Cynllun i weddnewid y sector dŵr yn cynnig 'fflach o obaith'

Dwr yn llifo o dap du mewn geginFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llywodraethau'r DU a Chymru wedi bod yn ymateb i adolygiad mawr ar ddyfodol y diwydiant dŵr

GanSteffan Messenger
Gohebydd amgylchedd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae creu corff rheoleiddio newydd, datblygu cynlluniau cenedlaethol i adnewyddu seilwaith a chyfyngu ar wasgaru carthion ar dir ymysg cynigion Llywodraeth Cymru i weddnewid y sector dŵr.

Dywedodd gweinidogion bod cyfle "unwaith mewn cenhedlaeth" i ddarparu "afonydd glanach, rheoleiddio cryfach a gwell atebolrwydd".

Bydd y newidiadau yn cymryd blynyddoedd i'w cyflwyno, yn mynnu pwerau newydd i'r Senedd a chyllid sylweddol - mwy nac y bydd modd ei gael drwy filiau cwsmeriaid yn unig.

Dywedodd grŵp Afonydd Cymru bod y cynlluniau yn cynnig "fflach o obaith" ond bod yn rhaid i'r llywodraeth weithredu ar frys.

Wrth gyhoeddi'r cynlluniau mewn cynhadledd i'r wasg yng nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, dywedodd y dirprwy brif weinidog Huw Irranca-Davies ei bod hi'n "bryd ailosod pethau yn sylfaenol".

"Mae Cymru bellach yn wynebu argyfwng gwirioneddol," meddai.

"Mae argyfyngau hinsawdd a natur, seilwaith sy'n heneiddio a phryderon y cyhoedd am ansawdd dŵr yn gofyn am weithredu penderfynol.

"Mae'r system sydd gennym heddiw wedi'i chynllunio ar gyfer cyfnod gwahanol."

Huw Irranca-Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Mae Cymru bellach yn wynebu argyfwng gwirioneddol," meddai Huw Irranca-Davies

Daw yn dilyn adolygiad mawr a gomisiynwyd yn wyneb dicter cynyddol ymysg y cyhoedd ynglŷn â pherfformiad cwmnïau dŵr.

Galwodd yr adolygiad, dan gadeiryddiaeth cyn-lywodraethwr Banc Lloegr Syr John Cunliffe, am newidiadau pellgyrhaeddol i'r modd y mae'r diwydiant yn cael ei oruchwylio yng Nghymru a Lloegr.

Fe gyflwynodd Llywodraeth y DU eu hymateb i'w gasgliadau rai wythnosau yn ôl, gan addo creu corff rheoleiddio dŵr newydd ar gyfer Lloegr, fyddai'n arwain archwiliadau heb rybudd i gwmnïau dŵr a chynnal profion tebyg i MOT ar eu seilwaith.

Beth yw'r cynlluniau yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu sefydlu "rheoleiddiwr economaidd a chynllunydd system" ar gyfer dŵr yng Nghymru, yn lle Ofwat sy'n cael ei ddiddymu.

Byddai'n cefnogi "buddsoddiad hir dymor" mewn isadeiledd, gan gymryd rôl gynllunio genedlaethol er mwyn adfywio pibellau a system garthffosiaeth y wlad.

Byddai'n arwain at "agwedd mwy integredig ac ymatebol i reoli dŵr," meddai'r llywodraeth.

Ond byddai rheoleiddio amgylcheddol a chosbi llygredd yn parhau i fod yn ddyletswydd i Gyfoeth Naturiol Cymru - yn wahanol i'r cynlluniau yn Lloegr am un reoleiddiwr mawr ar gyfer dŵr.

Bydd creu'r corff newydd yn golygu gofyn am bwerau ychwanegol i'r Senedd ac yna pasio deddfwriaeth.

Y disgwyl ydy na fydd yn dechrau ar ei waith tan yn gynnar yn y 2030au.

Llygredd yn amlwg o bibell ger Dociau'r Fflint Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd y cynigion yn arwain at afonydd sy'n fwy glân

Yn y cyfamser mae yna fwriad i lunio strategaeth ddŵr genedlaethol newydd i Gymru ar gyfer y 25 mlynedd nesaf, gan ddiweddaru ar gynlluniau a gyhoeddwyd ddiwethaf yn 2015.

Bydd gallu cwmnïau dŵr i fonitro ac adrodd ar eu perfformiad eu hunain mewn meysydd fel lleihau llygredd hefyd yn cael ei adolygu, "gan gydnabod bod yna bryderon am ba mor gadarn yw'r systemau yma".

Gallai camau i "gynnig rhagor o sicrwydd" gynnwys mwy o ddefnydd o dechnoleg ac archwiliadau.

Bydd yna gyfyngiadau pellach hefyd ar wasgaru carthion ar gaeau fel gwrtaith.

