nadolig?
Tinsel-itis
Brynmor, Ynys Môn
Beth wnaeth y dyn eira ddweud wrth y dyn eira arall?
Ti'n ogleuo carrots?
Beca, Rhuthun
Beth yw hoff ddawns Siôn Corn?
Jingle Bell Rock
Osian, Caerdydd
Beth sy'n goch a gwyn ac yn mynd i fyny ac i lawr?
Siôn Corn mewn lifft
Swyn, Carmel
Lle mae Siôn Corn yn mynd ar ei wyliau?
I ho-ho-hotel
Osian, Caerdydd
Beth ydych chi'n galw dyn eira a fampir gyda'i gilydd?
Frost bite
Gruff, Caerdydd
Ble mae Gavin yn prynu anrhegion Nadolig Stacey?
Lush
Deio, Ynys Môn
Beth wyt ti'n galw dyn eira yn Awstralia?
Pwll
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2025
