Oriel: Dathliad Nadolig mewn canolfan i bobl ddigartref yng Nghaerdydd

Staff yn arlwyo bwyd i'r digartref yn yr HuggardFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Nadolig yn gyfnod prysur iawn yng nghanolfan Huggard i bobl ddigartref yng Nghaerdydd, fel mae Adam Rees, y prif weithredwr, yn esbonio: "Gall fod yn gyfnod anodd iawn i'r rhai ni'n eu cefnogi.

"Yn aml, dyw'r pethau hynny rydyn ni'n eu cymryd yn ganiataol adeg y Nadolig ddim yn rhan o fywyd ein cleientiaid ni; bod gyda theulu a ffrindiau, cael amser i ffwrdd, derbyn anrhegion a chardiau sy'n bersonol i chi.

"Efallai bod ganddyn nhw brofiadau negyddol iawn o Nadolig yn y gorffennol neu mae'r Nadolig yn atgoffa nhw o'r hyn maen nhw wedi'i golli.

"Yn Huggard, rydyn ni'n hoffi gwneud yn siŵr bod ein dathliadau Nadolig yn cydnabod hynny."

Ac felly mae gwirfoddolwyr a staff yn sicrhau fod gweithgareddau Nadoligaidd yn y cyfnod cyn y diwrnod mawr gan gynnwys ambell i wledd draddodiadol. Ar y diwrnod ei hun mae anrheg i bawb.

Meddai Adam: "Mae croeso i bawb yn y ganolfan ar gyfer y Nadolig, ac nid oes neb yn cael ei wrthod."

Dyma flas ar fywyd yn y ganolfan wrth i'r ŵyl nesau.

Cinio rhost i bawb...Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Tynnu cracyrs ar draws y bwrddFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Staff a gwirfoddolwyr sy'n paratoi a gweini'r bwydFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Un o'r cleientiaid yn mwynhau ei fwydFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Cleientiaid mewn hetiau yn mwynhau'r wleddFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Staff y gegin yn paratoi'r bwydFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Cinio Nadolig traddodiadolFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Un o'r cleientiaid yn bwytaFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Pwdin i ddilyn y brif gwrs...Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Plat gwag ar ddiwedd y wleddFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Gwirfoddolwyr a staff oedd yn gyfrifol am y pryd NadoligFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Y prif weithredwr Adam ReesFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Hefyd o ddiddordeb: