Lansio prosiect ail-wylltio mwyaf Cymru ar 1,200 erw yng Ngheredigion

- Cyhoeddwyd
Mae prosiect ail-wylltio mawr wedi cael ei lansio yn Elenydd, neu Fynyddoedd Cambria, gan elusen Gymreig.
Mae'r elusen Tir Natur wedi prynu 1,195 o erwau o dir ger Tregaron yng Ngheredigion.
Gobaith yr elusen ydy i'r prosiect ddangos sut y gall ail-wylltio gefnogi bywoliaeth pobl mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal â helpu natur a bywyd gwyllt.
Ond mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud bod pryderon ynghylch y prosiect, gan godi cwestiynau ynghylch sut y bydd cymaint o dir yn cael ei reoli a'i ariannu.
Beth fydd yn digwydd?
Mae'r prosiect yn bwriadu cyflwyno gwartheg o fridiau gwydn i'r tir, sydd eisoes yn gynefin i ferlod mynydd Cymreig, ac mae'n bosib y bydd bridiau hynafol o foch hefyd yn cael eu cyflwyno maes o law.
Yn ôl y prosiect, bydd pori a chrwydro'r anifeiliaid hyn yn "helpu adfer brithwaith o gynefinoedd a chreu'r amodau i hybu cyfoeth o rywogaethau."
Dros y pum i ddeg mlynedd nesaf, mae disgwyl i'r prosiect gyfrannu at fanteision o bwys cenedlaethol, gan gynnwys mwy o fioamrywiaeth, dŵr glanach, priddoedd iachach, storio carbon gwell a llai o berygl o lifogydd ar dir fferm.

Gobaith Tir Natur ydy dangos beth y gall ail-wylltio ar raddfa fawr ei gyflawni
Mae Tir Natur wedi prynu'r safle yng Nghwm Doethïe yng Ngheredigion oddi wrth ffermwr lleol, ac wedi lansio apêl i godi arian er mwyn sefydlu prosiect ail-wylltio blaenllaw.
Yn ôl yr elusen, dyma fydd y prosiect ail-wylltio mwyaf yng Nghymru, gan ei ddisgrifio fel "moment o arwyddocâd cenedlaethol ar gyfer dyfodol tirweddau, bywyd gwyllt a chymunedau gwledig Cymru".
Mae'r elusen eisoes wedi codi dros 50% o'r cyfanswm o £2.2m, sef cost prynu'r tir, gyda benthyciad pontio dyngarol wedi galluogi Tir Natur i gwblhau'r pryniant.
Mae'r elusen bellach yn lansio apêl gyhoeddus i gyflymu ac ymestyn ei gwaith ail-wylltio, ochr yn ochr â chyllid presennol sy'n cefnogi prosiectau cynnar, swyddi lleol ac ymgysylltu cymunedol.
Adolygiad mawr o'r amgylchedd yn rhybuddio am lygredd a dirywiad
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
Cynllun i weddnewid y sector dŵr yn cynnig 'fflach o obaith'
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
Galw am fwy o fuddsoddiad i ddefnyddio natur i atal llifogydd
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2025
Daw'r lansiad lai na phythefnos ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyhoeddi ei adolygiad diweddaraf o gyflwr amgylchedd Cymru.
Yn yr adroddiad, sy'n cael ei gyhoeddi bob pum mlynedd, rhybuddiodd CNC am "afonydd llygredig, priddoedd sy'n methu" a "bywyd gwyllt sy'n dirywio".
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr adolygiad fod gan rannau o'r wlad "yr ansawdd aer gwaethaf ym Mhrydain" - gan gyfrannu at hyd at 1,400 o farwolaethau cynnar y flwyddyn.
Mae Tir Natur yn gweld ei brosiect ail-wylltio fel ffordd o ymateb i'r dirywiad amgylcheddol, gan obeithio y bydd yn dangos beth y gall ail-wylltio ar raddfa fawr ei gyflawni i Gymru.

Bydd y cynllun yn rhoi "llygedyn o obaith i genedlaethau'r dyfodol" meddai Elen Roberts
Dywedodd Elen Roberts o Tir Natur fod sefyllfa byd natur yng Nghymru ac ar draws y byd yn "gwbl ddifrifol".
"Da ni wir eisiau gwneud rhywbeth positif i Gymru a dod â llygedyn o obaith i genedlaethau'r dyfodol," meddai.
"Da ni eisiau creu safle ail-wylltio mwyaf blaenllaw Cymru, a dangos beth sy'n bosib, codi'r uchelgais a gwahodd pobl i ddod yma a chwympo mewn cariad â natur."
'Cwestiynau allweddol yn parhau'
Ond gall ailwylltio fod yn bwnc dadleuol, gyda phryderon - yn enwedig ymhlith ffermwyr - ynghylch colli tir sy'n cynhyrchu bwyd.
Yn ôl Tir Natur, nid yw hynny'n berthnasol yn yr achos hwn, gan nad oedd y tir a brynwyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu bwyd gan y perchennog blaenorol.
Ond dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru ei fod yn gwrthwynebu cynlluniau ail-wylltio oherwydd "y dystiolaeth glir o niwed ecolegol a'r risgiau economaidd y mae'n eu peri i gymunedau gwledig Cymru a'r rhywogaethau sy'n dibynnu ar reolaeth weithredol".

Mae Tir Natur yn dweud bod y ffermwr a werthodd y safle yn dal i ffermio ar dir cynhyrchiol
Dywedodd Ian Rickman, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, fod pryderon ynghylch "graddfa a thryloywder" y prosiect.
"Er ein bod yn croesawu'r gydnabyddiaeth i rôl pori gwartheg, mae cwestiynau allweddol yn parhau ynghylch sut y bydd ardal mor fawr o dir yn cael ei rheoli a'i hariannu'n ymarferol, yn ogystal â'r oblygiadau ar gynhyrchu bwyd a'r economi wledig ehangach yn y tymor hir," meddai.
Ychwanegodd Undeb Amaethwyr Cymru ei fod am weithio'n agos â hyrwyddwyr y prosiect i sicrhau bod lleisiau ffermwyr lleol yn cael eu clywed a bod unrhyw oblygiadau i'r gymuned yn cael eu hystyried.
Mewn ymateb, dywedodd Elen Roberts nad oedd Tir Natur am weld tir cynhyrchiol yn cael ei dynnu allan o'r system fwyd.
"Mae'r ffermwr wnaeth werthu'r tir yma i ni wedi dal ei afael ar y tir ffermio gorau, ac maen nhw'n dal i ffermio ar y tir yna nawr," meddai.
"Da ni eisiau gweld ffermwyr yn aros ar y tir."