Gail Davies-Walsh o Afonydd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gail Davies-Walsh o Afonydd Cymru yn ymbil ar weinidogion i weithredu'n gyflym

Dywedodd Afonydd Cymru eu bod yn arbennig o falch o weld y cynnig hwnnw, gan nodi bod gwasgaru amhriodol o'r math yma o ddeunydd ymysg "y prif gyfranwyr tuag at lefelau uchel o faetholion Cymru", yn ogystal ag arwain at "achosion penodol, catastroffig" o lygredd.

Dywedodd prif weithredwr y grŵp Gail Davies-Walsh bod cynigion y llywodraeth i'w croesawu ar y cyfan, gan "gynnig potensial am newid cadarnhaol i'n hafonydd".

Ond mae hi'n ymbil ar weinidogion i weithredu'n gyflym.

"Rhaid cofio bod hyn yn ymgynghoriad ar hyn o bryd a dim byd yn bendant," meddai.

Mae'r "mater anodd" o sut fyddai'r newidiadau yn cael eu cyllido yn aneglur hefyd, meddai, a byddai "angen mwy o arian na fydd yn bosib ei godi drwy filiau cwsmeriaid yn unig".

'Llawer o bobl yn awyddus am newid'

Dywedodd Chris Walters, prif swyddog gweithredol dros dro Ofwat, y byddai'r corff yn cefnogi'r gwaith o sefydlu rheoleiddiwr newydd ac yn "parhau i fod wedi ymrwymo i gyflawni ein swyddogaethau craidd" yn y cyfamser.

"Roedd Ofwat eisoes yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, DEFRA, Cyfoeth Naturiol Cymru a rheoleiddwyr eraill i sicrhau bod y sector yn symud tuag at ddyfodol mwy integredig a gwydn," meddai.

"Cymeradwyodd ein Hadolygiad Prisiau 2024 y buddsoddiad mwyaf erioed yng Nghymru - dros £6.3bn - a fydd yn galluogi gwelliannau mawr i gwsmeriaid a'r amgylchedd erbyn 2030."

Dywedodd Rhodri Williams o'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW) fod "llawer o bobl yng Nghymru yn awyddus am newid, a gall y Papur Gwyrdd fod yn gatalydd i adfer ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y sector dŵr".

"Mae llai na hanner y defnyddwyr yng Nghymru yn fodlon ag ymdrechion eu cwmni dŵr i ddiogelu'r amgylchedd, felly mae'n galonogol gweld cynigion i gynyddu tryloywder ynghylch perfformiad amgylcheddol.

"Mae pobl eisoes yn teimlo'r boen yn eu poced oherwydd biliau dŵr uwch ac mae angen iddyn nhw weld tystiolaeth bod eu harian yn gwneud gwahaniaeth i'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw."

Gobeithio am 'sgwrs genedlaethol'

Bydd ymgynghoriad ar gynlluniau'r llywodraeth yn para tan fis Ebrill.

Dywedodd Mr Irranca-Davies ei fod yn gobeithio am "sgwrs genedlaethol".

"Gyda'n gilydd, rydyn ni'n rhannu cyfrifoldeb i adael ein hamgylchedd dŵr mewn cyflwr gwell nag y gwnaethom ei ganfod - gwydn, cynaliadwy ac yn barod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol," meddai.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar newid hinsawdd, Delyth Jewell, eu bod "wedi galw ers tro am sefydlu, ac wedi ymrwymo i gyflawni, corff rheoleiddio newydd penodol i Gymru ar gyfer dŵr er mwyn dwyn cwmnïau dŵr i gyfrif am eu perfformiadau a sicrhau gwell gwerth am arian i gwsmeriaid".

Mae'r blaid yn galw am "ddatganoli pwerau dros ddŵr yn llawn".

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd a'r amgylchedd, Janet Finch-Saunders, na fyddai "creu rheoleiddiwr dŵr newydd yn unig" yn "gweld afonydd glanach yn sydyn yng Nghymru".

"Ni fydd rheoleiddiwr newydd yn atal gollyngiadau carthffosiaeth, ni fydd yn trwsio seilwaith sydd wedi torri ac ni fydd yn atal cynnydd pellach mewn biliau dŵr," meddai.

Dywedodd Reform UK Cymru y byddai pobl yng Nghymru yn "barnu'r diwygiadau yma ar eu canlyniadau".

"Mae angen i brisiau sefydlogi i leddfu costau byw, ac mae angen i ni gefnogi Dŵr Cymru i uwchraddio ein rhwydwaith," meddai.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds eu bod wedi "pwyso'n gyson am gyllid priodol i fynd i'r afael â llygredd afonydd, felly rydym yn falch ein bod, drwy ein cytundeb cyllidebol, wedi sicrhau £5m eleni a £5m y flwyddyn nesaf i gryfhau gorfodi a rheoleiddio".

"Yr hyn sy'n bwysig nawr yw sut mae'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio. Nid oes angen rownd arall o eiriau cynnes ar Gymru."

Dywedodd y Blaid Werdd: "Mae wedi bod yn amlwg ers peth amser bod angen rheoleiddiwr ei hun ar Gymru.

"Mae'r cynlluniau hefyd yn gywir i ddweud bod angen rheolaeth lawn dros ei dŵr ar Gymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.